9.11.13

Atgofion Golffio

Gan fod y Clwb Golff Ffestiniog yn paratoi i gau'r drysau am y tro olaf, daeth ein gohebydd yn y Llan, ar draws hen atgofion difyr iawn gan Franko, o 1969. Dyma ddetholiad o'r straeon ymddangosodd yn rhifyn Hydref, sydd dal yn y siopau am ychydig ddyddiau eto.

Mae Nesta'n cyflwyno'r darn fel hyn:

'Franko wrth gwrs ydi'r cymeriad annwyl -mab i Morris Evans- sef Frank Evans fu'n cynhyrchu 'Oel Taid' fel y galwai o OEL MORRIS EVANS.'


Lluniau:
bathodyn oddi ar wefan y clwb golff; ffotograff o wefan siambr fasnach Blaenau Ffestiniog.


 

DYDDIA' GOLFF YN STINIOG

Roeddwn yn dechrau chwarae golff yn y flwyddyn 1906... cof sydd gennyf o fynd i Ben y Cefn fin nos. Roedd Joe Hughes -un o golfers gorau fu erioed yn chwarae yno- yn dysgu puttio ar y green olaf.  Dyma Joe yn betio efo fi y buasai’n dreifio ei bêl oddi ar ei Hunter Watch oedd newydd ei chael y bore hwnnw. 


Dyma Joe yn gosod ei bêl ar y watch, ac yn dreifio, a'r peth nesaf a welwn oedd y watch a’r bêl yn mynd, a’r watch yn ddarnau, a Joe yn edrych yn syn.  

Dro arall, roedd ryw chwech ohonom yn chwarae efo’n gilydd ‘Penny a Hole’.  Cafodd Wil John drive dda, ond tra roedd yn chwilio am ei bêl, bu i Harry Baker a minnau roi carreg fawr wrth y bêl, a bu Wil yn damio’r hen garreg, ond bu i Harry Baker a minnau fethu dal heb chwerthin.  “Y diawliaid sâl, “ meddai Wil gan symud y garreg.  Rhaid oedd gadael iddo ennill y twll hwnnw, a thalu’r geiniog iddo i dawelu’r storm.


                                                     ----------------------------------------

Hefyd, yn rhifyn Medi, bu gohebydd arall, ac aelod o'r clwb, Pegi, yn codi atgofion am y clwb o rifynnau cyntaf Llafar Bro ym 1975.



Fis Ebrill diwethaf dechreuwyd chwarae golf ym Mhen-y-Cefn, Llan Ffestiniog am y tro cyntaf ers cyn y rhyfel. Ers amser bellach mae’r Pwyllgor Llywio wedi bod wrth y gwaith o ddod a threfn yn ôl i’r lle a hynny yn wyneb llu o anawsterau. Nid gwaith hawdd na rhad yw sefydlu clwb golff o’r newydd. Bu’n rhaid cael contractiwr i wneud y gwaith o osod glasdiroedd (greens)  ac i dorri ffosydd i sychu’r rhannau gwlypaf. Bu dibynnu hefyd ar lawer o waith gwirfoddol.




Cafwyd cyfraniad hael gan yr hen Gyngor Dinesig tuag at y costau a dyna paham y teimlodd y pwyllgor hi’n ddylestswydd cadw’r tâl aelodaeth mor rhesymol a phosibl er mwyn rhoi cyfle i bobl y cylch fanteisio ar y cyfleusterau ac mae’n braf medru cofnodi fod llawer wedi gwneud hynny. Eisioes mae rhif yr aelodaeth bron yn 100, a chyfartaledd da o’r rheiny yn blant a phobl ieuainc. Hyd yma cynhaliwyd dwy gystadleuaeth ac roedd yr eiddgarwch y gymryd rhan yn galonogol iawn bob tro. Dichon fod dyfodol y clwb yn ddiogel iawn am flynyddoedd i ddod.

Credwn mai Clwb Golff Ffestiniog yw’r cyntaf i weithredu polisi o ddwyieithrwydd, fel y gellir gweld o’u cardiau sgorio. At hwnnw mae’r rheolau i’w cael mewn Cymraeg a Saesneg a diddorol hefyd i’r enwau a roddwyd i’r gwahanol dyllau ar y cwrs. Nid enwau gwneud mohonynt ond enwau oedd eisoes yn perthyn i’r Cefn ac i’r ardal. Mae’r pwyllgor yn hyderus y bydd Clwb Golff Ffestiniog, ymhen ychydig flynyddoedd, yn ennill poblogrwydd ac yn denu llawer iawn o chwaraewyr o bell ac agos. 

                                                     ----------------------------------------------------






               Tabl y tyllau a'r map o wefan y clwb.                                    




                                                  ----------------------------------------------- 

Tynnwyd y llun isod gan Alwyn Jones ar y 18fed o Awst eleni: 
Merched y clwb yn cychwyn allan ar ddiwrnod Capten y Merched, a hynny am y tro olaf. 




No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon