Hwn newydd gyrraedd heddiw, felly'n rhy hwyr i'w gynnwys yn rhifyn Medi:
I'r rhai sydd wedi bod yn pendroni dros ambell
un o'r dywediadau, a darnau barddoniaeth ar balmentydd a phileri llechi
newydd y Blaenau, mae taflen bellach wedi'i chynhyrchu efo nodiadau am bob un,
gan Blaenau Ymlaen, ar y cyd a haneswyr lleol.
Mae yna gryn
waith wedi mynd i mewn i hwn bois bach. Diolch i bawb am eu llafur cariad.
Dwi wedi cynhyrfu o'r newydd, ac
yn edrych ymlaen i weld i pileri a'r gwaith eraill wedi eu cwblhau.
Cliciwch yma i weld y cefndir, ac i lawrlwytho'r daflen.
(Lluniau PW)
11.9.12
10.9.12
Pytiau...
Ambell i ddarn o rifyn Medi.
Tamaid i aros pryd...
Arddangosfa Cymdeithas Hanes
Bro Ffestiniog
Cynhaliwyd arddangosfa lwyddiannus iawn unwaith eto gan
Gymdeithas Hanes Bro Ffestiniog dros yr haf. Dymuna'r trefnwyr ddiolch o galon
i bob un a fu'n gwirfoddoli fel gofalwyr ar ran y gymdeithas.
Os na fuoch
chi yn yr arddangosfa, cofiwch y gallwch wylio fideo poblogaidd y Gymdeithas –Stori Stiniog- ar You Tube. [Dolen ar y dde].
Bydd Rhamant Bro, cylchgrawn Cymdeithas Hanes
Bro Ffestiniog, ar werth yn eich siopau lleol fis Tachwedd, yn llawn o
erthyglau diddorol fel arfer. Dyma'r unig gylchgrawn blynyddol o'r fath a
gyhoeddir drwy Gymru gyfan.
Sicrhewch eich copi!
Sicrhewch eich copi!
Gwobr Cymdeithas Cyfeillion Ysgol y Moelwyn
Mae’r gronfa wedi cyrraedd y nod. Y
cyfanswm ar y pryd yw £5213. Tra y mae’r arian yn dod i mewn bwriedir wobrwyo
disgyblion yr ysgol am gyfnod hwy na’r deg mlynedd gwreiddiol.
Clwb Rygbi Bro Ffestiniog
Mae’r tymor newydd wedi cychwyn a Bro wedi cael dwy fuddugoliaeth. Curwyd Nant Conwy o 11 i 8, mewn gêm oedd yn ddigon
blêr am gyfnodau, a'r tîm
lleol yn chwarae efo dim ond tri dyn ar ddeg yn y pum munud olaf. Curwyd Dolgellau yn yr ail gêm, o 25 i 17.
Y Golofn Werdd
Bu’n dymor prysur i Glwb Natur Bro Ffestiniog eto, gyda
nifer o weithgareddau cyffrous wedi eu trefnu ar gyfer y criw brwdfrydig.
Bu’r clwb yn dal ac astudio mamaliaid bychain -fel llygod y
maes, a llygod pencrwn- yng Nghoed Cymerau, a hefyd ar daith gerdded, ac yn dysgu sut i hel bwyd yn y gwyllt, cynnau
tân, a chodi lloches rhag y tywydd, yng Nghoed y Brenin.![]() |
murlun newydd y Tap |
5.9.12
"Daliwch y dudalen flaen...!"
Diolch i'r drefn am hynna: mae rhifyn Medi wedi mynd i'w wely o'r diwedd! Mae o wedi teimlo'n hirach, a mwy poenus na'r arfer y tro yma!
Bydd Vivian, yr ysgrifennydd yn ei ddanfon i'r wasg bore Mercher.
Nos Fercher nesa -y 12fed- fydd o'n cael ei blygu, yn neuadd y WI, ac yn cael ei rannu wedyn rhwng y dosbarthwyr lleol a'r siopau.
Fel y gellid disgwyl, mae yna gryn sylw i'r ysbyty yn y rhifyn yma, ond mae'r golygyddol yn son am y rwystredigaeth o orfod gyrru'r deunydd i'r wasg cyn y cyfarfodydd efo'r bwrdd iechyd!
Dyma ddarn i aros pryd..
Bydd Vivian, yr ysgrifennydd yn ei ddanfon i'r wasg bore Mercher.
Nos Fercher nesa -y 12fed- fydd o'n cael ei blygu, yn neuadd y WI, ac yn cael ei rannu wedyn rhwng y dosbarthwyr lleol a'r siopau.
![]() |
A fu aberth pobl Bro Ffestiniog yn ofer? -llun PW |
Dyma ddarn i aros pryd..
Dwi ddim isio swnio fel tiwn gron, ond ‘rargian, mae golygu
rhifyn Medi bob blwyddyn yn gwneud i mi sylweddoli mor braf ydi byw ym Mro
Ffestiniog. Do, mi gawsom ni’r haf gwlypaf ers cychwyn cofnodi’r glaw, ond wfft
i’r tywydd. Mae’r golofn rhoddion yn fy rhyfeddu i’n rheolaidd. Diolch yn fawr
iawn i chi gyd am eich haelioni, ar gyfnod mor anodd i nifer. Diolch i lawer
hefyd am gefnogi ein papur bro mewn ffyrdd eraill.
Mae Calendr y Cymdeithasau hefyd yn llonni calon rhywun,
wrth sylwi’r gweithgaredd anhygoel sy’n mynd ymlaen yn ein cymuned.
Hefyd, angerdd pobl y fro, a llafur cariad ac ymroddiad y
pwyllgor amddiffyn, wrth geisio gwarchod ein gwasanaethau. Mae’n fraint yn wir
cael byw yn eich mysg.
Mae golygu papur misol yn gallu bod yn waith rhwystredig
iawn hefyd. Ffrystreting: hwnna ydio!
Yn ystod yr wythnos rhwng gyrru Llafar Bro i’r wasg, ac iddo ymddangos
yn eich cartrefi, gall llawer iawn o bethau ddigwydd! Y tro hwn, rwy’n methu
adrodd yn llawn ar ddatblygiadau’r ysbyty, oherwydd bod cyfarfodydd y bwrdd
iechyd yn digwydd ddiwrnod ar ôl rhoi Llafar Bro i’w wely, ar y 6ed! Pwy a ŵyr;
oherwydd cefnogaeth eich papur bro i ymgyrch y pwyllgor amddiffyn, efallai mai
dyna mae’r bwrdd iechyd yn gwybod?!
Mewn difri’, gall nifer o bethau newid
hefyd yn y bwlch hwnnw, a ninnau’n methu adrodd yr hanes am fis arall. Ni all,
ac ni ddylia Llafar Bro gystadlu efo’r Herald a’r Cambrian News o ran adrodd y
newyddion felly, ond gobeithiwn eich bod yn deall y rhesymau pam.
Subscribe to:
Posts (Atom)