14.3.26

Stolpia- Teithio Byd a Ffrwydro

Pennod arall o gyfres Steffan ab Owain

Dwywaith o Amgylch y Byd
Dyna yw teitl cyfrol W.O.Thomas, a gyhoeddwyd yn 1882 yn Utica, U.D.A, ond pwy oedd y gŵr hwn? Dyma ychydig o’i hanes cyffrous. 

Ganwyd William Owen Thomas ym Maentwrog yn y flwyddyn 1845. Yna, pan oedd yn dair blwydd oed symudodd ei rieni i fyw i Flaenau Ffestiniog. Credaf mai yn un o dai Tre’r Ddôl a safai yng ngodre Inclên Holland gynt oedd ei gartref wedyn. Y mae’r tai wedi eu claddu o dan Domen Fawr Chwarel Oakeley ers blynyddoedd, bellach. 

Beth bynnag, dechreuodd weithio yn y chwarel pan oedd yn naw oed a bu yno hyd yr oedd yn 18 mlwydd oed. Tua’r adeg honno aeth i weithio i chwarel yn Bantry Bay, Iwerddon, a dyna ddechreuad ar ei ysfa i deithio. Dychwelodd yn fuan adref, ac ar ôl gweithio yno hyd 1865, ymfudodd i America yn ddiarwybod i'w rieni; a phan laniodd yn Efrog Newydd, nid oedd ganddo yn ei boced ond deg swllt. Gweithiodd ei ffordd o Efrog Newydd i Hydeville, Vermont; ac yno cafodd waith mewn chwarel gan Rowland Walter Ionoron Glan Dwyryd a oedd yn enedigol o ‘Stiniog. Symudodd o Hydeville i weithio yn ardal Middle Granville, ac oddi yno aeth i Maryland, yna i Virginia. 


Treuliodd naw mlynedd yn y Taleithiau Deheuol, megis Georgia, Alabama, Gogledd a De Carolina, Fflorida, Tecsas a Tennessee. Yna, symudodd i Califfornia yn 1875 ac agor chwarel lechi ger El Dorado, ardal sy’n enwog am ei gweithfeydd aur. Gyda llaw, hon oedd y chwarel lechi gyntaf i’w hagor yn y dalaith hon, sef mewn lle o’r enw Chili Bar, Placerville, heddiw. 

Ffurfiodd gwmni yno, ond o fewn dim gwerthodd ei gyfranddaliadau ac aeth i deithio mwy o wledydd y byd. Ymwelodd â Hawaii,Tahiti, Ffiji, Seland Newydd, Awstralia, Affrica, y Dwyrain Canol, India, Ceylon, Hong Cong, Tsieina, a sawl gwlad yn Ewrop. Ymfudodd ei rieni i’r Unol Daleithiau yn ddiweddarach, a bu chwaer iddo yn byw yn Efrog Newydd, ac un arall yn Vermont. Credaf iddo deithio byd am ryw 15 mlynedd. 

Pan oeddwn yn rhoi sgwrs yn Nantlle yn yr 1990au cyfarfum a pherthynas iddo, sef Mrs J. Kaufer, Gogledd Carolina, U.D.A. a bu’n ddigon caredig i anfon gwybodaeth am y teulu a rhai o chwareli llechi America imi ar ôl iddi fynd gartref. Gyda llaw, y mae enw W.O. Thomas ar garreg fedd ym mynwent Eglwys Llan Ffestiniog, ond yn anffodus y mae rhan o’r beddfaen wedi chwalu. Dyma oedd arni hi pan gwelais hi ddiwethaf 

Er Cof am William O. Thomas 
y teithydd Cymreig enwog a fu farw Ebrill 6ed, 1884
yn 39 mlwydd oed ac a gladdwyd yn Smithdown Lane cemetery, Liverpool 
Codwyd y golofn hon uwch ben bedd y teulu gan ei gyfeillion yn Ffestiniog. 
Er cof am Thomas O. Thomas Eryri Terrace, Penrhyn a brawd W. O. Thomas a fu farw Ionawr 2,1901 yn 59 mlwydd oed.
Hefyd ei anwyl briod Jane Thomas a fu farw Hydref 10fed, 1915 yn 59 mlwydd oed.

Y mae hi’n resyn gweld yr unig goffâd lleol iddo yn chwalfa heddiw. Fel y gwelwch, claddwyd ef yn Lerpwl lle’r oedd chwaer iddo yn byw. – Os hoffech gael golwg ar ei lyfr ewch i’r llyfgell leol, neu ar y we. Cewch y gyfrol gyfan ar wefan Archive.

  + + + + + +

Gweithred Beryglus

Ym mis Chwefror 1879 cafwyd adroddiadau lu yn y papurau newydd am ddigwyddiad bythgofiadwy yn ardal Glan y Pwll. Dyma’r hanes yn fras a godwyd o amrywiaeth o bapurau newydd:

Ffrwydriad Deinameit mewn tŷ. Diwedd mis Ionawr brawychwyd trigolion Glandwr yn aruthrol gan i ddeinameit ffrwydro yn nhŷ David Owen. 

Yn ôl y dystiolaeth roedd D.O wedi mynd a deinameit i’w dŷ, er mwyn iddo gael ei dymeru wrth y tân, a’i wneud yn fwy nerthol, a thra roedd wrthi yn gwneud hyn, ffrwydrodd nes roedd yr awyr i’w chlywed yn rhwygo, a thwrw fel taran fawr. 

O fewn dim aeth ugeiniau o bobl draw at y tŷ a gwelsant y ffenestri wedi eu chwythu ymaith, y corn simnai wedi ei hollti, a golwg ofnadwy ar yr hen dŷ. Tri pherson oedd yn y tŷ ar y pryd, sef D. Owen a'i wraig, a lletywr, yr hwn a neidiodd drwy ffenestr. Ni niweidiwyd neb ond D. O, yr hwn a losgwyd yn bur ddrwg. Roedd y dodrefn wedi eu malurio, a’r llestri yn chwilfriw i gyd. Bu ei wraig a’r lletywr yn ffodus na niweidwyd hwy. Lladdwyd y gath druan a llygoden fawr! 

Wedi ei ddarllen, bum yn meddwl tybed pa dŷ oedd hwn yng Nglandwr? 
- - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 2026 

 

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon