29.7.24

Y Dref Werdd- Beics a Melons

Tyfu bob dim

Mae pethau yn mynd yn wych yng ngerddi Maes y plas, gyda Wil a’i wirfoddolwyr, llawer o blanhigion yn tyfu a dim gormod o falwod. Mae planhigion tomatos, ciwcymbr ac ŵylys (aubergine) yn gwneud yn wych yn y twnnel polithîn, a'r ddau blanhigyn melon. Os allwn dyfu melon yn Blaenau Ffestiniog gallwn dyfu unrhywbeth, croesi bysedd. 


Rydym wedi dechrau dosbarthu ychydig o salad a perlysiau, ac yn rhoi ychydig o gyflenwad blodau i Leisa yn y Cwt Blodau, uwchben caffi Antur Stiniog. Cysylltwch â hi am dusw blodau wedi’u dyfu’n lleol!

Rydym wedi creu ardal ar gyfer cŵn, tra bod pobol yn mwynhau neu’n gwirfoddoli, ac mae cwch gwenyn newydd wedi cyrraedd hefyd. 

Mae bob dydd iau yn ddiwrnod gwirfoddolwyr o 11 ymlaen, cysylltwch â’r Dref Werdd neu droi i fyny!

Oes gennych chi hen feic?

Mae’r Dref Werdd yn cymryd beiciau gan bobl sydd ddim eu hangen bellach ac yn eu troi yn feiciau trydan fydd ar gael i'w defnyddio gan unrhyw un yn y gymuned. Mae gweithdy newydd Beics Blaenau yn hen siop Royal Stores, bellach ar agor, gyda nifer o feics eisoes wedi cael eu rhoi i ni i'w trawsnewid.


Hoffwn ddiolch i ddisgyblion adran celf Ysgol y Moelwyn am addurno ffenestri’r siop, ac i’r disgyblion uwchradd a chynradd sydd wedi bod yn dod draw i helpu i stripio a phaentio’r beics.
Mae croeso i chi ddod draw i weld beth rydym yn wneud, ac rydym o hyd yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu os oes gennych ddiddordeb.

Oriau agor y siop – 10:00-14:30.
Cysylltwch ag Emma am fwy o fanylion ar 07469 804912
neu emma@drefwerdd.cymru
- - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2024

 

Ymlaen!

Cynhaliwyd Cyfarfod Blynyddol Yes Cymru Bro Ffestiniog ar y 9fed Mai yn Y Pengwern.
Cafwyd cynnig, ac eilio, fod y swyddogion yn parhau yn eu swyddi. Ni dderbyniwyd enwebiadau eraill cyn, nac yn ystod y cyfarfod, ac nid oedd gwrthwynebiad gan neb i’r cynnig. Felly penodwyd y swyddogion fel a ganlyn am y flwyddyn nesaf: Cadeirydd- Hefin Jones; Trysorydd- Delyth Gray; Ysgrifennydd- Paul Williams 

Cafwyd adroddiad ariannol gan Delyth ac mae’r sefyllfa’n iach gan fod arian wrth gefn ers gig Gai Toms flwyddyn yn ôl. Eglurodd fod haelioni cynulleidfa Cyfres Caban wedi bod yn gymorth mawr at gostau’r nosweithiau, a rhwng hynny a chyfraniad YesCymru canolog roedd y nosweithiau wedi talu eu ffordd. Diolchodd i’r cefnogwyr a YesCymru.

Roedd Paul wedi holi am gymorth gan Gymdeithas Y Fainc Sglodion at gynnal y nosweithiau hefyd, ac yn eu cyfarfod i ddiddymu’r gymdeithas ddiwedd Ebrill, penderfynwyd rhannu eu harian gwaddol ymysg cymdeithasau lleol oedd yn gweithredu yn Gymraeg, a changen YC Bro Ffestiniog ymysg y rheiny -ar yr amod fod yr arian at weithgareddau diwylliannol (e.e Cyfres Caban) yn hytrach na gwleidyddol.

Rhestrodd Hefin rai o weithgareddau’r gangen dros y flwyddyn ddiwethaf, yn cynnwys adrodd ar lwyddiant wyth noson yng Nghyfres Caban, a’r canmoliaeth sydd wedi dod i law am y nosweithiau o ‘adloniant; diwylliant; chwyldro’! Soniodd am weithgaredd chwifio baneri ger cylchfan Bwlch y Gwynt a chefnogi Ymgyrch Tiroedd y Goron, ar Gefn Trwsgl. Roedd ein diwrnod o gasglu sbwriel ar y Ffordd Newydd a Thanygrisiau yn llwyddianus iawn hefyd gan ddod a llawer o sylw a diolchiadau yn y gymuned ac ar-lein. 


Diolchodd am gefnogaeth Llafar Bro i weithgareddau’r gangen, efo adroddiadau rheolaidd yn y papur.
Cafwyd trafodaeth am drefniadau eleni, a chytunwyd ar nifer o bethau, gan gynnwys, parhau i gynnal Cyfres Caban, a threfnu pum noson eto dros y gaeaf nesa; Cydweithio efo canghennau cyfagos wrth ymgyrchu; Hel Sbwriel eto- yn Nhrawsfynydd y tro hwn; 

Unrhyw Fater Arall
Mae bwrdd cyfarwyddwyr YC wedi holi ydan ni’n fodlon trefnu penwythnos ‘Nabod Cymru’ fel yr un a gafwyd ym Merthyr yn ddiweddar. Y bwriad ydi mynd ddwywaith neu dair y flwyddyn i wahanol gymunedau. Trafodwyd ei fod yn gweddu at ein dyhead ar un adeg i gynnal ffrinj i’r ŵyl Car Gwyllt, efo gweithgareddau fel teithiau cerdded, gig, sgyrsiau ac yn y blaen, a chytunwyd mewn egwyddor i drefnu ar benwythnos olaf Medi, sef pryd fydd noson gyntaf cyfres newydd Caban.

Dyddiad y cyfarfod blynyddol nesa i ddilyn, ond mae gweithgor YC Bro Stiniog yn cyfarfod o dro i dro yng nghaffi Antur Stiniog ar bnawn Gwener. Os hoffech gael eich cynnwys yn y grŵp whatsapp, gadewch i ni wybod. Cadwch olwg ar y cyfryngau cymdeithasol.

Rhai o griw y cwis

Pan ddaeth y cyfarfod i ben ymunodd mwy o gefnogwyr efo ni i fwynhau Cwis hwyliog yng ngofal Idris Morris Jones o gangen Caernarfon. Diolch iddo am ei gymwynas.

Pencampwyr y cwis oedd tîm Codwrs Cynnar Cwm Cynfal a'r Cylch!

- - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2024

Hanes Clwb Rygbi Bro- Tymor 1999–2000

Hanes Clwb Rygbi Bro Ffestiniog o ddyddiadur Gwynne Williams
        
Gorffennaf 1999 

Dechrau adeiladu’r Clwb yn Nolawel

 

25 Medi 

Cwpan Worthington  Caergybi 5  v  Bro  25.
Sgorwyr: Neil, Dei, Rich O (2), ac Arfon. Trosiad a chic cosb. Tim 1af: Dylan Thomas, Gareth Hughes, Dick James, Dylan Jones, Glyn Daniels, Alan Shields, Dafydd Jones, Colin Jones, Arfon Jones, Neil Williams, Dei Roberts, Ken Roberts, Gareth Carter, Keith Williams, Dafydd Ellis,Elfyn Jones, Sion Roberts
2ail Dîm: Mark Jones, Dafydd E Thomas, Steve Roberts, Bryan Davies, Glyn Daniels, Graham Thomas, Rhys Ellis, Dylan Roberts, Tony Crampton, Richard O Williams, Ian Hughes, John Williams, Geoffrey W Jones, Ian Williams, Andrew Hyde. 

Ionawr 2000
Noddwyr Crysau: Blaenau Skip Hire (Mike Philips) Tim 1af.  Friends Provident ( Elfed Roberts ) Ail Dîm. Siacedi Cynnes gan Garej Towyn (Iwan Jones) ac International Haulage (Evan Hughes).

30 Ionawr Blwyddyn 7  Tywyn 5  v  Bro  60
Tîm: Mathew James, Karl Evans, Ben Hamer, Huw Roberts, Dewi James, Sion Hamer Williams, Iwan Morris, Jamie Jones, Garry Roberts, Idris Williams, Robart J Daniels, Simon Kalafusz, Gerallt Roberts, Andrew Roberts, Geraint Roberts.

13 Chwefror 

Dan 20 Gogledd Cymru 18  v  Dan 20 Ardal Abertawe
Dei Roberts wedi chwarae i dim y gogledd.

9 Ebrill 

Dan 11 Bro 73 v  Dan 11Caernarfon 45.
Bro Bach wedi cael crysau newydd gan y noddwr Tecs Woolway, Tim Iwan Morris, Rob Daniels, Gerallt Roberts, Dewi James, Sion Hamer Williams, Mark Cunnington, Simon Kalafusz. Mathew James. Jamie Jones, Karl Evans, Ben Hamer, Huw Roberts, Huw James, Idris Williams, Dewi A Atherton, Jamie Evans, Neil Tonks

29 Ebrill Bro  16  v  Vale of Lune  15
Cais Dei Robs / Arfon Jones Trosiad a 3 Cic

14 Fai

Y gêm olaf ar y Ddôl.
Bro Bach  7 cais  Tywyn  5 cais. Dyfarnwr Gwilym James, y chwaraewr a ennillodd glod fawr pan yn chwarae i Bro ac Ardaloedd Cymru, ac a gyfranodd cymaint i lwyddiant Bro Ffestiniog.  

- - - - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2024

 

Antur Stiniog -Mwy Na Dim Ond Beics!

All twristiaeth weithio i Fro Ffestiniog?
Digwyddiad pwysig yn ein calendr ym Mehefin oedd gweithdy ‘All Twristiaeth Weithio i Gymunedau?’ yn CellB. 

Roedd dros 70 wedi mynychu, ac ymchwilwyr cymunedol o ddyffrynnoedd llechi Ogwen, Nantlle, a’r Blaenau yn rhannu eu gwaith gwych. Cafwyd nifer o esiamplau o fudiadau a chynlluniau sy’n profi gwerth gan gynnwys ni yma yn Antur Stiniog, ac i ni gael trafod y camau ymlaen i’r dyfodol. 

Roedd llawer o fudiadau wedi mynychu’r diwrnod gan gynnwys arweinwyr o'r Parc Cenedlaethol, Cyngor Gwynedd, Aelodau Seneddol, Llechwedd a chwmni Zip World. Roedd llawer wedi dod oddi yno efo gwell dealltwriaeth o’r her o’n blaenau ac yn awyddus i gyd-weithio i ymateb i'r heriau. 

Byddwn ni’n Antur ‘Stiniog yn gweithio gyda llawer o’r mudiadau yma i gael y gorau i’n cymuned.   
Os oes gennych syniadau neu hoffwch drafod unrhyw beth am y gwaith yma’n lleol cysylltwch gyda ni. 

Eiddo
Mae cynlluniau yn eu lle ar gyfer Yr Aelwyd ac mi fydd y datblygiadau yn cychwyn yn fuan iawn gan gwmni Grovesnor. Mi fydd y gofod tu fewn yn aros rhywbeth tebyg i'r gwreiddiol gyda gwelliannau i'r llawr mesanîn i greu ystafell amlbwrpas. 

Mi fydd y lleoliadau amrywiol tu fewn i'r adeilad ar gael i'w rhentu am bris teg i'r cyhoedd. Bydd yr adeilad yn le perffaith i greu clybiau newydd, gofod chwaraeon, cynnal gigs a chyngherddau ac yn y blaen. Bydd hefyd datblygiadau i'r gegin er mwyn gallu dysgu coginio a'i ddefnyddio fel caffi. Am fwy o wybodaeth neu rannu eich syniadau ar gyfer yr adeilad cysylltwch â eiddo@anturstiniog.com 

Yr Amgylchedd
Diolch i'n beicwyr lawr-allt sy’n rhoi punt neu ddwy at ein gwaith amgylcheddol wrth archebu i reidio ein llwybrau ar-lein, mae Antur Stiniog wedi noddi dau flwch nythu gwennol ddu sydd wedi eu gosod ar waliau uchel y Ganolfan Gymdeithasol wrth iddyn nhw gael ffenestri newydd ym mis Ebrill. Heblaw wrth y nyth, nid yw'r Wennol Ddu byth yn glanio, yn hytrach mae'n treulio ei holl fywyd yn hedfan! 

Llun: Ben Stammers, Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru

Parc Beicio
Rydym o’r diwedd wedi cael tywydd braf i gael beicio lawr ein traciau, sydd hefyd yn golygu fod oriau agor y parc wedi ymestyn o Ddydd Iau i Ddydd Llun pob wythnos. Mae posib archebu lle trwy ein gwefan, neu ffoniwch y ganolfan feicio ar 01766 832214. 

- - - - - - - - - - - 

Rhan o erthygl hirach a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 2024

25.7.24

Stolpia- Damwain ar yr Allt Goch

Pennod arall o gyfres Steffan ab Owain

Ar ôl imi ysgrifennu ychydig o hanes yr hofrennydd yn cael damwain yng Nghwm Croesor yn 1949, cofiais ddarllen am ddamwain o fath arall a ddigwyddodd yn 1928.

Dyma gefndir y stori: Ychydig ar ôl 7 bore dydd Iau, 23 Chwefror, 1928, roedd amryw o weithwyr ar lori fodur yn y Llan ac ar eu ffordd i weithio ar osod polion a gwifrau trydan i gwmni Siemens Bros ym Maentwrog. 

Ar y bore hwn roedd tua 19 o ddynion ar lori Commercial Karrier a oedd yn eiddo i Jack Davies, Rock Terrace, ac yn cael ei gyrru gan William Pugh, Glan Barlwyd, Glan y Pwll.

Yn ddisymwth, a thra’n teithio i lawr yr Allt Goch, torrodd siafft yrru’r lori a chollodd y gyrrwr reolaeth arni hi nes yr oedd yn rhedeg i lawr ar gyflymder. Ceisiodd ei orau i’w rheoli, ond bu’n aflwyddiannus, er y medrodd, rhywfodd neu’i gilydd, ei throi fel ei bod yn taro yn erbyn y wal. Yn y gwrthdrawiad trodd y lori drosodd ddwy waith.

O ganlyniad, taflwyd y dynion oddi arni hi, ac ar wahân i un dyn, anafwyd pob un o’r lleill. Bu’r gyrrwr yn ffodus nad oedd wedi derbyn anafiadau drwg, a daeth ohoni gydag archoll fechan ar ochr uchaf ei lygad. Trwy ryw drugaredd, ni laddwyd neb yn y digwyddiad dychrynllyd. Yn y cyfamser, medrodd llygad-dyst anfon am Dr. Lloyd Jones o’r Llan atynt, a galwyd am ambiwlans o’r Blaenau, ac aed ag un-ar-ddeg ohonynt i’r Ysbyty Coffa. Cafodd 6 ohonynt fynd adref ychydig yn ddiweddarach ar ôl cael eu harchwilio yn drylwyr. 

Diolch i Gareth T. Jones, am anfon copi o’r llun imi

Pa fodd bynnag, cadwyd Bobby Jones, (21) Clynnog; John Williams (55) Porthmadog; William Hugh Jones (42) Talsarnau; William John Jones (23) Porthmadog; Robert John Williams (36) Caernarfon yn yr ysbyty. Gweinyddwyd arnynt yno gan Dr. Morris a chynorthwyd ef gan yr Arolygydd J. F. Evans a Sarjiant Roberts.

O.N. – Difyr oedd darllen yr hanesyn gan Cynan am hen dŷ Bwlch y Maen yr holais amdano yn rhifyn Ebrill. Tybed pa bryd aeth yr hen fwthyn yn wag ?

- - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2024

Y Gymdeithas Hanes- Llys Dorfil

Roedd nos Fercher, Mai 18fed yn noson braf a daeth nifer fawr i gyfarfod olaf y tymor. Tymor a fu’n llwyddiannus iawn mewn perthynas i amrywiaeth y testunau ac yn wir y niferoedd a ddaeth i wrando.
Mae’r mynychwyr wedi cynyddu drwy’r tymor a gobeithio y cawn sesiynau'r un mor llwyddiannus y tymor nesaf. 

Coronwyd y tymor trwy gael Bill a Mary Jones i ddisgrifio a phendroni dros y gwaith sydd wedi ei gyflawni ar safle Llys Dorfil yng Nghwm Bowydd. 

Mae Llys Dorfil yn adnabyddus i bawb bellach, mae wedi wedi ennyn diddordeb lleol a cheir archeolegwyr o’r fro yn gweithio gyda thîm o’r fro a bob amser yn rhannu’r wybodaeth yn gyson gyda thrigolion y fro. 

Rhan o sfale Llys Dorfil a'r Blaenau yn y cefndir. Llun Paul W

Mae Bill a Mary wedi arwain a chyflawni gwaith pwysig yn cloddio ar y safle hwn ac wedi dod a Llys Dorfil yn ôl fel rhan o’r cof cymunedol. Tybir mai safle amgaeedig (Lloc) o’r Oesoedd Cynnar, oedd yn cael ei ddisgrifio fel prin yn weladwy ac yn adfeiliedig cyn i’r cloddio ddechrau.

Ers 2018 mae’r tîm cloddio wedi darganfod bod y safle yn cynnwys adeilad crwn a nobl. Mae’n glamp o safle. Sicrhawyd sawl arteffact e.e.. pennau saeth llechi wedi eu gweithio â llaw a cherrig llechi glas gydag engrafiadau arnynt. 

Cafwyd rhai darganfyddiadau anarferol, e.e.. wrth gloddio am dystiolaeth o aelwyd, darganfu'r tîm ychydig iawn o dystiolaeth o losgi ond canfuwyd bod pren tua 0.75m o dan wyneb y llawr. 

Darganfuwyd pensel fetel (ar gyfer creu lluniau, geiriau a symbolau)). Hefyd daeth modrwy i’r fei.
Dyma ddywedodd Rhys Mwyn yn ei flog ar ôl ymweld â’r safle yn fuan wedi i’r cloddio ddechrau yn 2018.

Newydd ddechrau cloddio yn Llys Dorfil ar gyrion Tan y Grisiau / Blaenau Ffestiniog mae Bill a’r criw. Y Gymraeg yw iaith naturiol y gwaith hyd yn oed os yw’r di-Gymraeg yn ymuno. Perthyn i le mae’r criw – pobl Blaenau, pobl Tan y Grisiau, pobl y fro – gyda gwybodaeth eang, dealltwriaeth eang.

Does dim diwrnod gwell i’w gael nac ymuno gyda chriw fel hyn yn yr awyr agored, i gloddio, gyda golygfeydd hyfryd draw dros Gwm Bowydd tuag at Blaenau ar y gorwel. 

Rwyf wedi cyfeirio at y criw yma sawl gwaith dros y blynyddoedd yn y golofn hon wrth grybwyll gwaith ardderchog Bill Jones a’r criw yn cloddio ym Mhenamnen, Ffynnon Elen/Elan (Dolwyddelan), chwarel cerrig hogi Moel Siabod neu yng Nghwmorthin.

Cafwyd disgrifiadau o rai o’r hyn a ddarganfuwyd hyd yn hyn gan Bill, Mary a’r tîm ar y safle a chafwyd damcaniaethau archeolegol a sut adeiladau fuasai’n debygol o fod wedi cael eu codi ar y safle pwysig hwn. 

Roedd lluniau di-rif a chafwyd cyfraniadau gan Bill Mary yn eu tro. Dyma bartneriaeth ardderchog yn amlwg! 

Diflannodd awr mor sydyn a buasai awr arall hyd yn oed ddim wedi gwneud cyfiawnder a’r gwaith! Edrych ymlaen at ddarganfyddiadau pellach dros yr haf eleni. Roedd y Gwaith cloddio yn ailddechrau ddiwedd mis Mai.

Yn y llun yma gwelir Bill a Mary Jones sy’n arwain y tîm cloddio a Dafydd Roberts, Cadeirydd y Gymdeithas Hanes ac un o aelodau'r tîm. 

TVJ

- - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mefehin 2024

 

Diwedd Tymor

Noson Wobrwyo Clwb Rygbi Bro Ffestiniog
                
Daeth criw da o chwarewyr, hyfforddwyr, swyddogion a chefnogwyr i’r clwb ar gyfer y cinio blynyddol ac i ddathlu diwedd tymor. Noddwr y noson oedd Olew Cymru (Oil4Wales) a’r siaradwr gwadd oedd cyn chwaraewr Cymru Scott Quinnell. Croesawyd bawb i’r noson gan Sion Arwel Jones, Gerallt Rhun a’r cadeirydd Glyn Daniels. 

Diolchwyd i’r chwaraewyr, y noddwyr, yr hyfforddwyr, y gwirfoddolwyr, y cefnogwyr a’r pwyllgor am eu cefnogaeth i’r Clwb ar hyd y tymor. Roeddem yn ffarwelio gyda Cerys Symonds (Bodywyrcs) fel physio, diolchwyd iddi am ei gofal a’i chefnogaeth dros y 9 mlynedd ddiwethaf. Yn haeddianol iawn cafodd Keith Roberts “Brenin” ei anrhydeddu yn aelod anrhydeudds o’r Clwb am oes am ei waith di-flino. Hoffem ddiolch i’r staff am y bwyd blasus. 

TÎM IEUENCTID
Chwaraewr y chwaraewyr: Math Churm Jones
Chwaraewr yr hyfforddwyr: Jos Watson
Chwaraewr mwyaf addawol: Math Hughes
Cynnydd mwyaf: Moses Rhys ac Ifan Edwards

TÎM CYNTAF
Chwaraewr y chwaraewyr: Siôn Hughes
Chwaraewr yr hyfforddwyr: Ioan Evans a Dyfed Parry
Chwaraewr mwyaf addawol: Gethin Roberts
Cynnydd mwyaf: Ioan Hughes

Diolchodd capteiniaid y ddau dîm: Huw Parry, Dylan Daniels, Llion Jones a Huw Evens i’r hyfforddwyr i gyd sef Huw, Sion, Elfyn a Justin eu hymroddiad di-flino unwaith eto i’r Clwb.

Cafwyd noson lwyddiannus a hwyliog iawn.

Bro Bach

Daeth diwedd ar dymor Bro Bach gyda sawl twrnamaint cyffrous a hwyliog i’r tîm dan 10, 12 a 14eg. Bu’n dymor prysur gyda’r timau yn chwarae gêm yn wythnosol (pan oedd y tywydd yn caniatau) gan ddatblygu fel unigolion ac fel timau.

Braf oedd cael dathlu llwyddiant y tîm dan 13eg y tymor yma. Llongyfarchiadau mawr iddynt am ddod yn fuddugol yng nghystadleuaeth cwpan RGC yn stadiwm CSM, Bae Colwyn. Roedd y gêm yn un cystadleuol a chyffrous iawn yn erbyn tîm cryf o Langefni. Profiad anhygoel i’r bechgyn. Rydym yn falch iawn o’ch galw’n BENCAMPWYR GOGLEDD CYMRU Dan 13eg. 

Diolch i’r hyfforddwyr i gyd am eu gwaith caled ac i Gareth Evans am drefnu’r gemau. Yn wir mae gemau y flwyddyn nesaf wedi ei drefnu ganddo. 

Edrychwn ymlaen i weld yr bawb nôl ar y cae yn fuan…mae’r dyfodol yn un disglair.
- - - - 

Noson Wobrau'r Amaturiaid

Ar ran Clwb êl-droed Amaturiaid Blaenau Ffestiniog a phawb sy’n rhan ohono fo, mae’n amser i ni ddiolch i ddau ffrind a fu’n edrych ar ôl y tîm dros y ddwy flwyddyn ddwytha, sef John Campbell a Doug Bach Hughes (John a Doug), y ddau gyd-reolwr a ennillodd ffydd y chwaraewyr, hogia da, a ffrindia i bawb. 

Roedd John a Doug wedi gweithio’n galad i gadw’r tîm i fynd. Heb y ddau o’nyn nhw fysa ddim tîm ar ôl, a’r Clwb wedi cau. 

Gwaith digon caled ydi manejio’r sgwad a torri’r gwair a marcio’r cae, a golchi’r kits, a chael yr hogia i drênio ar yr astro ddwy waith yr wythnos, a chadw’r tîm i fynd. Rhoddodd y ddau o’nyn nhw jans i’r hogia ifanc, ac roedd y tîm yn chwara’n dda ac wedi cael injection o speed, steil a sgils. 

Pob lwc i chi, a llongyfarchiadau i chi am wneud job gwych i’r tîm a’r Clwb. Enjoiwch eich wicends rwan hogia! Parch mawr a diolch i chi’ch dau, rydach chi’n haeddu’r wobr heno.  

Tra dwi’n canmol pawb, mae’n rhaid diolch i Chris McPhail a Gary Fflats oedd efo’r hogia drwy’r adag, a diolch i griw y giât a’r cardyn ffwtbol, Ken, Prys, Cro a Dafydd. A diolch i Rhian am weithio’r cantîn am flynyddoedd, cyn rhoi y teciall yn y to. Diolch i Kelly am helpu, ac wrth gwrs diolch mawr i Gwawr am gymryd gwaith y cantîn. 

A rwan, ar ran y Clwb a phawb, dyma estyn croeso mawr a phob lwc i’r tri rheolwr newydd – rydan ni’n nabod nhw ers blynyddoedd – sef Mitch, Jack a Spence (Gerallt Michelmore, Jack Diamond, Geraint Spencer Hughes). Dwi’n siwr neith yr hogia neud yn dda, a diolch a phob lwc iddyn nhw. Edrych ymlaen i gemau cyfeillgar yr haf rwan, ac ymlaen â ni tymor nesa. Iddi hogia!
- - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mefehin 2024


7.7.24

Stolpia- Hen Ffilmiau Eto

Dyma barhau ag ychydig o storïau am ein bro a recordiwyd ar rai ffilmiau o’r gorffennol. Dechreuaf  gydag un yn dyddio o’r 1940au. Tybed faint o’r to hŷn sydd yn cofio’r digwyddiad hwn a ddangoswyd ar Pathe News 1949? Yn dilyn, ceir crynhoad o’r stori o bapur newydd Y Rhedegydd, 2 Mehefin,1949:

 “Digwyddodd trychineb i awyren hofran (hofrennydd) yng Nghwm Croesor ganol dydd Mawrth diwethaf. Roedd y gwaith wedi mynd ymlaen yn rhwydd a llwyddiannus iawn am amser pan ddisgynnodd yr helicopter yn sydyn i’r llawr a chafodd y peilot waredigaeth wyrthiol”.

Cefndir y stori hon oedd yr angen i gludo sment a llwch cerrig, a defnyddiau eraill, i atgyfnerthu argae Llyn Cwm Foel, a saif tua 1500 troedfedd uchlaw arwynebedd y môr ymhen uchaf Cwm Croesor, ac a ddefnyddid gynt i gyflenwi dŵr i Bwerdy’r Chwarel a’r pentref. 

Yr hofrennydd Sikorsky yn colli rheolaeth uwchlaw Cwm Foel yn 1949
Cludwyd  y defnydd ar gefn mulod, neu ferlod ar  y dechrau, ond roedd hynny yn waith araf a beichus, ac o ganlyniad, penderfynodd yr awdurdodau i wneud defnydd o hofrennydd. Dim ond rhyw 8 munud a gymerai hon i wneud y siwrnai at y fan lle derbynnid y llwyth. Aeth y diwrnod cyntaf, sef dydd Llun yn bur dda, ond ar y dydd Mawrth, pan oedd chwarter y gwaith wedi ei gyflawni  cwympodd yr helicopter i’r ddaear, er i’r peilot ollwng y llwyth yn glewt i’r ddaear  a cheisio ei harbed, ond aflwyddiant a fu. Yn ffodus iawn, daeth y peilot, Dennis Bryan, 28 mlwydd oed, allan ohoni yn ddianaf er wedi cael cryn sioc. Cwmni o Crewe a oedd yn gyfrifol am y gwaith o gludo’r deunydd gyda’r hofrennydd.

Ceisiwch edrych ar y ffilm er mwyn gweld y digwyddiad cyffrous ac efallai y gwnewch chi adnabod un neu ddau ynddi hi - Bob Owen Croesor yw un. Pwy yw’r llaill ? Cysylltwch os gallwch adnabod rhai ohonynt. Dyma un clip o’r digwyddiad brawychus a welir yn y ffilm.


Trên olaf y GWR o’r Blaenau:

Ffilm boblogaidd gan selogion hanes ein rheilffyrdd yw’r un am siwrnai olaf  trên teithwyr y Great Western Railway o’r Bala i’r Blaenau, ac yn ôl, wrth gwrs, ar 22 Ionawr,1961. Teithiodd  beth wmbredd o bobl o bell ac agos  ar y trên arbennig a daeth ugeiniau o bobl leol i’w gweld yn cyrraedd ‘Stesion Grêt’, degau ohonynt efo’u camerau, camerau sine, a chamerau lluniau llonydd.Wrth edrych ar y ffilm mi wnes adnabod y diweddar Herbert Evans, a fu’n athro arnaf yn Ysgol Glanypwll, Dafydd Lloyd Jones a oedd yn Ysgol Sir ar yr un adeg a fi, ac Emlyn Jones, cefnder David Benjamin, Ann, Billy, Helen a’r diweddar Meirion.

Os hoffech weld y ffilm gyfan ewch ar wefan ‘BFI player’ ar Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru. Dyma lun llonydd wedi ei dynnu ar yr achlysur.


O.N. – Dim ond un ateb cywir a dderbyniais parthed fy ymholiad am enw’r bwthyn yn y ffilm The Phantom Light (1935), sef oddi wrth Gareth T. Jones, Ysgrifennydd ein Cymdeithas Hanes. Da iawn Gareth. Y dasg yn rhy anodd i lawer ohonoch! Yr ateb cywir yw Bwlch y Maen. Ei leoliad oedd ar yr ochr dde i‘r ffordd sy’n arwain i bentref Rhyd, Llanfrothen. Roedd ychydig ohono i’w weld rhyw 40 mlynedd yn ôl.

[GWELER ISOD HEFYD]
Hefyd - yn rhifyn Mawrth bu amryfusedd gyda disgrifiad y Trwnc yn Chwarel Oakeley, y ‘Trwnc Mawr’, neu ‘Trwnc y K’, oedd ei enw, wrth gwrs.

Steffan ab Owain

- - - - - - - - -

Annwyl Olygydd
Rwyf eisiau ymateb i'r llun yng ngholofn Steffan parthed y ffilmio yn ardal Tan y Bwlch yn 1935.
Credaf mai y tŷ yn y llun yw Bwlch y Maen, cartref i fy hynafiaid o ochor fy nain - y mae yr hen waliau yn dal i'w gweld ar y ffordd o Dan y Bwlch i gyfeiriad Rhyd.
Roeddym fel teulu mor falch o weld y llun - a gyda llaw y mae y cloc mawr o Fwlch y Maen gennym ni, wedi dod o Danygrisiau heibio i Fwlch y Maen i Nanmor.
Cofion
Cynan

- - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn rhifyn Mai 2024


Côr y Brythoniaid yn dathlu

Bu Côr y Brythoniaid yn cynnal cyngerdd yn Lerpwl ar 13 Ebrill. Gwahoddwyd un o blant Lerpwl, DAVID WILLIAMS i fod yn Llywydd y Noson. Mae gan David [neu ‘DAI LERPWL’] fel yr adwaenwn o gysylltiadau â’r ardal. Roedd Dai a minnau’n gyd-fyfyrwyr yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin dros hanner canrif yn ôl. Trwy berthynas iddo, llwyddais i gael gafael ar ei anerchiad ar y noson. Teimlaf y byddai’r pytiau canlynol o ddiddordeb i ddarllenwyr Llafar Bro.   [Iwan M, Gol.]

Pan gysylltodd Dr Ben Rees â mi, ar ran Cymdeithas Etifeddiaeth Cymru Glannau Mersi, yn gofyn imi a fyddwn yn barod i fod yn Llywydd y noson arbennig yma, cefais fy synnu ac roeddwn yn teimlo rhyw anrhydedd o gael fy ystyried ar gyfer y rôl.

Wel, dyma fi, ar ôl derbyn y cynnig. Sut allwn i ddim derbyn y cyfle i ddod yn ôl at fy ngwreiddiau, at fy milltir sgwâr, yma yn Penny Lane, lle cefais fy ngeni a’m magu....ac i ddweud y gwir, does na ddim llawer o bobl yn dweud ‘Na’ wrth Dr Ben.

Rwy’n teimlo’n freintiedig i fod yn llywyddu heno gyda’r côr arbennig hwn, sef Côr Meibion y Brythoniaid. Er mai hogyn o Penny Lane ydw i, mae gan fy nheulu gysylltiadau agos â Blaenau Ffestiniog, wel Tanygrisiau i ddweud y gwir. Yno yn Rhif 4, West End, Dolrhedyn cafodd fy mam ei geni a’i magu. A threuliais lawer o amser yno fel plentyn yn ymweld â fy Nain am wyliau yn yr Haf.
Tra yno, ar fy ngwyliau, byddwn yn ymweld ag Anti Jini, ail gyfnither fy mam, yn Nhŷ Capel Carmel a dyna lle des i ar draws byd y corau meibion am y tro cyntaf, gan fod Yncl Esli, gŵr Jini yn canu gyda Chôr Meibion y Moelwyn, a datblygais hoffter o gorau meibion ar ôl cael fy nhywys gan Yncl Esli i un o sesiynau ymarfer y côr.

Rwyf wedi cael cysylltiadau â chorau meibion dros y blynyddoedd oddi ar fy ymweliad â Chôr y Moelwyn, gan gynnwys tan y presennol.

Rwy’n cofio, wrth gwrs, Côr y Cymric ar Y Glannau, gyda sawl aelod o’r côr yn mynychu Capel Heathfield, fel roedd hi ar y pryd.

Roedd fy mam yn arfer cynnig llety i fyfyrwyr ac athrawon, y mwyafrif ohonynt yn dod o Gymru, a’r rhan fwyaf yn Gymry Cymraeg, ac yn eu plith roedd myfyriwr a oedd yn canu’r piano, o bryd i’w gilydd, fel cyfeilydd i Gôr Meibion Froncysyllte. Roedd un arall yn canu gyda Chôr Meibion y Rhos ac un arall oedd Dafydd, oedd yn canu gyda Chôr y Brythoniaid.

Yn fwy diweddar, roedd gen i gysylltiad gyda Chôr Meibion Prysor, gan fod ei harweinydd (ar y pryd), Iwan Morgan yn gyfaill i mi pan oedd y ddau ohonom yn fyfyrwyr yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin, gydag un arall o’n cyd-fyfyrwyr yn canu efo Côr Meibion Taf.

Gan fy mod i’n byw heb fod ymhell o Lundain bellach, rwyf wedi cael y fraint o fynychu Gŵyl Corau Meibion Cymry Llundain, neu’r Mil o Leisiau, yn Neuadd Albert ar sawl achlysur.

Ond dyna ddigon am gorau eraill, beth am y côr sydd wedi ein diddanu yn yr hanner cyntaf heno, sef Côr Meibion y Brythoniaid? Maent yn dathlu trigain mlynedd (60) fel côr eleni, ar ôl iddynt sefydlu ym Mehefin 1964 gan Meirion Jones.


Ffurfiwyd y côr, yn anffurfiol, yn Mehefin 1964 gyda thua pymtheg o aelodau, er mwyn cystadlu mewn Eisteddfod fach leol yng Nghapel Hyfrydfa, Manod. Yn dilyn yr ymddangosiad hwnnw, aethant ati i sefydlu’r côr yn ffurfiol.

O’r cychwyn, mae cystadlu wedi chwarae rhan bwysig yng ngweithgareddau’r côr ac fe gafwyd ymddangosiad cyntaf y côr yn Eisteddfod Jiwbilî, Llan Ffestiniog yn 1965. Fe gawson nhw lwyddiant yn yr Eisteddfod honnon, ac maent wedi parhau i gystadlu o’r dydd hwnnw hyd heddiw.

Yn 1969, penderfynodd y côr gystadlu yn “yr un fawr” am y tro cyntaf, sef yr Eisteddfod Genedlaethol yn Fflint. Fe gawsant ei llwyddiant mawr cyntaf, gyda chanmoliaeth y beirniad yn destament i safon y perfformiad.

Y tro cyntaf i mi glywed y côr yn fyw oedd yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor 1971. Yno’r enillodd Côr Meibion y Moelwyn eu hadran ac yna, y Brythoniaid yn ennill y brif gystadleuaeth. Camp ddwbl i dref y Blaenau!

Nid cystadlu yn unig fu hanes y côr, wedi iddynt fynd ar daith lwyddiannus a hanesyddol y tu hwnt i’r ‘Llen Haearn’ gan ymweld â Hwngari. Bu iddyn nhw ymddangos o flaen panel o gerddorion mwyaf blaenllaw Hwngari a chael eu gwobrwyo â Diploma gan yr Academi Ddiwylliannol am eu perfformiad. Oddi ar y daith gyntaf hanesyddol honno, mae’r côr wedi teithio’n eang,  gan gynnwys teithio ddwy waith yn America, dwy waith yng Ngwlad Belg, dau ymweliad â Gŵyl Lorient yn ogystal â nifer o deithiau i’r Alban ac Iwerddon. Cafwyd llwyddiannau pellach yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1977, 1985, 2002, 2005 a 2016.

Mae’r côr wedi ymddangos ar y teledu nifer o weithiau ac wedi ymddangos ar lwyfan gyda rhai o berfformwyr gorau’r byd. Mae’r rhain yn cynnwys Dennis a Patricia O’Neill, Shirley Bassey a Bryn Terfel. Cyhoeddwyd nifer o recordiau a chryno ddisgiau hefyd, gyda Chwmni Recordiau Sain yn cyflwyno disg aur iddynt yn 1982 mewn cydnabyddiaeth o werthiant eu recordiau.

O’r Blaenau, tref y llechi,
Ac yn chwe deg oed eleni,
Maent wedi dod i Lannau Mersi
I ddiddanu a’n swyno ni.
- - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 2024


Hanes Clwb Rygbi Bro- hydref 1994 i haf 1999

Hanes Clwb Rygbi Bro Ffestiniog o ddyddiadur Gwynne Williams

Medi 1994
24ain Chwarae yng Nghwpan SWALEC an y tro 1af: Bro  28  v  Casllwchwr  29. Tîm R O Williams  / Keith Williams / Alwyn Ellis / Ken Roberts / Ian Hughes / Danny McCormick / Rob Atherton (c) / Kevin Humphreys / Ian Williams / Dick James  Dylan Jones / Dafydd Ellis / Glyn Jones / Glyn Jarrett / Gwilym James. Eillyddion- Alun Jones / Rhys Prysor / Mark Thomas / Dylad Thomas / Eurwyn Jones / Gareth Carter, (Ceisiau- Keith Williams / Ian Hughes / Ian Williams  / Ken Roberts. 4 Trosiad gan Danny) 

Hydref
Cwpan Prysg Whitbread Cymru: Harlech  20 v  Bro   12 (4 cic)

Chwefror 1995
Son am y tro 1af i symud Bro o’r Ddôl, Tanygrisiau i gaeau Dolawel

Mai
Cyfarfod  Blynyddol tymor 94-95
Trysorydd - taliadau yn fwy na derbyniadau o £14,725 / Clwb 200 £120. Cymdeithas 30 £2,681 / Costau - Taith Awstralia £25,042/ Aelodaeth -- £544 Ethol ar gyfer 1995/96       Cad Merfyn / Ysg Bryn Jones / Try Robin Davies / Tŷ Glyn/  Gemau Tony / Aelod Caradog / Ieu Michael / Cae Mike Osman /Hyff Eifion Griffiths/Eraill Dafydd Williams / Meurig Williams / John Jones / Bryan / Raymond Price / Tony Crampton.  Chwaraewr y Flwyddyn: Dafydd Jones; Chwaraewr Mwyaf Addawol: Ian Williams;  Chwaraewr Y Flwyddyn II: Elfyn Jones; Mwyaf Addawol II: Glyn Daniels; Chwaraewr Mwyaf Ymroddgar: Dafydd Ellis; Cais gorau: Alwyn Ellis; Clwbddyn: Tecs Woolway.

Mawrth 1996    
Tîm Llywydd Bro Ffestiniog 23 v Coleg George Cambell Durban 7
Dan 19vDan 19 De Affrica. Ceisiau Sion Jones / Aaron Jones / Gareth Hodson / Gari  Morris). Cyfarfod Blynydddol 95/96- Chwaraewr Y Flwyddyn: Dafydd Jones: Chwaraewr Mwyaf Addawol: Ifor Gorden Chwaraewr y Flwyddyn II: Glyn Daniels; Chwaraewr Mwyaf Addawol II: Sion Roberts; Chwaraewr Mwyaf Ymroddgar: Ken Roberts; Cais Gorau: Dewi Roberts; Clwbddyn: Tony Coleman
Trysorydd-  Derbyniadau yn fwy na taliadau o  £7567 / Aelodaeth £978 

Rhagfyr  
Dechrau gwaith ar y caeau  Brodyr Jones  (£390,000)

Ionawr 1997
Gwella Caeau Dolawel yn parhau

Mawrth
Pasg-Bro  29 v Deutscher Rugby Hannover  38. (Ceisiau Hayen / Rob Ath / Dyl Bwtch) (Danny efo cic a 2 drosiad) 

Mai
Cyfarfod Blynyddol 96/79   Capten y tîm 1af Rhys Prysor – Tymor weddol siomedig –llawer o anafiadau. Capten yr 2ail dîm Eurwyn Jones – Dim llawer o gemau am fod rhaid i chwaraewyr 2ail wedi mynd i’r tîm 1af. Hyfforddwr– Peter Jones – Dim digon yn ymarferion. Ieuenctid – Rygbi’r Ddraig yn llwyddianus – afallai bydd prifathro newydd Ysgol y Moelwyn yn fwy o gymorth. Gemau –Bryan – Gohirio llawer o gemau – bydd yn well tymor nesaf ail drefnu Cynghrair Gwynedd. Tŷ – Glyn –angen help yn yr haf gyda’r bar a rhai nosweithiau arbennig a’r golled. Aelodaeth– Dick -  111 Aelod  (£1,280) ond dim ond 18 chwaraewr. Trysorydd – Robin- Taliadau yn fwy na deryniadau o £4,060.  Cadeirydd –Merfyn –Roedd Cyngor Gwynedd eisiau ein adleoli –rhaid cryfhau y timau. Ethol 1997-98: Cad Merfyn / Is Gad Glyn C / Ysg Neville / Try Robin / Ty Glyn C/ Gemau Bryan / Aelodaeth Dick / Ieu Michael / Gwasg Gwynne / Cae Raymond. Eraill Brenin / Eurwyn / Keith Williams / Ifor Jones / Tony Crampton


Cais Swyddfa Gymreig am £1.98 miliwn -Gostwng i £1.7 miliwn. Roedd yn wreiddiol £800,000 – nawr yn £600,000 costau Clwb  Gweddill £1.1 miliwn - £390,000 caeau Dolawel – gweddill prosiectiau eraill. Barn Dŵr Cymru fod y cylferts yn addas. Chwaraewr y Flwyddyn: Rhys Prysor Williams; Clwbddyn Richard O Williams; Hyfforddwr tymor nesa- Alan Shields

Chwefror 1998
Cyngor Gareth Roberts Diffyg adnoddau –gwaith ar ei restr. Brenden Mc Conshie o Awstralia yn chwarae i Bro. 

Mai
Cinio Blynyddol- Gwesty Rhaeadr Ewynnol, Betws. Cyfarfod  Blynyddol 97/98. Trys: Taliadau yn fwy na derbyniadau o  £2112 /Aelodaeth -£1, 507. Ar gyfer tymor 1998 / 1999 Bro Cynghrair Gogledd a Canolbarth Cymru i Clybiau Iau

Hydref
Cystadleuaeth Rygbi’r Ddraig, Bro. Ennill Ysgol Hedd Wyn Traws 

Rhagfyr
Cinio Nadolig, Rhiwgoch, Trawsfynydd

Mehefin 1999
CYFARFOD BLYNYDDOL  1998-99 Trysorydd – Derbyniadau yn fwy na threiliau o £3,640/Aelodaeth - £1,361. Ethol ar gyfer 1999 / 2000 Cad Merfyn / Is Gad Alfyn Jones / Ysg Ifan Williams / Trys Neville Roberts. Tŷ Glyn / Gemau Bryan / Aelod Gwynne / Ieuenctid Michael a Graham; Cae Raymond Price / Hyff Alan Shields /Eraill Glyn Daniels / Keith Williams / Dick James / Kevin Hicks.


Y tro nesa: dechrau adeiladu’r tŷ clwb newydd ar Ddolawel.
- - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 2024



6.7.24

Y Gymdeithas Hanes -mewn cymeriad

Yng nghyfarfod mis Ebrill o’r Gymdeithas Hanes, cafwyd noson wahanol! Yn hytrach na darlith am berson hanesyddol cafwyd sgwrs gan berson hanesyddol ei hun. 

Ymddangosodd Siân Roberts, Harlech fel Mrs Samuel Holland, wedi ei gwisgo yng ngwisg ganol y 19eg ganrif. Ei bwriad oedd rhoi hanes ei gŵr Samuel Holland gan gymryd rôl ei wraig. Mae cymeriadu fel hyn yn fwyfwy boblogaidd fel dull mynegi, yn enwedig i gyfleu hanes person. Mae Siân Roberts yn cymeriadu nifer o ffigyrau hanesyddol ac mae’n Ysgrifennydd Cymdeithas Hanes Harlech yn gweithio yn y byd twristiaeth ac wedi ei hyfforddi fel Tywysydd Bathodyn Glas Cymru. Yn hanu o Sir Y Fflint mae wedi dysgu Cymraeg fel oedolyn.


Ganwyd Samuel Holland ym 1803 yn Lerpwl yn fab i Samuel a Katherine (née Menzies) Holland, a'i fedyddio yng Nghapel Presbyteraidd Paradise Street Lerpwl yn 1804. Roedd ei dad wedi buddsoddi yn helaeth yn y diwydiant llechi yng Ngogledd Cymru. Cafodd ei addysgu mewn ysgolion preswyl yn Lloegr a'r Almaen. 

Yn 18 oed yn 1821 fe'i danfonwyd i oruchwylio mewn chwarel lechi newydd ei dad yn Rhiw, Blaenau Ffestiniog ar dir a osodwyd ar rent gan William Oakeley, a bu fyw ym Meirionnydd am weddill ei oes. Bu’n rheoli'r chwarel hyd 1877 ac wedyn aeth y chwarel yn rhan o weithiau chwarel fawr yr Oakeley. 

Ei ail wraig oedd Anne Rose Robins (ein darlithydd ar y noson) a briododd Samuel ym 1850 yn Allesley, Coventry. Bu Samuel Holland yn aelod Seneddol Rhyddfrydol dros etholaeth Meirionnydd am 14 mlynedd gan ennill dwy etholiad yn gyffyrddus efo dros 60% o'r bleidlais a chael ei ethol yn ddiwrthwynebiad unwaith. Cofir am Samuel Holland yn bennaf fel un o arloeswyr y diwydiant llechi yn ardal Ffestiniog.

Bu yn un o'r prif gymhellwyr i adeiladu Rheilffordd Ffestiniog i gysylltu'r gweithfeydd llechi yn Ffestiniog a phorthladd Porthmadog. Yn ogystal bu hefyd yn un o brif gefnogwyr sefydlu Ysgol Dr Williams, ysgol fonedd i ferched yn Nolgellau gan brynu a thalu am y tir yr adeiladwyd yr ysgol arno fel rhodd i'r ymddiriedolwyr. Bu farw Rhagfyr 27 1892 yn 89 oed. 

Cofir am Samuel Holland a’i chwarel yn enw rhes o dai sydd islaw Fron Fawr sydd â golygfa wych i gyfeiriad yr hen chwarel uwchlaw tomen fawr chwarel yr Oakeley
 [TVJ]
- - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 2024


Senedd Stiniog -tai haf a baneri

Pytiau o newyddion Cyngor Tref Ffestiniog, o rifynnau Mai a Mehefin 2024

Yn dilyn llythyr ‘Cynllun Gwahardd Parcio Arfaethedig’ oddi wrth Uwch Beiriannydd Traffig Cyngor Gwynedd, daeth i’r amlwg fod cŵyn wedi ei wneud gan gwmni bws yn dweud bod trafferth mynd heibio ceir weithiau, ger y gyffordd rhwng Ffordd Glanypwll sy’n cysylltu Dinas a’r hen Ffordd Hosbitol (sy’n mynd heibio Cae Dolawel am y Gofgolofn).  Llythyr ydoedd yn gofyn os fyddai gan y Cyngor Tref unrhyw wrthwynebiad i’r cynllun yn y lle cyntaf, ac os oedd unrhyw ffafriaeth neu opsiynau eraill am y sefyllfa ganddynt.  

Dywedodd Y Cyng. Peter Jones ei fod yn byw ger y gyffordd ac yn cydnabod bod problem parcio enfawr yn bodoli yno.  Dywedodd pan mae’r tai haf a’r Airbnbs cyfagos yn llawn, fod ceir wedi eu parcio ymhobman.  Y gofid mwyaf wrth gwrs ydi beth fyddai’n digwydd mewn argyfwng, ydi’r parcio yma efallai’n mynd i atal mynediad y gwasanaethau brys?  O ystyried hyn, penderfynodd y Cyngor gefnogi’r cynllun.  Mae’n beryg y bydd rhaid i’r Cyngor Sir geisio datrys y broblem – un ai drwy greu lle parcio pwrpasol fyddai’n rhedeg gyda ffens Cae Dolawel ar gyfer y tai ger y gyffordd, neu ymestyn y meysydd parcio bach wrth waelod allt Cae Baltic a Dinas dros ychydig o hen domen Rhiw.

Penderfynwyd derbyn rhodd, sef baner Llydaw gan gangen YesCymru Stiniog. Roedd y gangen wedi ei chael gan ymwelydd o Lydaw ac yn meddwl y byddai’r dref yn falch ohoni.  Roedd y Cyngor yn ddiolchgar iawn a phenderfynwyd ei chwifio ar Fai’r 19eg, er dathlu ‘Dydd Gwyl Erwan’, nawddsant ein cefndryd Celtaidd.

Baner Glyndŵr, a'r Gwenn ha Du. Diffwys, Mai 2024. Llun Paul W
 

Parhau mae’r ddadl i drawsnewid hen adeilad y Wynne’s Arms yng ngwaelod Manod. Daeth cais cynllunio arall gerbron y Cyngor gan y perchenog, Mr. J Fatimilehin (Joof Homes Ltd.) drwy ei asiant. Wedi i’r cynllun gwreiddiol gael ei wrthod, maent bellach wedi ychwanegu dogfen asesiad llifogydd at y cais ynghyd â newidiadau eraill, fel mynediad i’r safle ac ati. Nid y Cyngor Tref fydd yn penderfynu, ond Adran Cynllunio’r Cyngor Sir. Gydag unrhyw gais cynllunio, hoffai’r Cyngor Sir wybod beth yw barn y cynghorau lleol cyn symud ymlaen, ac er bod y Wynne’s bellach wedi troi’n hyllbeth, oherwydd y gwrthwynebiad i’r cynllun gan drigolion gwaelod y Manod, rhaid oedd awgrymu gwrthod y cais. Casglwyd deiseb gyda rhestr faith o enwau’n gwrthwynebu’r cynllun yno, felly rhaid oedd dilyn y dymuniad yn lleol.

Cafwyd Cyfarfod Anarferol er mwyn trafod safbwynt y Cyngor am Erthygl 4 ar gyfer ymgynghoriad Parc Cenedlaethol Eryri. Eleni, o Fedi’r cyntaf ymlaen, ni fydd yn bosib ‘newid defnydd cartref i ail gartref neu lety gwyliau tymor byr’, ‘newid ail gartref i lety gwyliau tymor byr a defnyddiau cymysg penodol’ neu ‘newid defnydd llety gwyliau tymor byr i ail gartref a defnyddiau cymysg penodol’ heb ganiatad cynllunio gan Gyngor Gwynedd a Pharc Cenedlaethol Eryri (os bydd y Parc yn dewis ei fabwysiadu). Creu cymunedau cynaliadwy hirdymor ydi’r bwriad.

Fel y gwyddom, yn y Blaenau, mae cannoedd o dai haf ac airbnb’s yma, sy’n golygu bod prisiau tai’n aros yn uchel, ac o ganlyniad mae llawer ohonynt yn wag dros gyfnodau hir o’r flwyddyn. Maent wedi mynd yn rhemp drwy ein cymunedau. Torcalonnus yw gweld fidios wedi eu postio gan bobl ifanc ar y gwefannau cymdeithasol sy’n eu dangos o flaen y camera gyda’u pentrefi lleol yn y cefndir. Gan amlaf mae hi’n ddechrau gaeaf, yn fin nos a mae hi’n tywyllu a dim ond un neu ddau o’r tai sydd gyda golau yn ei ffenestri, y mwyafrif helaeth yn hollol dywyll a ddifywyd. Cymdeithas farw. Heb os, gall niferoedd uchel o lety gwyliau ac ail gartrefi fod yn fygythiad gwirioneddol i lewyrch cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd cymunedau. Mecanwaith fyddai Erthygl 4 i alluogi gwell rheolaeth or stoc tai presennol.

Cynigodd y Cyng. Morwenna Pugh ac eiliodd y Cyng. Peter Jones bod y Cyngor yn argymell fod y Parc yn mabwysiadu Erthygl 4, a phasiwyd y cynnig yn unfrydol.

Yn y cyfarfod Mwynderau cafwyd ymateb o’r Cyngor Sir ynglyn â’r sefyllfa afiach ac anerbynniol o faw cŵn ar ein palmentydd. Roedd swyddog y Cyngor yn cydnabod fod y broblem i weld yn cynyddu yma er y patrolau Gorfodaeth Stryd rheolaidd a’r arwyddion rhybydd ayyb. Cytunai bod rhaid ceisio codi ymwybyddiaeth eto ac maent am ychwanegu at y nifer o finiau baw cwn yn yr ardal ac adnewyddu’r rhai sydd yma eisoes. Bwriedi’r hefyd cynyddu’r nifer o batrolau Gorfodaeth Stryd a threfnu i lanhau’r ardaloedd bytraf. Daw taflenni baw cŵn newydd toc hefyd fydd yn egluro bod y ddirwy am faeddu’n codi o £75 i £100.