Rhannau o'u hadroddiadau, o rifynnau Hydref, Tachwedd a Rhagfyr 2014
Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog:
Adroddodd y Llywydd, Robin Davies fod yr arddangosfa unwaith eto eleni wedi bod yn bur llwyddiannus a bod tua 1800 o ymwelwyr wedi galw i mewn ac arwyddo llyfr yr ymwelwyr. Diolchwyd i’r gwirfoddolwyr am eu gwaith yn stiwardio dros y tymor.
Gŵr gwadd cyfarfod Medi oedd Bill Jones. Cafodd Bill ei addysg yn lleol a bu’n gweithio ar hyd yr amser i’r Comisiwn Coedwigaeth a thra yno enynnodd diddordeb mewn hanes lleol ac archaeoleg. Testun ei sgwrs oedd 'Canfyddiadau diweddar wrth gloddio' a defnyddiodd sleidiau i egluro’r ddarlith. Dechreuodd drwy sôn am y gwaith a wnaeth ef ynghyd a Mary a’r tîm yn tyllu yng Nghwm Penamnen i ddatguddio tai hynafol Meredudd ap Ieuan (1500).
Bu’r Gymdeithas yn ymweld â’r safle rhai blynyddoedd yn ôl. Soniodd hefyd am rai o’r bobl oedd yn byw yno megis Angharad James a’i dylanwad yn yr ardal. Y man nesaf a gyfeiriodd ato oedd y Cribau. Dangosodd sleidiau o’r hen adfail a chlywsom am y bywyd caled a’r trychinebau a ddigwyddodd yno. Soniodd hefyd am lefydd eraill yn ardal Dolwyddelan fel Bryn Beddau, Ffynnon Elan a Chwarel Hones. Diddorol oedd gweld yr offer a ddefnyddiwyd i lifio'r cerrig yn y chwarel. Daeth a ni wedyn i Gwmorthin a dangoswyd nifer o luniau o’r hen adeiladau oedd yno. Maent yn parhau i dyllu a darganfod llawer o eitemau diddorol ac mae yn rhaid canmol Cymdeithas Cofio Cwmorthin am eu gwaith rhagorol. Mae Bill newydd gael ei benodi yn Gadeirydd Cymdeithas Archaeoleg Bro Ffestiniog ac yr ydym yn ei longyfarch am yr anrhydedd. Talwyd diolchiadau am ddarlith llawn hiwmor, fel y buasech yn disgwyl gan Bill, gan Dafydd Jones sydd wedi bod yn tyllu sawl tro efo fo.
Ym mis Hydref roedd yn braf croesawu nifer nad oeddynt wedi bod yn ein cyfarfodydd o’r blaen. Wrth gyflwyno'r gŵr gwadd, Geraint Vaughan Jones, disgrifiodd y Llywydd, Robin Davies, ef fel nofelydd a chyn-athro ond yn bennaf fel cymwynaswr mawr i’r ardal drwy ei waith clodwiw yn llywio'r ymgyrch i amddiffyn ein Hysbyty Goffa. Testun ei sgwrs oedd Dyddiau Cynnar yr Ysbyty Goffa. Eglurodd Geraint fod ei sgwrs wedi ei seilio ar y llyfr “Ysbyty Coffa Dewrion Ffestiniog a’r Cylch 1925-1948” gan Doctor Eddie John Davies, un ohonom ni o’r Blaenau wrth gwrs.
Defnyddiodd Geraint sleidiau o adroddiadau blynyddol yr ysbyty ac yr oedd hyn yn fwy effeithiol na’r gynulleidfa yn derbyn manylion moel a ddarllenid gan ddarlithydd. Gwelsom sleidiau yn rhestru pob math o ffeithiau am yr ysbyty o’r dyddiau cynnar fel pwy oedd wedi cyfrannu a phwy oedd ar y pwyllgor ac yn pwysleisio fod yr ysbyty yn un i ardal eang, ddim i Blaenau yn unig. Cawsom ystadegau yn dangos faint o gleifion a anfonwyd i’r ysbyty a pha feddyg anfonwyd hwy. Gwelwyd yn syth mae'r diweddar Dr Morris oedd ar ben y rhestr. Dangoswyd y paneli derw ar furiau'r coridor ac arnynt Rôl Anrhydedd y bechgyn a gollwyd yn y Rhyfel Mawr 1914-18 a'r ardaloedd lle yr oeddynt yn byw.
Dangoswyd ffilm fer am agoriad yr ysbyty gyda niferoedd lu yn gorymdeithio i’r ysbyty ac yn ymgasglu mewn llefydd fel Carreg Defaid – biti na fasa Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi gweld y ffilm cyn gwneud ei benderfyniad i gau'r ysbyty! Gorffennwyd gyda nifer o luniau o’r staff, nyrsys a meddygon, ac y mae yn siŵr fod y nyrsys oedd yn y gynulleidfa wedi mwynhau gweld eu hen ffrindiau ar y sgrîn. Talwyd y diolchiadau gan Dafydd Roberts, Cae Clyd, un sydd ar bwyllgor amddiffyn yr ysbyty, gan ddweud mor ysbrydoledig a gweithgar oedd Geraint yn arwain y ffordd iddynt yn y pwyllgor.
Yng nghyfarfod Tachwedd, daeth nifer dda o aelodau a llawer o wrandawyr newydd i glywed ein hysgrifennydd, Gareth Jones, yn darlithio ar “O Fethania i Seion”. Yr oedd cryn ddyfalu o flaen llaw beth oedd ystyr y testun a chlywsom hanes Mormon cyntaf Stiniog -Dafydd Roberts- yn cael ei fedyddio yn 1846 er gwaethaf gwawdio ei gyd-chwarelwyr, a'i daith o Fethania, 'Stiniog, i Salt Lake City yn 1856. Roedd y rhan fwyaf o Formoniaid Stiniog wedi cychwyn am Utah gyda David Peters o Rhydsarn yn 1849. Clywsom am drafferthion y daith a gafodd criw Dafydd o Lerpwl i Boston- gyda chorwynt garw tra ar y fordaith a sychder a newyn wrth iddynt groesi y Great Plains a’r Black Hills gyda’u troliau wrth gerdded o Iowa City i gyrraedd pen eu taith. Cafodd y teulu amser caled yn Utah a bu farw Dafydd yn 1858 o ddiphtheria.
Daeth un aelod o'i deulu, David yn ymgeisydd i'r Gweriniaethwyr ac enillodd sedd yn y Senedd yn 1902. Roedd yn ddiddorol clywed bod 20% o bobl Utah heddiw efo gwaed Cymreig.
Cynhelir y cyfarfod nesaf ar Ionawr 21ain, 2015 pryd y disgwylir Steffan ab Owain i roi yr ail ran o’i ddarlith Pensaerniaeth Wledig.
Robin Davies
RHAMANT BRO
Erbyn hyn mae cylchgrawn y Gymdeithas, Rhamant Bro, ar werth. Beth am yrru copi'n anrheg i aelodau o'r teulu sydd wedi symud o'r fro?
Mae'n werth bob dima' o deirpunt, ac yn llawn dop o erthyglau, lluniau a phigion.
Cymdeithas Hanes Bro Cynfal:
Coffáu Dechreuad y Rhyfel Mawr. Cyfarfu’r Gymdeithas ar ddechrau tymor newydd ar nos Fawrth, Medi 10, pan aethom i Ganolfan Llys Ednowain, Trawsfynydd, i gyfarfod a Keith O’Brien. Roedd yn noson braf a phobman ar ei orau, a chafwyd croeso cynnes yn yr adeilad hwylus. Yno'r oeddym i glywed ganddo rai o hanesion Maes y Magnelau a Hedd Wyn gan ei bod yn gan mlynedd ers dechrau ‘y rhyfel i orffen pob rhyfel’. Diddorol oedd gwrando ar Keith a chlywed hanes y ‘Camp’ fel ei gelwid a fu yn yr ardal o 1903-1959. Hefyd clywyd i 34 o fechgyn o ardal Traws gael eu lladd yn rhyfel 1914-18 a gwelwyd llun ohonynt sydd ar gadw ymhlith pethau diddorol eraill yn Llys Ednowain.
Soniodd Keith hefyd am ddadorchuddio’r gofeb i’r milwyr Cymreig yn Langenmark a ddigwyddodd ychydig ynghynt a chyfraniad Isgoed Williams a’i gyfaill, Leiwen, a fu’n gymorth mawr i wireddu hyn. Diweddwyd y noson gyda swper blasus yn Rhiw Goch (a ddefnyddiwyd gan y fyddin wrth gwrs) gyda Keith yn ymuno a ni. Noson dda i gychwyn y tymor.
Yng nghyfarfod Hydref aeth yr aelodau i Harbwr Porthmadog i ymweld â’r Amgueddfa Forwrol yno.
Croesawyd ni gan Robert Cadwaladr Jones a Dewi Jones i’r lle diddorol
hwn, a chawsom hanes ynghyd a fideo'r llongau a’u cargo a hwyliodd yn ôl
ac ymlaen o borthladd prysur iawn Porthmadog i bob rhan o’r byd.
Diddorol oedd enwau'r llongau a hefyd y mannau lle’r oeddynt yn hwylio
iddynt, a diddorol fuasai mynd yn ôl mewn amser i weld y bwrlwm oedd yn
Port yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Wrth gwrs roedd gan bob chwarel
yn y Blaenau ei chei arbennig lle llwythid y llechi a ddeuai i lawr afon
Dwyryd i Ynys Cyngar yr adeg honno. Clywsom fod y capteiniaid a’r
peilotiaid yn byw ym Morth-y-gest lle’r adeiladwyd llawer o’r llongau.
Diweddwyd y noson gyda phryd o fwyd yn Nhafarn Pencei - noson ddifyr a
diolch i John am drefnu.
Ein gŵr gwâdd ym mis Tachwedd oedd Tecwyn Vaughan Jones, sydd yn un o drigolion Llan ers rhai blynyddoedd bellach. Rhoddwyd crynodeb o yrfa ddisglair Tecwyn gan Lonna oedd yn cynnwys swydd yn Sain-Ffagan, swydd yn Newfoundland, Caerdydd, Celtica yn Machynlleth, a chyfnod yn America ac ym Mhrifysgol Bangor. Ymddeolodd eleni. Mae’n un o olygyddion Llafar Bro, ac mae yn gweithio i ail-sefydlu cangen o’r British Heart Foundation yn y Blaenau. Treuliwyd noson ddifyr yn ei gwmni yn son am arferion Nadolig a Chalan Gaeaf a difyr oedd clywed am darddiad yr arferion ynglŷn â’r Gwyliau hyn, a deall fod cysylltiad paganaidd ynghlwm â’r hyn a ddathlwn. Roedd yn noson ddifyr aeth a ni ar daith i lawer ardal yng Nghymru i sôn am wahanol arferion yr adeg hon o’r flwyddyn.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon