25.1.15

Yr Ysbyty- DENG MLYNEDD O YMGYRCHU

Rhan o erthygl y Pwyllgor Amddiffyn, o rifyn Ionawr 2015:

Fe ffurfiwyd y Pwyllgor Amddiffyn union ddeng mlynedd yn ôl i’r mis hwn ac ymddangosodd yr erthygl gyntaf ar dudalen flaen Llafar Bro  rhifyn Ionawr 2005 o dan y pennawd ‘DIGON YW DIGON’.

Ein cŵyn ar y pryd oedd bod y clinig Ffisiotherapi ar Ffordd Tywyn yn cael ei gadw’n fwriadol ar gau ar esgus salwch y ffisiotherapydd. Ond roeddem yn dangos pryder hefyd, mor gynnar â hynny, ynglŷn â dyfodol yr Adran Pelydr-X  a’r Ysbyty Coffa ei hun. Fis yn ddiweddarach, y pennawd oedd ‘CODI LLAIS A DANGOS DANNEDD GOBEITHIO’ a dyna a wnaethoch chi, bobol yr ardal, ac mae’r gefnogaeth honno wedi dal yn gyson ac yn gadarn dros y blynyddoedd.

Chafodd y clinig ffisiotherapi mo’i ail agor, wrth gwrs, ac ymhen hir a hwyr fe drosglwyddwyd yr offer o Ffordd Tywyn i adeilad yr Ysbyty ei hun gan ddisodli Ward y Dynion yn fan’no, yn ogystal â’r Ystafell Ddydd. Esgus y Bwrdd Iechyd oedd bod trefniant felly yn llawer mwy hwylus o safbwynt y cleifion oedd angen triniaeth ffisiotherapi, ond buan y daeth eu twyll i’r amlwg pan ddechreuson nhw sôn am ‘ddiffyg preifatrwydd’ oherwydd bod gwlâu’r dynion, bellach, yn rhy agos at Ward y Merched a bod y cleifion i gyd yn gorfod rhannu’r un Ystafell Ddydd.

Yna, yn Ionawr 2008, fel ateb i’r broblem, fe gynigiodd y Pwyllgor Amddiffyn, ar y cyd efo Cyfeillion yr Ysbyty, agor cronfa a fyddai’n cyfarfod hanner y gost (sef £150,000) o godi estyniad ar gyfer ward newydd sbon neu adran ffisiotherapi bwrpasol, beth bynnag fyddai dymuniad y Bwrdd Iechyd. Fe aeth misoedd lawer heibio cyn i’r Betsi hyd yn oed gydnabod y cynnig, cyn iddyn nhw wedyn ei wrthod heb unrhyw fath o eglurhâd. Felly dyna ichi’r math o bobol drahaus y buom ni’n ceisio delio efo nhw ers y dyddiau cynnar!

Dros y blynyddoedd mae bron 40 o erthyglau wedi ymddangos yn ‘Llafar’ o dan enw’r Pwyllgor Amddiffyn ac rydym yn hynod o ddiolchgar i’n papur bro am ddangos y fath gefnogaeth ac arweiniad yn yr ymgyrch. Mae ei dudalennau wedi bod yn gyfrwng cyson inni hysbysu pobol yr ardal am yr hyn oedd yn mynd ymlaen o flwyddyn i flwyddyn, a bu’n gymorth gwerthfawr hefyd wrth inni drefnu sawl rali - dwy rali fawr ar strydoedd y dref, un arall i lawr i’r Senedd yng Nghaerdydd ac un i Landudno i gefnogi’r ymgyrch yn fan’no.

Un o arwyddion Rali Medi 2005

Bu tudalennau’r papur hefyd yn fodd o roi sylw i’r deisebau a gafodd eu harwyddo gan filoedd ar filoedd ohonoch dros y blynyddoedd ac erbyn hyn, mae'r Cyfarfod Arbennig ar Ionawr 13eg, gyda’ch cefnogaeth chi, wedi galw am i Refferendwm gael ei gynnal ac y bydd dyddiad wedi cael ei benderfynu i gynnal Pleidlais Gymunedol yn y Blaenau, Llan a Dolwyddelan.

Mae ymgyrchwyr Fflint yn ymhyfrydu bod 99% o’r 3,500 a bleidleisiodd yn eu refferendwm hwy wedi galw am gael gwlâu yn ôl i’w hysbyty ac erbyn heddiw maen ymddangos bod trigolion yr ardal honno yn ffyddiog y byddan nhw’n llwyddo. Pob lwc iddyn nhw ddwedwn ni, ond gadewch i ninnau ddangos i’r Betsi ein bod ninnau hefyd, yn yr ardal hon, yr un mor benderfynol o gael ein hawliau; sef yr un hawliau ag a roddwyd yn ddi-gwestiwn i bobol Tywyn a Phorthmadog a Phwllheli a threfi eraill glan-y-môr.

Bydd y Cyngor Tref yn cynnal y Refferendwm, neu’r Bleidlais Gymunedol fel y’i gelwir, yn Blaenau a Llan ar Ionawr 27ain mwy na thebyg, a bydd Cyngor Cymunedol Dolwyddelan yn gwneud yr un peth yn eu pentref hwythau ar yr un dyddiad.

Apêl arbennig unwaith eto, felly, at bawb ohonoch fydd â phleidlais yn y refferendwm-

i wneud pob ymdrech bosib i’w defnyddio hi,

a hynny o blaid cael y gwasanaethau yn ôl. Nid yn unig hynny, ond mae’n bwysig hefyd eich bod yn dwyn perswâd ar bawb o’ch teulu a’ch ffrindiau i wneud yr un peth. Un gair o rybudd, fodd bynnag – Ni chaniateir pleidlais bost mewn refferendwm.

Chwiliwch am y posteri am fwy o fanylion!

GVJ

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon