Mis Awst diwethaf cychwynodd Jade Edwards o Manod a Lisa Berger o Awstria ar y ras hwylio Globe 40 o amgylch y byd.
Ras 6 cam ydyw, a man cychwyn y ddau oedd Pwllheli -gan hwylio i Ffrainc yn eu cwch o'r enw Wilson Around the World.
Ymlaen i Cadiz, Sbaen lle oedd cychwyn swyddogol y ras ym Medi, ac anelu am Cape Verde trwy Gefnfor yr Iwerydd, y cam 1af, a chyrraedd yno fis Hydref.
Cymal 2 - Cape Verde i Ynys Reunion, oedd yn golygu hwylio trwy'r Doldrums a'r Cape of Good Hope, y ddau'n adnabyddus am eu cerrynt peryglus. Cyrhaeddant yno ganol Tachwedd.
Cymal 3 - O Ynys Reunion i Sydney, Awstralia, trwy gefnfor India a'r Môr Tawel (Pacific).
Cymal 4 - Sydney i Valparaiso, Chile
Cymal 5 - Chile i Recife, Brasil, gan rowndio'r Horn -yr enwog Cape of Good Horn
Cymal 6 - Brasil i Lorient, Ffrainc (An Orient yn Llydaw)
Y gobaith ydi bod yn ôl yng Nghymru fis Ebrill.
Mae'n anodd dychmygu beth mae fel ond dau ohonynt yn brwydro yn erbyn y môr a'r tywydd 24 awr y dydd am yr holl fisoedd. Tra mae un yn cysgu mae'r llall yn rheoli'r gwch, y tonnau sy'n uwch na'n tai, y cerrynt a'r gwynt, y gwlypter a'r oerni. Dim ond bwyd sych ar gael, yr unigrwydd a bod i ffwrdd o'u teuluoedd am yr holl amser.
Edrychwn ymlaen i groesawu'r ddau mewn edmygedd o'u dewrder pan byddant yn ôl yng Nghymru Fach!
- - - - - -
Ymddangosodd yn wreiddiol ar dudalen flaen rhifyn Rhagfyr 2025
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon