7.7.24

Côr y Brythoniaid yn dathlu

Bu Côr y Brythoniaid yn cynnal cyngerdd yn Lerpwl ar 13 Ebrill. Gwahoddwyd un o blant Lerpwl, DAVID WILLIAMS i fod yn Llywydd y Noson. Mae gan David [neu ‘DAI LERPWL’] fel yr adwaenwn o gysylltiadau â’r ardal. Roedd Dai a minnau’n gyd-fyfyrwyr yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin dros hanner canrif yn ôl. Trwy berthynas iddo, llwyddais i gael gafael ar ei anerchiad ar y noson. Teimlaf y byddai’r pytiau canlynol o ddiddordeb i ddarllenwyr Llafar Bro.   [Iwan M, Gol.]

Pan gysylltodd Dr Ben Rees â mi, ar ran Cymdeithas Etifeddiaeth Cymru Glannau Mersi, yn gofyn imi a fyddwn yn barod i fod yn Llywydd y noson arbennig yma, cefais fy synnu ac roeddwn yn teimlo rhyw anrhydedd o gael fy ystyried ar gyfer y rôl.

Wel, dyma fi, ar ôl derbyn y cynnig. Sut allwn i ddim derbyn y cyfle i ddod yn ôl at fy ngwreiddiau, at fy milltir sgwâr, yma yn Penny Lane, lle cefais fy ngeni a’m magu....ac i ddweud y gwir, does na ddim llawer o bobl yn dweud ‘Na’ wrth Dr Ben.

Rwy’n teimlo’n freintiedig i fod yn llywyddu heno gyda’r côr arbennig hwn, sef Côr Meibion y Brythoniaid. Er mai hogyn o Penny Lane ydw i, mae gan fy nheulu gysylltiadau agos â Blaenau Ffestiniog, wel Tanygrisiau i ddweud y gwir. Yno yn Rhif 4, West End, Dolrhedyn cafodd fy mam ei geni a’i magu. A threuliais lawer o amser yno fel plentyn yn ymweld â fy Nain am wyliau yn yr Haf.
Tra yno, ar fy ngwyliau, byddwn yn ymweld ag Anti Jini, ail gyfnither fy mam, yn Nhŷ Capel Carmel a dyna lle des i ar draws byd y corau meibion am y tro cyntaf, gan fod Yncl Esli, gŵr Jini yn canu gyda Chôr Meibion y Moelwyn, a datblygais hoffter o gorau meibion ar ôl cael fy nhywys gan Yncl Esli i un o sesiynau ymarfer y côr.

Rwyf wedi cael cysylltiadau â chorau meibion dros y blynyddoedd oddi ar fy ymweliad â Chôr y Moelwyn, gan gynnwys tan y presennol.

Rwy’n cofio, wrth gwrs, Côr y Cymric ar Y Glannau, gyda sawl aelod o’r côr yn mynychu Capel Heathfield, fel roedd hi ar y pryd.

Roedd fy mam yn arfer cynnig llety i fyfyrwyr ac athrawon, y mwyafrif ohonynt yn dod o Gymru, a’r rhan fwyaf yn Gymry Cymraeg, ac yn eu plith roedd myfyriwr a oedd yn canu’r piano, o bryd i’w gilydd, fel cyfeilydd i Gôr Meibion Froncysyllte. Roedd un arall yn canu gyda Chôr Meibion y Rhos ac un arall oedd Dafydd, oedd yn canu gyda Chôr y Brythoniaid.

Yn fwy diweddar, roedd gen i gysylltiad gyda Chôr Meibion Prysor, gan fod ei harweinydd (ar y pryd), Iwan Morgan yn gyfaill i mi pan oedd y ddau ohonom yn fyfyrwyr yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin, gydag un arall o’n cyd-fyfyrwyr yn canu efo Côr Meibion Taf.

Gan fy mod i’n byw heb fod ymhell o Lundain bellach, rwyf wedi cael y fraint o fynychu Gŵyl Corau Meibion Cymry Llundain, neu’r Mil o Leisiau, yn Neuadd Albert ar sawl achlysur.

Ond dyna ddigon am gorau eraill, beth am y côr sydd wedi ein diddanu yn yr hanner cyntaf heno, sef Côr Meibion y Brythoniaid? Maent yn dathlu trigain mlynedd (60) fel côr eleni, ar ôl iddynt sefydlu ym Mehefin 1964 gan Meirion Jones.


Ffurfiwyd y côr, yn anffurfiol, yn Mehefin 1964 gyda thua pymtheg o aelodau, er mwyn cystadlu mewn Eisteddfod fach leol yng Nghapel Hyfrydfa, Manod. Yn dilyn yr ymddangosiad hwnnw, aethant ati i sefydlu’r côr yn ffurfiol.

O’r cychwyn, mae cystadlu wedi chwarae rhan bwysig yng ngweithgareddau’r côr ac fe gafwyd ymddangosiad cyntaf y côr yn Eisteddfod Jiwbilî, Llan Ffestiniog yn 1965. Fe gawson nhw lwyddiant yn yr Eisteddfod honnon, ac maent wedi parhau i gystadlu o’r dydd hwnnw hyd heddiw.

Yn 1969, penderfynodd y côr gystadlu yn “yr un fawr” am y tro cyntaf, sef yr Eisteddfod Genedlaethol yn Fflint. Fe gawsant ei llwyddiant mawr cyntaf, gyda chanmoliaeth y beirniad yn destament i safon y perfformiad.

Y tro cyntaf i mi glywed y côr yn fyw oedd yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor 1971. Yno’r enillodd Côr Meibion y Moelwyn eu hadran ac yna, y Brythoniaid yn ennill y brif gystadleuaeth. Camp ddwbl i dref y Blaenau!

Nid cystadlu yn unig fu hanes y côr, wedi iddynt fynd ar daith lwyddiannus a hanesyddol y tu hwnt i’r ‘Llen Haearn’ gan ymweld â Hwngari. Bu iddyn nhw ymddangos o flaen panel o gerddorion mwyaf blaenllaw Hwngari a chael eu gwobrwyo â Diploma gan yr Academi Ddiwylliannol am eu perfformiad. Oddi ar y daith gyntaf hanesyddol honno, mae’r côr wedi teithio’n eang,  gan gynnwys teithio ddwy waith yn America, dwy waith yng Ngwlad Belg, dau ymweliad â Gŵyl Lorient yn ogystal â nifer o deithiau i’r Alban ac Iwerddon. Cafwyd llwyddiannau pellach yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1977, 1985, 2002, 2005 a 2016.

Mae’r côr wedi ymddangos ar y teledu nifer o weithiau ac wedi ymddangos ar lwyfan gyda rhai o berfformwyr gorau’r byd. Mae’r rhain yn cynnwys Dennis a Patricia O’Neill, Shirley Bassey a Bryn Terfel. Cyhoeddwyd nifer o recordiau a chryno ddisgiau hefyd, gyda Chwmni Recordiau Sain yn cyflwyno disg aur iddynt yn 1982 mewn cydnabyddiaeth o werthiant eu recordiau.

O’r Blaenau, tref y llechi,
Ac yn chwe deg oed eleni,
Maent wedi dod i Lannau Mersi
I ddiddanu a’n swyno ni.
- - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 2024


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon