29.6.15

Peldroed- timau'r ardal

Trydedd ran y gyfres am 'hanes y bêldroed yn y Blaenau'.
 
Hanes rhai o'r nifer fawr o glwbiau a fu yma dros y blynyddoeddd.  Dan benawd 'Timau'r Ardal', dyma sut y cofnodwyd rhai o'r pytiau difyr rheiny, gan ddechrau gydag Offeren City.  Mae'n debyg bod lluniau i gyd-fynd â'r nodiadau, a da fyddai cael gweld copi o'r lluniau hynny, lle bynnag y maent erbyn heddiw.
"Tîm cynharaf Offeren City:  Tom Morgan, J.Humphrey Jones, Haydn Jones, Charles Griffiths. Richard Jones, ---, J.G.Jones, William Davies, Arthur Williams, Frank Davies, Thos. J.Williams.   Ambulance Richard Pritchard, Johnny Williams, Arthur Cooke Thomas,  Maldwyn Vaughan Jones, Austin Jones."  
Ymysg yr enwau eraill yn ymwneud ag Offeren City mewn "Tîm Arall" oedd  Emrys Thomas, Gwilym (Stonelan?) Jones, J.G.H.Parry, R.Arfon Griffiths, R.G.Davies, Maldwyn V.Jones,  Ifor Jones a Tom Brooke.

Awn ymlaen at y Dixie Kids, ac eto enwau rhai a oedd mewn llun cyfatebol a geir :  Len Owen, Jack Williams, W.H.Reese, Tom Emyr Jones, John Idwal Jones, Maldwyn V.Jones. Ivor Stoddard, Arthur Cooke Thomas. R.G.Jones, Carey Jones.  (Ymddengys yn ôl yr hyn a welir uchod bod chwaraewyr yn symud o glwb i glwb yr adeg hynny)

Cofnodir y canlynol fel chwaraewyr i Ffestiniog Thursdays:  Rd. Evans, Rd.Jarret Jones, Dave Jones (USA), Iddon?Humphreys, Morris J.Williams, Morris Griffiths, Bob---(USA), Owen Parry, Dewi Humphreys, E.Hughes, Elias Jones, R.O.Evans (Canada) D.G.Williams.
 "Tîm Manod (Hen iawn) Blaen: Lewis Humphreys, John David Edwards, Jos W.Morris, John Hughes, Evan Pugh.  Canol: Wm Owen, Ieuan V.Hoskins, Edw Jones Thomas. Ôl: Wm J.Ellis, R.Owen Roberts, John Williams, R.Evans Hughes, J.Owen Jones."

Aiff Ernest ymlaen i drafod enwau rhai oedd yn chwarae i dimau eraill o'r cylch, megis timau Tanygrisiau; Ieuenctid Tanygrisiau; Clwb Tanygrisiau;  Moelwyn Rangers; Rhiw Institute (1920); Moelwyn (1910); Ystradau Celts (1926); Black Stars; Gwynfryn Celts; Manod Villa.  Tua 1928 roedd timau Moelwyn Celts, St David's Guild, Bethania, Blue Boys a Rhiw Corinthians yn eu bri hefyd.

Delwedd oddi ar wefan Stiniog.com -dolen isod


Ymysg yr enwau hynny gwelir enwau Gwilym Brookes a Thomas Dorfil Jones (Rhiw Inst.)  Richard Lewis a John Reynolds (Moelwyn Rangers) a Simeon Jones a F.Bradley o dîm Ieunctid Tanygrisiau.
Gwelir hefyd enwau'r sawl a chwaraeodd i dîm cynharaf  Stiniog, un 1890, sef Bob Mills Roberts, Dick Kerchen, Guto Cribau, Ted Roberts, Dic Bach Shonat, John Elias Morgan, Rolant Hughes, Hugh Gwilym Jones, Bob Pwllheli, Dic Gwilym Bach, Evan Stoddart.

---------------------------
Paratowyd y gyfres yn wreiddiol ar gyfer Llafar Bro gan Vivian Parry Williams. Ymddangosodd y bennod hon yn rhifyn Medi 2004.
Gallwch ddilyn y gyfres i gyd trwy glicio ar ddolen 'Hanes y bêldroed yn y Blaenau', isod.

[Llun pêl gan Beca Elin]

 Gwefan stiniog dot com (dim cysylltiad efo Llafar Bro)



27.6.15

Mae'r Dref Werdd yn ôl!

Rhan o erthygl am gynlluniau amgylcheddol Y Dref Werdd, o rifyn Mehefin.

Wedi cyfnod o seibiant, mae’r prosiect wedi llwyddo i sicrhau cyllid gan y Loteri Fawr am y tair blynedd nesaf dan y cynllun - ‘Datblygu Tref Werdd Ddyfeisgar’

Bydd cyfleoedd i drigolion Bro Ffestiniog gymryd rhan mewn nifer o brosiectau, fel lleihau defnydd o ynni yn y cartref, hyfforddiant sgiliau cefn gwlad, a chyfleoedd i wirfoddoli mewn gwahanol agweddau o’r gwaith.

Bydd y cynllun yn dilyn y llwyddiant a ddeilliodd o waith ‘Y Dref Werdd’ fel prosiect a gychwynodd yn ôl yn 2006. Nod hwnnw oedd sefydlu’r corff ac hefyd, i greu gweithgareddau fyddai’n helpu i wella amgylchedd Bro Ffestiniog, lleddfu tlodi ac adfywio’r ardal. Roedd y prosiect yn llwyddiannus iawn wrth ddatblygu nifer o gynlluniau penodol a oedd yn arloesol ac ymarferol. Datblygwyd llawer o bartneriaethau a oedd yn cynnwys asiantaethau cenedlaethol, mudiadau a grwpiau cymunedol ac unigolion. Bwriad y cynllun ‘Datblygu Tref Werdd Ddyfeisgar’ yw parhau gyda’r partneriaethau a’r gwaith hwnnw.

Cyn i’r prosiect gwreiddiol ddod i ben yn 2013, sefydlwyd dwy brif bartneriaeth a fydd yn parhau i ddatblygu’r gwaith, sef, ‘Partneriaeth Afonydd Bro Ffestiniog’ - a fydd yn ceisio codi safon ecolegol pedair afon benodol - Barlwyd, Bowydd, Dubach a Teigl, yn ogystal â’u cadw’n lân a thaclus. Bydd hefyd sesiynau addysgol am yr afonydd yn cael eu cynnig i ysgolion yr ardal.

Sefydlwyd y ‘Bartneriaeth Rhododendron’ hefyd a'r cam nesaf fydd ymgynghori efo’r gymuned leol a darganfod ffynhonellau ariannol i wneud ceisiadau i gychwyn ar y gwaith o'i reoli.

Bydd cynllun arall yn cyd-weithio â 90 o aelodau’r gymuned i gynnig hyfforddiant mewn sgiliau cadwraeth, a hynny drwy dargedu’r ifanc a'r di-waith, er mwyn eu helpu i sicrhau cyflogaeth yn y maes.

Yn dilyn llwyddiant y ‘Clwb Natur’ i blant ysgolion cynradd yr ardal, bydd y staff rwan yn ei ddatblygu ymhellach, trwy ddilyn yr hyn a ddeilliodd o’r cwrs ‘Cynefin a Chymuned’, a ddatblygwyd yn wreiddiol gan Antur Stiniog ar gyfer oedolion. Bydd cyfle i blant a phobl ifanc gymryd rhan i ddysgu am amrywiaeth o bynciau, yn cynnwys hanes, bywyd gwyllt, archeaoleg a threftadaeth ardal Bro Ffestiniog, a derbyn cymhwyster ar ddiwedd y cwrs.

[Bydd darllenwyr Llafar Bro hefyd yn cofio'r golofn fisol ar faterion amgylcheddol -Y Golofn Werdd- a ymddangosodd yn y papur am gyfnod, a'r rhifyn gwyrdd unigryw, yn hyrwyddo Gwyl yr Wythnos Werdd a'r Ffair Werdd. Gol.]


Dros y 3 mlynedd nesa' bydd 100 o deuluoedd yn cael arweiniad i leihau’r defnydd o ynni yn eu cartrefi ac arbed oddeutu £400 y flwyddyn. Bydd y prosiect hefyd yn cydweithio gyda theuluoedd i leihau’r maint o wastraff bwyd y maent yn ei daflu allan.

Cafwyd lawnsiad yn ‘Siop Antur Stiniog’ ar ganol Mehefin 16eg, lle cafodd unigolion, grwpiau cymunedol a mudiadau alw heibio i gael sgwrs ac i drafod y cynllun.

Mae pedwar aelod o staff wedi eu penodi o’r newydd, sef, Gwydion ap Wynn, Rheolwr y Prosiect, Meilyr Tomos, Swyddog Prosiect Ynni / Bwyd, Gwen Alun, Swyddog Prosiect Amgylcheddol a Maia Jones, Swyddog Cyswllt Y Dref Werdd.


25.6.15

Stolpia

Rhan o erthygl Steffan ab Owain, o rifyn Mehefin:

Can mlynedd yn ȏl

“Yr wythnos ddiweddaf yr oedd dau Italiad a oedd yn cadw siop pytatws yn Blaenau Ffestiniog, yn myn'd i ffwrdd i ymladd  dros eu gwlad, a daeth yr adran leol o’r milwyr, y rhai sydd yn rhifo oddeutu 150 i'w danfon i'r orsaf, a chawsant send off rhagorol.”
(‘Y Dydd’ - Mehefin 18, 1915).
Tybed pwy oedd y ddau Eidalwr yma a beth a fu eu tynged ?



Marwolaeth Cadwaladr Roberts - Pencerdd Moelwyn – (Mehefin 1915)
“Cafwyd un o’r cynhebryngau mwyaf a welodd pobl Stiniog yn eu  tref. Roedd trefn ei angladd fel a ganlyn:

Band of Hope’ Capel Carmel yn gyntaf, yna’n ail, Cȏr y Moelwyn - sef y cȏr a arweiniodd yn llwyddiannus am rai blynyddoedd.

Yn drydydd, gweinidogion, blaenoriaid a chynghorwyr. Yn bedwerydd, y corff  a ddilynwyd gan y teulu a’r cerbydau. Ac yna, y dyrfa fawr.

Canodd y Gobeithlu a’r côr ar y ffordd ‘yn bruddfelus a swynol.’ Canodd y Cȏr yr emyn-dôn ‘Trewen’ cyn cychwyn oddi wrth y tŷ ac ‘O mor bêr’ ym mynwent y Llan, a’r dorf yn dyblu a threblu ‘Crugybar’ fel ffarwel ‘i un o feibion ffyddlonaf yr awen gerddorol a welodd y genedl Gymreig.’ Tynnwyd rhai lluniau o’r cynhebrwng yn y Stryd Fawr”.

 --------------------

Darllenwch erthyglau eraill yng nghyfres STOLPIA gyda'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.


23.6.15

Adolygiad: Llên Gwerin Meirion

Adolygiad llyfr, o rifyn Mehefin.

Llên Gwerin Meirion. Detholiad o Draethawd Buddugol 1898.  William Davies; Golygydd: Gwyn Thomas.

Y diweddara’ o’r gyfres ddifyr ‘Llyfrau Llafar Gwlad’ ydi’r gyfrol hon. Ac yn wir, mae’r cynnwys hefyd yn hynod ddifyr, yn enwedig i ni sy’n rhan o’r hen Sir Feirionnydd.

Testun ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Ffestiniog 1898 oedd hwn yn wreiddiol, a enillodd y wobr gyntaf i’r awdur, William Davies, o Dal-y bont, Ceredigion. Derbyniodd William glod uchel, haeddiannol, gan y beirniad, yr Athro John Rhys, a ddywedodd mai dyma un o’r casgliadau gorau o’i fath a welodd erioed. Er nad yw pob cofnod yn unigryw i Feirion, mae’r gwaith ardderchog a wnaeth William Davies yn haeddu’r ganmoliaeth, yn sicr.

Hyd yma, dim ond yng Nghyfansoddiadau Eisteddfod Genedlaethol 1898 y gellid gweld y casgliad rhyfeddol hwn. Mae copïau o’r Cyfansoddiadau rheiny erbyn hyn, fel y gellir dychmygu, fel aur Meirion o brin.

Ond diolch i weledigaeth un o’n ‘hogia ni’, yr Athro Gwyn Thomas, cawn flasu unwaith eto’r miloedd o ddyfyniadau o lên gwerin y sir, a oeddent mewn peryg’ o ddiflannu o’r iaith Gymraeg. Cawn ddarllen enghreifftiau o ymadroddion llên gwerin, diarhebion y misoedd, arwyddion y tywydd, hen benillion a hwiangerddi'r dyddiau fu.

Er efallai’n codi arswyd ar ambell un, mae’r penodau ar ‘Arwyddion Angau’, ‘Ysbrydion’, ‘Drychiolaethau Nosawl’ yn arbennig o ddifyr, ac yn dod â holl ysbryd y dyfyniadau’n fyw iawn, os maddeuwch y disgrifiad! Mae pytiau am hen arferion carwriaethol a llu o ddarnau eraill darllenadwy iawn hefyd yn y gyfrol.

Yn ddi-os, mae Gwyn Thomas, fel golygydd y gyfrol, wedi gwneud cymwynas fawr â’r sawl sy’n ymddiddori yn llên gwerin ein cenedl, ac yn yr hen straeon hynny, oedd mor boblogaidd y dyddiau fu. Mae wedi sicrhau fod gwaith hynod William Davies ar gael unwaith eto, a hynny am bris rhyfeddol o rad o £6.50.

Diolch yn fawr iti Gwyn, a brysiwch i brynu’r gyfrol arbennig hon ddarllenwyr, cyn iddi werthu allan!

VPW

Llên Gwerin Meirion. Detholiad o Draethawd Buddugol 1898.  William Davies; Golygydd: Gwyn Thomas. Gwasg Carreg Gwalch. £6.50

[Llun gan Wasg Carreg Gwalch]



21.6.15

Urddo a gwobrwyo

Pytiau o dudalen flaen rhifyn Mehefin. Os na welsoch gopi bellach, ewch allan i brynu un, neu cysylltwch â'r dosbarthwyr i gael y straeon yn llawn, a llawer iawn mwy.

ANRHYDEDDU BRYN TŶ COCH

Daeth Bryn Williams, Tŷ Coch, Cwm Cynfal ar restr fer ‘Pencampwr Cymuned Cymru Wledig’ a noddir gan ‘NFU Cymru’ a Chymdeithas Adeiladu’r ‘Principality’. Derbyniodd dystysgrif a gwobr ariannol o £100 yn yr Ŵyl Wanwyn, a gynhaliwyd ar faes y Sioe yn Llanelwedd yn ddiweddar.
Cyflwynir yr anrhydedd i ffermwyr a wnaeth gyfraniad amlwg i’w cymuned leol.

Disgrifiwyd Bryn fel ‘un sy’n barod i gerdded yr ail filltir er lles ei gyfoedion yn y gymuned’ ac fel un ‘a gyfrannodd yn ddiflino i’r gymuned honno ers degawdau.’

Hanner can mlynedd yn ôl, dechreuodd ddosbarthu wyau yn lleol. Mae’r orchwyl honno’n parhau hyd heddiw. Boed law neu hindda, mae’n parhau i ddosbarthu papurau newydd. Mae’n mynd â’r rhain i Gartref Bryn Blodau’n ddyddiol. Mae’r trigolion yn aros yn eiddgar amdano, ac mae’n canfod amser i gael sgwrs fach gyda nhw.

Mae Bryn yn 81 oed ym mis Gorffennaf, ac wedi hanner ymddeol o ffermio bellach. Mae’n rhentu allan y rhan fwyaf o’i dir. Er hyn, mae’n parhau i fynd o gwmpas y tir hwnnw ar ei feic modur ‘quad’, a phan fydd yng nghyffiniau Ty’n Ffridd, a minnau allan yn piltran o gwmpas yr ardd, bydd yn rhaid aros am sgwrs i roi’r byd yn ei le. Ond mae’r hyn a wna’n y gymuned yn ei gadw i fynd, yn ei gael allan o’r tŷ’n hytrach na bod o dan draed Eurwen, ac yn sicr, yn ei gadw’n ifanc.

Mae’r ardal gyfan yn gwerthfawrogi’r hyn a wna, ac yn dymuno iechyd a hir oes iddo i ddal ati.
Llongyfarchiadau calonnog, Bryn, a diolch am bob cymwynas!   IM

-------------------

CAMP TOMOS HEDDWYN

Daeth Tomos Heddwyn Griffiths, sy’n ddisgybl Blwyddyn 8 yn Ysgol y Moelwyn â chlod i’r ardal pan ddyfarnwyd iddo’r wobr gyntaf ar yr Unawd i Fechgyn (Blynyddoedd 7 i 9) ym Mhrifwyl yr Urdd, Caerffili.


Swynodd ei gyflwyniad o ‘F’annwyl wyt ti’ [Caro mio ben] gan Giordani y beirniad yn fawr. Llongyfarchiadau gwresog i ti, Tom, a dymuniadau gorau i’r dyfodol.

-------------------

Hefyd, darn o newyddion da a ddaeth o Lys yr Eisteddfod Genedlaethol:

Fis yn ôl cyhoeddwyd enwau'r rheini o’r gogledd a fydd yn cael eu derbyn i'r Orsedd drwy anrhydedd, yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau eleni.

Mae’r anrhydeddau hyn, a gyflwynir yn flynyddol, yn gyfle i roi clod i unigolion o bob rhan o’r wlad am eu cyfraniad arbennig i Gymru, y Gymraeg ac i’w cymunedau lleol ar hyd a lled Cymru.

Braf yw gallu cydnabod y bobl hyn drwy drefn anrhydeddau’r Orsedd, a’u hurddo ar Faes yr Eisteddfod Maldwyn a’r Gororau eleni, fore Gwener 7 Awst.

Iwan Morgan
Mae cyfraniad Iwan Morgan, i fywyd diwylliannol y fro yn
sylweddol dros y blynyddoedd, gyda’r cyn-brifathro’n troi’i law at nifer fawr o feysydd gan gynnwys canu corawl, barddoni, beirniadu ac yn fwyaf nodedig ac amlwg, efallai, ei gyfraniad helaeth i gerdd dant, nid yn unig yn lleol ond yn genedlaethol.


Yn gefnogwr brwd o’r Eisteddfod ers blynyddoedd, mae Iwan hefyd wedi bod yn lladmerydd pwysig i gerdd dant, gan gymryd rhan flaenllaw yng ngwaith Cymdeithas Cerdd Dant Cymru, yr Ŵyl Gerdd Dant, a llu o sefydliadau a chymdeithasau eraill.

Yn gyn-aelod o dimau Talwrn Ardudwy a’r Moelwyn, bu hefyd yn olygydd papur bro lleol ei ardal, Llafar Bro am flynyddoedd, ac yn gweithredu eto fel cyd-olygydd ers 2008. 

Llongyfarchiadau gwresog i Iwan.