2.11.13

Gwyl rhif 6

Darnau o rifyn Hydref, efo hanes y band arian a'r Brythoniaid yng ngwyl gerddorol Portmeirion.

SEINDORF yr Oakely:



Ers dros chwarter canrif bellach bu’r band yn diddori ymwelwyr ym Mhortmeirion ar brynhawniau Sul trwy gydol yr haf gyda channoedd yn gwerthfawrogi ac yn mwynhau eu cerddoriaeth.  Yn goron ar hynny eleni  cafwyd gwahoddiad yn ôl ddiwedd yr haf i berfformio yn y pentref hudolus hwn yng ngŵyl No.6.  


 Cafodd yr Oakeley groeso penigamp gan y gynulleidfa o filoedd yn curo dwylo a ddim am i’r band dawelu!  Ar ôl y perfformiad bu cyfle i’r aelodau ymlacio i fwynhau gweddill yr ŵyl.  Penwythnos o adloniant gwerth chweil.

Gŵyl Gelfyddydau’r Bermo: Braint arall i’r Oakeley oedd cael agor Gŵyl Gelfyddydau'r Bermo ddechrau mis Medi.  Cafwyd cyngerdd mawreddog a’r band yn brif westai yn agor yr ŵyl yn Theatr y Ddraig, Bermo.

Jazz:  Y drydedd ŵyl i’r band fod a chysylltiad â hi eleni oedd Gŵyl Jazz Abersoch ar ddiwedd mis Medi. Daeth nifer fawr i wrando ar y band yn chwarae  yng nghanol y pentref a phawb  i weld yn mwynhau a chael hwyl.

COR y BRYTHONIAID:

Roedd y croeso a gawsom yn fyddarol, yn gymysgfa wallgo o floeddio a chymeradwyo, yn ddigon i synnu hyd yn oed aelodau mwyaf profiadol y Côr - profiad bythgofiadwy! Dyma ddechrau gyda’r gân a ddaeth a’r Côr i amlygrwydd ym Mhortmeirion yn 2012, sef “Blue Monday”. Croesawyd y gân gyda bonllef wrth i’r gynulleidfa adnabod y cordiau agoriadol, ac yn fuan roedd ‘na  lawer o siglo a dawnsio egnïol - rhywbeth eithaf anghyfarwydd i’r Côr! 



Wedi’r fath ddechreuad gwych aeth y Côr o nerth i nerth, gyda phob cân yn cael derbyniad gwresog a gwrandawiad hynod werthfawrogol. I ddarfod y noson fe ganodd y Côr eu caneuon newydd a safodd y dorf are eu traed. 

Roedd y profiad yn un gorfoleddus i bob aelod o’r Côr, yn un a fydd yn aros yn y cof am gyfnod maith. 

Ar ddiwedd tri pherfformiad roedd y Côr uwchben eu digon, ac er iddynt berfformio pedair noson yn olynol ni chlywyd neb yn cwyno nag yn edliw. Dyma brofiad fydd yn aros gyda ni am hir iawn!
 

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon