20.6.26

Stolpia- Allt Talywaenydd

Yn ddiau, y mae y rhan fwyaf ohonoch wedi teithio mewn cerbyd, neu ar gefn beic, cerdded neu redeg, efallai, ar hyd Allt Talywaenydd ar ryw adeg o’ch hanes. Y mae gennyf lawer o atgofion amdani a hynny yn ymestyn yn ôl flynyddoedd lawer.Y cof cyntaf  sydd gennyf am yr hen allt yw dod i lawr ar gefn caseg wedd pan oeddwn tua saith oed, ac os cofiaf yn iawn, eisteddai David Clack o’m mlaen i arni hi. Caseg Ned Owen Lodge Plas Weunydd oedd hi, ac ef oedd yn ei harwain i lawr i gae Dôl Awel. Y pryd hynny tyfid gwair yn y cae ar gyfer bwydo’r gwartheg yn y gaeaf.

Bu hogiau’r Rhiw a Thalywaenydd yn sledio arni hi sawl tro ar aeafau o eira a rhew yn yr 1950au, a phan roedd ychydig iawn o draffig. Os byddai Bwlch Gorddinan (y Crimea) wedi cau dan eira, dim ond fan lefrith, lori lo, efallai, a lori’r Cyngor a fyddai’n mentro arni hi. Pan ai’r rhiw yn llithrig taenid cerrig mân (chippings) ar y ffordd gan weithwyr y cyngor, ac o ganlyniad, rhoi atalfa ar ein hwyl. Pa fodd bynnag, ar rai adegau byddai’r  hogiau yn taenu eira o ochrau’r ffordd a’i roi yn ôl ar y man lle byddid yn sledjio. Hogiau drwg, ynte ?

Y mae hi’n amlwg nad y ni’r hogiau a oedd y rhai cyntaf i wneud hyn. Y mae’n debyg i’r arferiad ymestyn yn ôl flynyddoedd lawer fel y tystia’r adroddiad hwn yn y Cambrian News,  16 Ionawr, 1903. Nodir ynddo bod eira trwchus yn y Blaenau, a’r chwiw bresennol yw sglefrio a sledio ar yr heolydd, ac y mae rhiw Talywaenydd yn un sydd mewn defnydd ar gyfer hyn. 

Dyma ychydig hanesion eraill amdani o’r  papurau newydd. 

Lle Enbydus -Tra yn dyfod i lawr allt Talwaenydd ddydd Iau, canfu Mr W. Owen, Plasweunydd, belen deinameit ar lawr. Yr oedd Mr Williams, Caegwyn Stores, newydd fynd trosti. Trwv ryw drugaredd ni ffrwydrodd neu gallasai y canlyniadau fod yn arswydus. Herald Cymraeg, 29 Tachwedd 1904.

Damweiniau drwg - Gallai yr allt fod yn lle peryglus ar y gorau yn y dyddiau a fu. Bu  amryw o ddamweiniau drwg ar allt Talywaenydd tros y blynyddoedd. Dyma  fel yr adroddwyd am un yn Y Genedl Gymreig, 17 Gorffennaf, 1889: 

Dydd Gwener, cyfarfu Mrs Roberts, Plas Waenydd, A damwain a allasai fod yn bur ddifrifol. Deallwn ei bod gyda y gwas yn y cerbyd yn dod i lawr o'r Plas i gyfeiriad Pantyrafon, pryd y syrthiodd y ceffyl trwy ryw anffawd, a dymchwelwyd Mrs Roberts a'r gwas o'r cerbyd. Wedi cyrchu y meddygon, caed nad oedd niweidiau y foneddiges mor ddifrifol ag yr ofnid ar y cyntaf, lie y mae yn dod ymlaen dan ofal Dr Roberts a Dr Jones, Isallt. 

Dyma gofnodion eraill -Daeth beiciwr i lawr rhiw Pant yr Afon ddydd Sul a gwrthdaro, neu mynd yn ‘batj’, chwedl pobl Blaenau, i Mrs Edwards, Llwyn y Gell a’i merch. Anafwyd y beiciwr a’r ddwy fenyw, yn enwedig Miss Edwards a ddioddefodd o doriad pont yr ysgwydd. Cambrian News 15 Gorffennaf 1904. 

Ym mis Ionawr 1906 tra roedd Motor CC 135 yn dod i lawr rhiw Talywaenydd collwyd rheolaeth o’r car gan y gyrrwr ac aeth yn wyrgam a tharo’r wal. Taflwyd y teithwyr, sef Mrs Lloyd, Gorddinan a’i merch allan o’r car a bu’n rhaid iddynt gael triniaeth feddygol gan y Doctoriaid Jones a Roberts, Plas Weunydd. Drylliwyd y car fel y bu’n rhaid ei gario ar lori i’r Blaenau.

Yn ôl adroddiad yn Herald Cymraeg, 11 Awst 1908 – Lle peryglus yw Gallt Talwaenydd i gerbydwyr a deurodwyr (h.y. beicwyr), os na chymerir llawer iawn o ofal a phwyll, Bu i un ferch ieuanc o Gapel Curig gael ei thaflu oddi ar ei deurod (beic) a'i niweidio —"a'r Sabath oedd y diwrnod hwnw."!

Dyma griw o deithwyr yn jolihoetio i lawr Allt Talywaenydd yn yr 1920au, mi gredaf. Gobeithio eu bod nhw wedi cyrraedd diwedd eu siwrnai yn ddidrafferth, ynte?   
    
Tybed pwy all ddweud mwy am y cerbyd hwn wrthym?

- - - - - - -

Pennod o gyfres Streffan ab Owain, a ymddangosodd yn rhifyn Mai 2026

 

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon