8.1.15

Bwrw Golwg- yr actores Jane Vaughan

Bwrw Golwg: Cyfres achlysurol yn edrych ‘nôl ar rai o gymeriadau a sefydliadau hanesyddol ein bro.
llun o gasgliad W. Arvon Roberts

Ganwyd yr actores brydferth Jane Vaughan yn Ffestiniog yn 1911. ‘Roedd hi’n ŵyres i E.P. Jones, Blaenyddol, un a fu’n Ustus Heddwch yn negawdau cynnar y ganrif ddiwethaf. Er iddi orfod gadael Cymru i ddilyn ei gyrfa lwyddiannus ym myd y ddrama, etifeddodd gariad at ei gwlad. Efallai fod hynny i ryw raddau oherwydd bod ei mam yn un o deulu'r Vaughaniaid oedd yn meddu tiroedd ym Meirion ers cenedlaethau lawer.

Bu am bum mlynedd mewn ysgol yn Ffrainc, ac yna yn Academi Frenhinol Celf Dramatig Llundain. Dechreuodd ei gyrfa gyda dramau Shakespeare yng nghwmni Frank Benson (1858 – 1939) a ddywedodd amdani pan gafodd rannau pwysig: “All Welsh people make good actors”.

Ar ôl hynny, bu Miss Vaughan yn actio gyda Miss Irene Vanburgh (1872 – 1949) yn ‘Art and Mrs Bottle’. Tra oedd Miss Joan Barry (1903 – 1989) a ymddangosodd yn ffilmiau cynnar Alfred Hitchcock ar ei gwyliau, cymerodd Jane Vaughan ei rhan yn Theatr y Queen’s, Llundain, ochr yn ochr â Miss Gwen Ffrangcon-Davies (1891 – 1992), Bethesda, yn ‘The Barretts of Wimpole Street’ (Rudolf Besier), sef stori garwriaeth y beirdd Robert Browning ac Elizabeth Barrett. Yn ddiweddarach bu’n chwarae yn Theatr y Playhouse yn West End Llundain.

Un o berfformiadau gorau Miss Vaughan, yn ôl cylchgronau theatr y cyfnod, oedd ei rhan wych yn yr act gyntaf o’r ddrama ‘The Silver Cord’ yn 1927. Ymddangosodd wrth y cyrten ar y llwyfan deirgwaith cyn i’r gymeradwyaeth arafu.

Beth fu hanes Jane Vaughan ar ôl tri degau’r ganrif ddiwethaf tybed? A oes yna ddisgynyddion yn ardal Ffestiniog yn dal i fod? Tybed a lwyddodd hithau i gael ei lle ym myd y ffilmiau fel y rhai oedd yn cydoesi â hi yn y theatr bryd hynny?

-----------------------
Ymddangosodd fersiwn lawnach o'r uchod, gan W. Arvon Roberts, Pwllheli,  yn rhifyn Rhagfyr 2014.





No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon