Tybed sut fath o dywydd a fydd ar ein cyfer ar ddechrau’r flwyddyn newydd? Beth bynnag a ddaw, ni fedrwn ni wneud dim yn ei gylch, ond gallwn gael golwg ar ambell aeaf o’r dyddiau a fu.
Y tro hwn rwyf am daflu golwg ar Ddyddiadur Daniel Williams a’i nodiadau parthed y tywydd oer a brofwyd yn nechrau’r flwyddyn 1895, yn ogystal ag ambell sylw arall. Un o Ddolwyddelan oedd Daniel yn wreiddiol a bu’n gweithio yn Chwarel Llechwedd am sawl blwyddyn a chadwai ddyddiaduron diddorol o tua 1872 hyd 1904. Gwnaed gaeaf eithaf caled y flwyddyn honno a’r enw a ddefnyddid gan fy nhaid a’i gyfoedion amdano oedd ‘Yr Heth Fawr’. Ystyr ‘heth’ yw tywydd caled o rew ac eira trwm.
Dyfynnaf rŵan o sylwadau Daniel Williams:
8 Ionawr 1895- Rhewi yn ffyrnig. Y llechi yn anodd i’w gweithio.
10 Ionawr- R Humphreys, Saer yn halltu yr olwyn ddŵr a’r cocos bob nos.
15 Ionawr - Prynu tegell gan Elis o’r Nant am 4/6.
26 Ionawr - Diwrnod oer ac eira mawr. Smit yn y chwarelau i gyd heddiw.Trwch yr eira deg modfedd. [Ystyr y term ‘smit’ yw methu a gweithio oherwydd tywydd afrywiog neu cael eich trechu gan y tywydd].
29 Ionawr- Mwy o eira heddiw yn mesur troedfedd.
30 Ionawr- Glanhau eira yn yr Oakeley’s ond yn unlle arall.
1 Chwefror – Dim gweithio yn yr Oakeley’s.
6 Chwefror - Rhewi mwy o lawer heddiw ac i mewn tan y ddaear am 25 o lathenni. Pobman wedi ei gloi gan y rhew. Clywed nad oes un o chwarelau Sir Gaernarfon yn gweithio.
16 Chwefror - Y smit yn parhau yn y chwarelau ers dros dair wythnos.
24 Chwefror- Dechrau gweithio ar ôl smit er y 25 dydd o Ionawr. Caledi mawr yn y wlad. Dim gweithio yn Graig Ddu.
Cofier, os yr oedd y gwaith wedi ei atal yr adeg honno oherwydd tywydd drwg, ni fyddai’r cwmni yn talu cyflog i’r gweithwyr a byddai llawer ohonynt a’u teuluoedd yn dioddef prinder tan yr ail-ddechreuid gweithio.
![]() |
| Tref y Blaenau a'r Moelwynion dan eira yn 2021- Llun Helen McAteer |
COELION
Gyda llaw, ceir amryw o hen goelion parthed y tywydd ym mis Ionawr. E.e. gelwid eira yn ‘Faeth Ionawr’ gan yr hen bobl oherwydd credid ei fod yn llesol i’r ddaear yn nechrau’r flwyddyn. Un arall yw- Gwanwyn yn Ionawr argoela blwyddyn ddrwg. Hefyd -Haf yn Ionawr gaeaf ym Mai; - Os tyf porfa yn nechrau’r flwyddyn, fe dyf lai ym mis Mehefin.
Gaeafau Eraill - Dyma ambell enghraifft eto o aeafau o eira a rhew a brofwyd yn y cyffiniau tros y blynyddoedd.
Clirio'r Eira- Yn ei adroddiad am y mis hysbysodd y Peiriannydd (sef y Cyngor Tref) fod clirio yr eira oddi ar yr heolydd wedi costio dros £30 (Y Rhedegydd, 18 Ionawr 1902).
Y Rhew- Yr oedd yn anodd iawn cerdded yr heolydd bore ddydd lau oherwydd y rhew a chafodd llawer o'r gweithwyr godwm wrth fyned at eu gwaith (Y Rhedegydd, 11 Ionawr 1908).
Cafwyd tywydd o eira ym misoedd Chwefror a Mawrth 1937 a cheir adroddiadau amdano yn y papurau newydd, megis -Amryw yn methu mynd o’r Blaenau i gystadlu yn Eisteddfod Llawrplwy, Trawsfynydd oherwydd yr eira ar y ffyrdd. Yna, ceid y sylw hwn am yr wythnos gyntaf ym mis Mawrth- Storm o eira yn atal pobl i fynd i’r oedfaon. A’r ail wythnos- Eira yn rhwystro gwaith yn y chwareli a chwmni Crosville yn methu a mynd a’r bws i Drawsfynydd. Methwyd a chael trên y GWR drwodd i’r Blaenau, hefyd.
- - - - - - - -
Colofn reolaidd Steffan ab Owain. Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2026
.jpg)
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon