Fel rhan o gynlluniau Gwanwyn GwyrddNi, mae Ysgolion Creadigol GwyrddNi wedi bod yn cefnogi pobl ifanc ym Mlaenau Ffestiniog i gyfathrebu’n greadigol am newid hinsawdd. Wedi llwyth o waith cyffrous, mae rownd un o’r prosiect wedi dod i ben, ac mae un peth yn enwedig wedi dod o’r prosiect. Mae pobl ifanc ar draws 5 o ardaloedd GwyrddNi wedi dewis creu pethau gwahanol – ac mae LOTOBOT wedi ymddangos ym Mro Stiniog!
Peidiwch a phoeni os nad yw’r enw LotoBot yn golygu unrhyw beth i chi, dyma Agi o Ysgol y Moelwyn i esbonio:
“LotoBot yw ein cynrychiolydd ar gyfer newid hinsawdd ym Mro Ffestiniog. Fe’i gynlluniwyd gennym ni i gynrychioli popeth yn ein hardal leol, a dyna pam mae LotoBot yn edrych fel hyn”Mae’r broses o gymryd rhan wedi bod yn bwysig i bobl ifanc Ysgol y Moelwyn, sydd yn teimlo fel eu bod nhw ddim yn cael eu clywed ar faterion newid hinsawdd.
Fe soniodd Gethin, disgybl yn y Moelwyn pam ei fod o’n gweld hi’n bwysig gweithredu:
“Mae’n bwysig i weithredu ar newid hinsawdd oherwydd bod hi’n broblem enfawr a bysa pobl yn gallu gwneud rhywbeth i helpu trwy wneud y pethau bychain”
Mae’r prosiect hwn wedi ysbrydoli staff GwyrddNi ac Ysgol y Moelwyn, sydd wedi rhoi’r cyfle i adael i’r bobl ifanc redeg yn wyllt a’u syniadau. Dywedodd Ed Roberts (Athro Daearyddiaeth Ysgol y Moelwyn):
“Rydym yn hynod o ddiolchgar i GwyrddNi am gyd-weithio efo’r ysgol. Mae’r prosiect efo Buddug Roberts wedi bod yn fuddiol ofnadwy i’r plant sydd wedi cymryd rhan, gan eu bod nhw wedi creu perthnasau arbennig efo’i gilydd ac wedi cyd-weithio’n agos o dan ei harweiniad i greu ffordd greadigol o ledaenu eu neges am newid hinsawdd ac yr amgylchedd i’r gymuned leol."
Dywedodd Nina Bentley, hwylusydd cymunedol GwyrddNi hefyd
“Mae wedi bod yn llawenydd ac yn addysg bod yn rhan o’r gwaith hwn yn datblygu! Mae LotoBot wedi dod yn ardderchog ar gyfer lleisiau plant wrth feddwl am eu hardal a’u dylanwad eu hunain. Maen nhw eisiau gweld lle gwyrddach, gyda mwy o goed, planhigion ac anifeiliaid a mwy o HWYL! Mae ganddyn nhw synnwyr craff o gyfiawnder cymdeithasol a natur a gallwn ni i gyd ddysgu a dylunio o amgylch hynny.”
Doedd y gwaith hwn ddim yn bosib heb gefnogaeth anhygoel Buddug Roberts, arbenigwr mewn ysgrifennu creadigol ac ymarfer theatr, a Mari Gwent, artist sy’n arbenigo mewn dyluniadau 3D. Wrth addlewyrchu ar weithio gyda phobl ifanc ym Mlaenau, dywedodd Buddug
“Mae LotoBot yn greadur aml-haenog a hynny ar lefel diriaethol a haniaethol. Roedd creu LotoBot efo’r bobl ifanc yn broses arbennig o wylio’r cyfan, eu teimladau, eu pryderon a’u gobeithion yn dod at ei gilydd i lunio’r cymeriad digri a difrifol yma.”
Arddangoswyd LotoBot yng nghyntedd Llyfrgell y Blaenau, a bydd y gwaith yn parhau eleni felly cadwch olwg allan am anturiaethau nesaf LotoBot!
- - - - - - - - -
Ymddangosodd yn rhifyn Ebrill 2026


No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon