ATGOFION AGNES… yn mynd â ni’n ôl i gyfnod yr Ail Ryfel Byd
Wrth weld yr ofn a’r dychryn sydd yn wynebu’r bobl yn Gaza a’r cyffiniau ar y teledu, daeth atgofion o’m plentyndod yn ôl i’r cof.
Roedd Rhyfel 1939-45 yn ehangu ac roedd sôn am i’r bechgyn orfod mynd i ymladd y gelyn. Ond bu raid i’r rhai oedd ychydig dros yr oed fynd i ffatrïoedd gwneud ffrwydron yn barod i’r rhyfel. Bu raid i’m tad fynd i Loegr i weithio mewn ffatri ffrwydron. Golygai hynny y byddai Mam yn mynd â’i thair merch ar y trên i Traws i aros am gyfnod efo’i theulu. Roedd yn gyfleus ar y trên o’r Blaenau yr adeg honno. Roedd Stesion Traws wrth ymyl cartref y teulu. Roedd chwaer mam yn gweini ar ddau ewythr iddi. Wrth fynd â ni i aros yno, roedd Mam yn ceisio lleihau ein hiraeth am nhad.
Yn Traws rhyw ddiwrnod y gwelsom fod prysurdeb mawr yn ymyl y Stesion. Roedd gorsaf newydd yn cael ei hadeiladu er mwyn hwyluso’r ffordd i filwyr ddod yno. Fe’i galwyd hi’n ‘Stesion Soldiwrs’.
Pan gyrhaeddodd trên arbennig y Stesion newydd – er mawr syndod i ni – be ddaeth allan ohono ond ceffylau mawr hardd. Sôn am weryru a strancio! Roedden nhw mewn ofn mae’n siŵr.
Mewn hir a hwyr deallwyd mai ceffylau’r cafalri yn Llundain oeddynt.
Ar ôl eu setlo i lawr a’u dyfrio ac yn y blaen, rhoddwyd rhyw bethau du tu ôl iddyn nhw.
‘Gun Carriages’ oeddynt. Maent yn dal i dynnu rheiny ar achlysuron pwysig yn Llundain heddiw.
I ffwrdd â nhw ar draws y caeau yn un rheng gan dynnu’r gynnau o’u holau. Osgoi’r pentref wnaethant rhag tynnu sylw mae’n siŵr. Roeddynt yn mynd i’r ‘Camp Soldiwrs’ oedd ychydig filltiroedd i ffwrdd. Roedd rhai yn arwain y ceffylau ac eraill yn eistedd arnynt. Ar ôl gosod cyfrwyon arnynt a gosod y gynnau yn sownd fe aethant ymlaen i’r camp.
Ychydig amser wedi hynny, daeth awyren a gollwng bom ychydig bellter o’r Stesion. Glaniodd y ffrwydrad ar y graig, a diolch i’r drefn, wnaed fawr o niwed i’r bobl. Er hynny, cafodd rhai o’r adeiladau ddifrod. Maluriwyd ffenestri tai, a daeth y nenfwd i lawr mewn tŷ arall ac ysgytiwyd tai eraill.
Y noson wedyn, yn ôl ei arfer, clywyd Lord Haw Haw yn canmol yr ymgyrch ond bod yr awyren wedi colli ei ffordd wedi iddi ddilyn yr afon yn hytrach na Llyn Traws. Ychydig cyn hyn roedd si ar droed fod ysbïwyr o gwmpas. Pwy a ŵyr?
Mwy o bytiau i ddod!
Agnes Edwards
- - - - - - -
Ymddangosodd yn rhifyn Mai 2026

No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon