24.4.25

'Moment o Falchder' Mared

Tra bod eraill yn gwirioni ar redeg milltiroedd ac eraill wrth eu boddau yn neidio ar gefn beic a thaflu eu hunain lawr allt, mi nai adael i'r linell hon o glincer o gân o 1992, gan y band, Y Profiad adlewyrchu yr hyn sydd yn cynyddu'r adrenalin ynof fi:

"Ma genai broblem, mae o gen i 'rioed, dwi methu stopio siarad am bêl-droed

Dwi ddim yn meddwl mod i ar ben fy hun yma chwaith? Mae hyn yn sicr yn wir yn ein tŷ ni, gyda Dad yn ddilynwr brwd o'r gêm hefyd. Mae fy mam ar y llaw arall i'r gwrthwyneb, mwy neu lai yn casáu popeth am y gamp ac yn cymryd dim diddordeb o gwbl. Er hynny, mae datblygiad diweddar un enw yn benodol wedi hyd yn oed dwyn sylw fy mam ac mae'r person dan sylw yn haeddu'r holl fri y mae hi'n ei gael bellach.

Wrth feddwl am y geiriau 'Pêl-Droed' a 'Trawsfynydd', does dim ond un enw i'w grybwyll bellach, sef Mared Griffiths, ac mae dechrau 2025 wedi bod yn dipyn o uchafbwynt i'r ferch sydd newydd ddathlu ei phenblwydd yn 18 oed yr wythnos ddiwethaf.

Doedd 2024 heb orffen yn rhy ddrwg iddi chwaith, wedi iddi fod yn rhan o'r garfan a greodd hanes draw yn Nulyn, wrth i Dîm Cenedlaethol Merched Cymru gyrraedd un o brif gystadlaethau UEFA am y tro cyntaf yn eu hanes! Yn dilyn gadael Academi'r Gogledd CBDC yr haf diwethaf i ymuno â charfan Dan 21 Manchester United, cafodd ei henwi ar y fainc i'r tîm cyntaf, a hynny ar gyfer y gêm yn erbyn merched Wolves yng Nghwpan Merched FA Lloegr.

Gyda chwta 10 munud yn weddill, daeth y foment iddi wneud ei hymddangosiad cyntaf ar y lefel hŷn, a hynny gan gymryd lle y profiadol Melvine Malard, un sydd wedi curo Cynghrair y Pencampwyr ar 4 achlysur! Mae pawb yn breuddwydio am gael y cyfle i gamu ar y cae a chreu argraff, ond dwi'm yn meddwl fod hyd yn oed Mared wedi breuddwydio am yr hyn a ddigwyddodd ar ei hymddangosiad cyntaf dros y clwb? 

O fewn 7 munud, roedd hi wedi llwyddo i rwydo ei gôl gyntaf ac mewn cwta 15 munud ar y cae, roedd hi wedi cael ail gôl mewn buddugoliaeth gyffyrddus o 6 – 0 i'w chlwb. Yn dilyn y gêm, fe dderbyniodd Mared yr ail sgôr uchaf o'r holl chwaraewyr ar y cae ac ei gwyneb hi oedd i'w weld yn y newyddion ac ar gyfrifon cymdeithasol y clwb y bore wedyn, gyda dros 9500 o bobl yn hoffi'r llun, cannoedd o gefnogwyr yn ei chanmol yn y sylwadau a degau o rai eraill yn rhannu'r neges. 

Fel y soniwyd ynghynt, mae Mared wedi bod yn rhan o garfan Merched Cymru ar sawl achlysur dros y misoedd diwethaf, ond mae'n amlwg fod ei pherfformiad yn erbyn Wolves wedi denu sylw rheolwraig Cymru, Rhian Wilkinson. Cafodd Mared ei henwi ar y fainc ar gyfer gêm gyntaf y merched yng Nghynghrair y Cenhedloedd ar ddiwedd Chwefror, daeth yr awr i Mared ennill ei chap cyntaf dros Gymru hefyd, a hynny o flaen byddin y Wal Goch yn Monza, yr Eidal. 

Un a fu yno oedd Gareth Lewis, ffrind i'r teulu ac aelod ffyddlon o'r Wal Goch yng Nghaerdydd ac ar draws Ewrop – mewn neges wedi'r gêm, fe ddywedodd "Da iawn Mar, hapus i fod yna yn dy gêm gyntaf i Gymru – da iawn chdi a phob lwc yn y dyfodol, mi nei yn ffantastig". 

Gareth, Derwyn a Seimon yn Monza - Llun Ffion Eluned Owen

Mewn cyfweliad a gafodd ei rannu ar gyfryngau cymdeithasol swyddogol tîm Cymru cyn y gêm allan yn Yr Eidal, cafodd pentref Traws ei roi yn llwyr ar y map, wrth i Mared sôn am ei balchder nid yn unig o gynrychioli ei gwlad, ond hefyd ei milltir sgwâr:

"Mae dod o bentref bach fel Trawsfynydd, mae hi'n deimlad anhygoel i gael cynrychioli nhw yn ogystal a fy ngwlad. Mae'n foment o falchder i mi a fy nheulu, ac er nad ydw i wedi ennill fy nghap cyntaf eto, mae'n brofiad a hanner i deimlo'r awyrgylch sydd yn dod efo bod yn rhan o'r garfan. Dwi'n hynod ddiolchgar ac yn teimlo'r anrhydedd o gael y cyfle hwn."

Cafodd yr ail gêm yn y grŵp ei chwarae yn Wrecsam ychydig ddyddiau wedyn, ac yn anffodus ni chafodd Mared ddod oddi ar y fainc mewn gêm yn agosach i adref, ond mae'r parhad i'w rhoi ar y fainc yn dangos gymaint o ddyfodol disglair sydd gan y ferch ifanc hon o'i blaen. Cafodd hi ei henwi ar y fainc i Manchester United am y tro cyntaf yn y gynghrair hefyd, sydd yn gam mawr arall yn ei datblygiad fel chwaraewraig â dyfodol mawr o'i blaen.
Rhydian

- - - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2025


Stolpia -Cludo a Lluniau

Mwy o Hanes y Transfformar

Yn dilyn fy strytyn yn rhifyn Chwefror am y trawsnewidydd (transformer) a gyrhaeddodd Stesion London ym mis Chwefror 1961 a’m ymholiad sut yr aeth oddi yno i bwerdy trydan-dŵr Tanygrisiau, derbyniais wybodaeth ddiddorol oddi wrth Eifion Lewis, a Brian Owen amdano. 

Dywedodd y ddau mai cwmni enwog Pickfords a fu’n gyfrifol am ei gludo i lawr yno a hynny ar un o’u cerbydau pwrpasol gyda dwy lori ar bob pen iddo. Dywedwyd wrthyf bod ffilm ohono i’w weld ar YouTube hefyd. 

Wrth edrych arni hi sylwais mai 1962 oedd dyddiad y ffilm a’i bod yn dywydd hafaidd pan y trosglwyddwyd o, gan fod y plant ger yr orsaf mewn crysau ysgafn a cheid dail ar y coed. Gwyddwn mai ym mis bach 1961 oedd yr adroddiad am yr un yn y North Wales Weekly News, ac felly, y cwestiwn oedd – a oedd y pwerdy wedi derbyn dau ohonynt, y cyntaf y mis Chwefror 1961 a’r llall rhywdro yn haf 1962? Deallais mai dyna a oedd wedi digwydd. 


 

Y Ffotograffydd Isaac Hughes 

Bum yn gwrando ar sgwrs ddifyr yng Ngwesty Seren (Bryn Llywelyn) gan Gareth Roberts, Menter y Fachwen yn ddiweddar. Testun ei sgwrs oedd Isaac Hughes, un o hen ffotograffwyr Cymru. Un o Dyserth, Sir Ddinbych oedd yn wreiddiol, ond yn Beck Road, Lerpwl oedd ei stiwdio erbyn 1869. 

Daeth i’r Blaenau y pryd hwnnw gyda’i gamera a thynnu lluniau yn ein chwareli. Dywedir iddo ymweld â Chwarel Llechwedd a thynnodd amryw o luniau o’r chwarelwyr yno. Serch hynny, bu nifer o’r gweithwyr yn aflonydd a gwingo tra y tynnid y lluniau, ac roedd un hogyn wedi rhoi rhaff am wddw hen chwarelwr mewn hwyl, ac un arall fel pe tai yn bwgwth taro pen un gyda gordd.

Yn yr 1980au ar ôl i deulu symud i dŷ yn Thomas Street, Llanberis, canfuwyd rhai cannoedd o blatiau gwydr gyda ffotograffau arnynt yn yr atig. Daethpwyd i’r casgliad yn ddiweddarach mai ffotograffau Isaac Hughes oeddynt. 

Dyma un enghraifft. Sylwer ar y rhes flaen yn eistedd ar gasgenni powdwr du.
O.N. Tybed a oes lluniau o waith Isaac Hughes ar ôl yn y Blaenau? Cysylltwch os gwyddoch am rai.

- - - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2025




21.4.25

Y Gymdeithas Hanes -Y Trên Grêt

Daeth Ken Robinson i annerch aelodau a chyfeillion y Gymdeithas yn Ysgol Maenofferen. Gareth T Jones oedd y cadeirydd a rhoddodd gyflwyniad anrhydeddus i’r darlithydd gan nodi ei gyfraniad fel prifathro yn y fro hon am bymtheg mlynedd. Mae Ken yn hanu o Borthmadog gan ddilyn gyrfa fel athro a bu’n bennaeth Ysgol Bro Cynfal yn Llan o 1991 hyd ei ymddeoliad yn 2006. 

Roedd rhan helaeth o’r gynulleidfa yn ei nabod wrth gwrs a chafodd groeso cynnes. Testun ei sgwrs oedd Y Trên Grêt yn y Blaenau a chafwyd noson o nid yn unig gael clywed y darlithydd, ond cafwyd ychwanegiadau a gwybodaeth hefyd gan y gynulleidfa. Does ryfedd fod y Cadeirydd wedi disgrifio'r cyfarfod fel ‘noson o nostalgia’ a byddai pawb yn cytuno efo hynny! 

Roedd ei destun nid yn unig yn cynnwys safle ac adeilad y Stesion Grêt yn y Blaenau ond hefyd arolwg o’r hen linell oedd yn cysylltu’r Blaenau efo’r Bala … llinell a fu unwaith yn cysylltu pentrefi’r fro. Cyn dyfodiad y rheilffordd i’r Bala roedd Trên Bach y Llan eisoes wedi bod yn cario pobl rhwng Llan a’r Blaenau o ganol y 1860au. 

Ymgorfforwyd y lein newydd trwy Ddeddf Rheilffordd Bala a Ffestiniog yn 1873 a thrwy addasu rheilffordd trên bach y llan daeth y trên fawr drwodd i’r Blaenau yn 1873. 

Trosglwyddwyd y rheilffordd i ofal y Great Western Railway yn 1911 a gyda chenedlaetholi’r rheilffyrdd ym 1948 i ofal Ardal Orllewinol Rheilffyrdd Prydeinig. 

Caewyd y lein yn 1960 i deithwyr ac i gario nwyddau yn 1961. Roedd adeiladu Llyn Celyn yn golygu boddi rhan o’r cledrau ac roedd hynny yn ergyd fawr i fodolaeth y rheilffordd. Roedd y trên yn dringo i uchder o 1,278 troedfedd (390m) ac roedd hynny ger traphont fawr Blaen y Cwm, uwchlaw Cwm Prysor. 

Addaswyd rhan o’r rheilffordd rhwng Trawsfynydd a’r Blaenau er mwyn cario gwastraff niwclear o’r Atomfa ac yn 1964, unwyd y rheilffordd â lein Dyffryn Conwy o’r Blaenau er mwyn hwyluso cario’r gwastraff i ogledd Lloegr yn Sellafield.

Aeth y darlithydd a ni ar daith trwy ddarluniau, i’r holl orsafoedd oedd ar y lein a difyr oedd cael gweld hen orsaf Manod, wedi ei hailenwi yn Llanffridd, yn y ffilm Conspirator (1949) gydag Elizabeth Taylor a Robert Taylor. Dangoswyd hen luniau arbennig o’r rheilffordd ac roedd yn wych cael gweld y rheini. Noson arbennig arall.

Yn y llun gwelir tyrfa wedi ymgasglu yn 1961 i weld yr ymadawiad olaf o’r Blaenau i’r Bala yn 1961    

- - - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2025

 

 

20.4.25

Newyddion o Senedd Stiniog

Y Wynnes Cymunedol:
Mae gan unrhyw etholwr o ardal Ffestiniog yr hawl i annerch y Cyngor Tref am ddeng munud, ar ryw bwnc sydd ar agenda’r Cyngor. Fis Ionawr mi ddoth Gwenlli Evans a Nia Parri-Roberts o Ymgyrch y Wynnes i wneud hyn. Fel y bydd darllenwyr Llafar Bro yn gwybod, mae grŵp egnïol wedi dod at ei gilydd i feddiannu ac ailagor y Wynnes fel tafarn gymunedol. Maen nhw wrthi’n ysgrifennu cynllun busnes, yn chwilio am grantiau ac yn mynd ati i werthu cyfranddaliadau cymunedol. Mae’r pris gofyn ar gyfer yr eiddo’n uchel, £175,000, sydd yn bryder. Gwenlli Evans yw Cadeirydd y grŵp a Nia’n Is-gadeirydd ac mae 10 o bobl fel arfer yn mynychu’r cyfarfodydd. Mi ddiolchodd y Cyngor y grŵp am eu gwaith, gan gynnig cefnogaeth gref am y fenter. 

Ymchwilio sefyllfa’r Gymraeg yn y gymuned:
Fe glywodd y Cyngor gyflwyniad gan Brosiect Bro, sy’n gwneud astudiaeth am ddefnydd y Gymraeg yn y gymuned yn lleol. Mae’r gwaith yn cael ei lywio gan Brifysgol Rhydychen a Phrifysgol Ucheldiroedd yr Alban a’r Ynysoedd, yr ail oherwydd ei fod yn mynd i ymchwilio sefyllfa Gaeleg yr Alban hefyd. Mae’r tîm yn bwriadu galw mewn 250 o gartrefi’r ardal, allan o 800, gyda holiadur. 

Ceisiadau cynllunio:
Fe benderfynodd y Cyngor gefnogi cais cynllunio i alluogi Menter Nyth y Gigfrân i ddatblygu canolfan gymunedol yn yr Hen Lythyrdy ar y gornel yng nghanol Tanygrisiau. 

Fe wnaethon nhw hefyd cefnogi’r cais i ddatblygu Garej Bowydd, ar y sail y byddai’r cynlluniau yn gwella sefyllfa’r parcio yn yr ardal.*

Roedd y Cynghorwyr yn siomedig fod Cyngor Gwynedd yn cau’r gwasanaeth gofal dydd. Cytunwyd fod y sefyllfa yn siomedig tu hwnt. Fe fydd y Cyngor yn ysgrifennu at Gyngor Gwynedd i ofyn pam eu bod nhw wedi dewis cau’r gwasanaeth yma yn Ffestiniog. 

Cyffordd Allt Goch:
Derbyniwyd llythyr oddi wrth Gyngor Gwynedd am gyffordd Allt Goch lle mae’r B4391 i Lan Ffestiniog yn gadael yr A496 o Faentwrog i Flaenau Ffestiniog. Roedd nifer o drigolion wedi lleisio pryder am ddiogelwch y gyffordd hon. Roedd llythyr Gwynedd yn nodi fod yna 23 o ddamweiniau wedi cael eu cofrestru ar yr A496 rhwng Maentwrog a Blaenau Ffestiniog dros y deng mlynedd diwethaf, a fod Cyngor Gwynedd wedi rhoi dipyn o sylw i'r ffordd drwy gyflwyno nifer o ymyraethau yn y lleoliadau lle mae hanes o ddamweiniau. Ond roedd y llythyr yn nodi hefyd nad oedd yr un o’r damweiniau hyn wedi bod wrth y gyffordd arbennig hon. Cytunwyd i basio copi o’r llythyr at y rhai wedi cwyno am y gyffordd. 

Praesept y Cyngor Tref:
Mewn cyfarfod gwahanol yr wythnos cynt, cytunodd i Cyngor i gadw praesept y Cyngor ar bron yr un lefel â’r flwyddyn diwethaf. Nid yw’r Cyngor wedi llwyddo i wario’r holl arian oedd ym mhraesept y flwyddyn hon, er enghraifft trwy ddarparu parc sglefrio newydd. Ond cytunwyd i ddefnyddio’r tanwariant yma i ariannu hwn y flwyddyn nesaf, a hefyd i roi Ardal Chwarae Aml-Ddefnydd MUGA (Multi-Use Games Area) – yn y Parc. Mae’r Cyngor wedi llwyddo i gael grant £100,000 ar gyfer hwn.
Rory Francis
- - - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2025

* Mae cywiriad i'r adran gynllunio yn rhifyn Mai 2025


18.4.25

Codi Cenedl

Cafwyd noson arbennig yng Nghaffi Antur Stiniog ar yr 28ain o Chwefror, noson arall yn y Gyfres Caban. Roedd cangen Bro Ffestiniog o Yes Cymru wedi cael sgŵp arall trwy ddenu’r Athro Richard Wyn Jones i roi sgwrs y tro hwn. Mae Richard yn gyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn sylwebydd gwleidyddol craff ac arbenigwr ar etholiadau Cymru.


Roedd wedi rhyfeddu cymaint mae’r awydd am annibyniaeth i Gymru wedi cynyddu yn y 25 mlynedd ers iddo fo ddechrau ymchwilio’r maes. Roedd hyd yn oed Plaid Cymru, bryd hynny meddai, yn ymwrthod â’r gair annibyniaeth, a’r gefnogaeth ar lawr gwlad yn isel, ond erbyn hyn mae nifer o arolygon barn wedi rhoi’r gefnogaeth o gwmpas y traean. I roi hyn mewn cyd-destun, dyna lefel y gefnogaeth yn yr Alban ar ddechrau 2014, ond erbyn y refferendwm y flwyddyn honno, cafwyd 45% o blaid annibyniaeth.

Roedd y refferendwm hwnnw yn un o ddau a ddylanwadodd ar faint y gefnogaeth yng Nghymru. Bu’n ysbrydoliaeth i genedlaetholwyr Cymreig, a dyna pryd sefydlwyd fudiad YesCymru. Yr awyrgylch a’r ysbryd yn yr Alban yn 2014 ydi’r peth agosaf mae Richard wedi dod at brofi teimlad o ddiwygiad meddai!

Refferendwm Brexit oedd yr ail beth oedd yn ganolog i’r ymchwydd mewn cefnogaeth i annibyniaeth i Gymru. Mae ymchil wedi dangos mae’r rhai efo hunaniaeth Gymreig gref (hynny ydi teimlo’n Gymry nid Prydeinwyr) oedd y garfan mwayf pro-Ewropeaidd trwy ynys Prydain gyfa’ efo dim ond 16% eisiau gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae mwyafrif llethol y rhai sy’n teimlo’n ‘Gymreig Nid Prydeinig’ o blaid annibyniaeth i Gymru. Ond tua traean o boblogaeth Cymru ydi’r rheiny, tra bod tua hanner pobl yr Alban yn ‘Albanaidd, nid Prydeinig’. Felly heb ddenu poblogaeth ehangach Cymru i ystyried annibyniaeth mae’r genfogaeth wedi cyrraedd plateau. Un ffordd o gynyddu’r gefnogaeth ydi pwysleisio’r anhegwch ariannol sy’n wynebu Cymru; anghyfiawnder HS2 a thiroedd y goron ymysg y meysydd mwyaf dadleuol.

Mae’r Alban ar y blaen hefyd yn eu seilwaith, a’u parodrwydd i fod yn annibynol. Rhaid i Gymru ddatganoli’r system gyfiawnder rhag blaen, er enghraifft, ond efallai’n bwysicach na’r cwbl ydi sicrhau’r adnoddau dynol i’r dyfodol; mewn geiriau eraill gofalu bod gennym bobl dda i fod yn arweinwyr cymuned ac arweinwyr cenedl yn y dyfodol. Mae 40% o bobl deunaw oed Cymru yn gadael y wlad, a’r ganran yn llawer is yn yr Alban. Ychydig iawn ohonyn nhw sy’n dychwelyd. 

Roedd Richard yn feirniadol iawn o drefn sy’n golygu fod Llywodraeth Cymru’n gwario hanner Biliwn o bunnau bob blwyddyn ar fyfyrwyr sy’n gadael Cymru; polisi sy’n uniongyrchol arwain at golli canran fawr o bobl ifanc mwyaf deallus ein cenedl... 

Nid yn unig ydym ni’n colli’n pobl ifanc, ond ‘da ni’n talu iddyn nhw fynd! Fedrwn ni ddim fforddio eu colli! meddai.

Mae’n gobeithio bydd yr argyfwng addysg uwch bresenol yn gyfle i ail-lunio egwyddorion cyllido mewn ffordd sy'n gwneud mwy o synnwyr i godi cenedl.
Diolch o galon iddo am ddod draw a chodi llawer i destun trafod pellach.

Yn dilyn cyfnod o holi gan y gynulleidfa, cafwyd adloniant gan y grŵp Acordions Dros Annibyniaeth, a chyd-ganu hwyliog, ar ôl rhannu eu llyfryn ‘YesCymru Cân’. 

Mae rhywbeth yn hyfryd am forio canu alawon traddodiadol fel Moliannwn ac Ar Lan y Môr, a chaneuon newydd fel Lleucu Llwyd, a Mynd yn ôl i Flaenau Ffestiniog.
- - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2025

Dolen at hanes noson ola' cyfres 2024/25 -Dechrau Wrth Ein Traed

Braf o hyd?

 "Pawb yn deud bo' hi'n bwrw glaw yn Blaenau Ffestiniog

– dyna ddywedodd y gân enwog, Dawns y Glaw, o waith Anweledig. Mae hi wedi dod yn fymryn o ystrydeb i bobl tu allan i'r ardal hon fod Blaenau Ffestiniog yn enwog am ddau beth, sef glaw a llechi ac fel mae'r rhan fwyaf ohonom sydd wedi ein magu yn yr ardal yn gwybod, gall fod yn brofiad syrffedus gorfod gwrando ar bobl yn ailgylchu yr un hen jôcs am law dragwyddol.

Rydym ni bobl 'Stiniog yn gwybod ei fod, i ddefnyddio llinell arall o'r gan enwog honno, "wir i chi, mae hi'n braf o hyd yn Blaenau" – felly, dychmygwch y syndod a deimlwyd gan drigolion Fron Fawr yn ddiweddar, pan fu S4C yn ffilmio drama newydd o'r enw Effie yno, ac roedd yn rhaid iddynt ddefnyddio peiriannau glaw artiffisial i gynrychioli amodau tywydd gwael!

Yn ogystal a dod a'r cysyniad diarth yma o'r enw 'glaw' i 'Stiniog, mae yna sawl peth positif arall wedi dod o ganlyniad i'r cyfnod ffilmio yma. Efallai i'r rhai ohonoch sy'n byw yn Llan weld fod arwydd newydd wedi cael ei roi uwchben Siop Pen-y-Bryn? Mae'n debyg fod hwn wedi cael ei greu a'i osod o ganlyniad i'r ffilmio a fu'n digwydd yn y siop am ddiwrnod neu ddau. 

Cafwyd sôn hefyd am un teulu a roddodd ganiatâd i S4C ddefnyddio eu tŷ fel rhan o'r ffilmio ac mae'n debyg fod sawl ystafell o fewn y tŷ wedi cael côt o baent ac ychydig o sbriwsio er budd parhausrwydd (y gair Cymraeg am 'continuity' yn ôl y Briws?)

Ar wahân i deitl y ffilm, dyma'r unig wybodaeth sydd i'w gael ar hyn o bryd? Mae'n debyg y bydd y ffilm i'w gweld mewn gŵyl ffilm yn hwyrach ymlaen yr haf hwn, gobeithio y cawn fwy o wybodaeth i'w rannu yn fuan.
RhM

- - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2025 


14.4.25

Coed pinwydd yn ymledu dros y Manod

Diolch yn fawr i DR am dynnu’n sylw ni at y broblem yma yn y golofn Manion o’r Manod

Mae Cymdeithas Eryri wedi dod yn ymwybodol o’r broblem hon yn y blynyddoedd diwethaf. Yn araf deg, mae coed bytholwyrdd newydd tywyll yn lledaenu. Mae’n bosibl y byddan nhw, yn y pen draw, yn gorchuddio arwynebedd mawr o ucheldir Eryri. Mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n goed sbriws Sitka, ond mae yn binwydd camfrig a chedrwydd coch y gorllewin hefyd. Rhai o’r ardaloedd sydd wedi cael ei heffeithio waethaf yw’r tir uchel uwchben dyffryn Lledr a Mynydd Mawr. 

Nid yw’r rhain wedi cael eu plannu’n fwriadol, wrth gwrs. Maen nhw’n tyfu o hadau coed conwydd sydd wedi cael eu chwythu gan y pedwar gwynt o goed aeddfed o fewn planigfeydd presennol. Er mwyn mynd i’r afael â’r broblem, mae Cymdeithas Eryri wedi dechrau trefnu dyddiau gwaith lle mae gwirfoddolwyr yn mynd allan efo llifiau llaw i reoli’r coed hyn, cyn iddyn nhw dyfu ac ymledu ymhellach. Rydan ni wedi trefnu dyddiau fel hyn ger Penmachno ac ar y Berwyn yn barod*.  


Dim ond yn reit diweddar nes i weld y golofn yma a dwi wrthi’n trio darganfod pwy sy’n ffermio’r tir yma ar ochr y Manod Bach. Ydych chi’n gwybod? Os felly, tybed a fyddech cystal â chysylltu ar fi ar 07539 322678 neu director@snowdonia-society.org.uk - mi fyddai Cymdeithas Eryri yn hapus i drefnu diwrnod neu ddyddiau gwaith i reoli’r coed hyn. 

Ydych chi wedi ystyried cymryd rhan mewn diwrnod gwirfoddoli Cymdeithas Eryri? 

Yn ogystal â rheoli coed conwydd ymledol, fyddwn ni’n hel sbwriel o lwybrau cerdded ar ochr Yr Wyddfa a Chadair Idris, yn rheoli jac y neidiwr ymledol, yn torri eithin sydd wedi tyfu o gwmpas henebion o’r oes efydd ac yn plannu coed brodorol. Mae’n ymarfer corff da, mae’n lot o hwyl ac mae o am ddim! Os hoffech chi gymryd rhan, ewch at ein gwefan ni sef: www.snowdonia-society.org.uk/cy/gwirfoddolwch

Rory Francis
- - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2025

- - - - - - 

 * Mae swyddogion y Gymdeithas wedi cydweithio efo Cyfoeth Naturiol Cymru fwy nag unwaith yn nalgylch Llafar Bro hefyd, gan ddod a llond bws mini o wirfoddolwyr i Gwm Greigddu ar gyrion y Rhinogydd. Gwaith gwerthfawr iawn i glirio coed conwydd rhag lledu i Warchodfa Natur Genedlaethol y Rhinog (Gol.)


 

9.4.25

Crwydro- Taith Lobsgows

Erthygl yn ein cyfres CRWYDRO, gan Iona Price

Pleser pur ydi dangos rhyfeddodau ardal ‘Stiniog i fobl sydd ddim yn gyfarwydd  gyda’r fro – a dyna beth wnes i gyda Cymdeithas Edward Llwyd ar Ionawr y 4ydd. 

Maes parcio Antur Stiniog oedd y man cychwyn.  Rhaid oedd cyfarch pawb trwy ddyfynnu Gwyn Thomas ‘Breichled o dref ar asgwrn y graig’. Byddai enwau’r mannau ar ein taith lawr i'r dref-Talwaenydd, Rhiwbryfdir, Glanypwll yn cyfleu gwlybaniaeth gweddill y tirwedd. O’n cwpas gwelem ddyfeisgarwch ein cyndeidiau yn rheoli’r gwlybaniaeth hwn. Ar yr un llaw,  ar gyfer anghenion   peiriannyddol y diwydiant llechi,  ac ar y  llaw arall trwy sychu’r tir i greu rhannau o’r dref.

I ddeall ein treftadaeth o drawsnewid tirwedd amaethyddol i dirwedd diwydiannol rhaid oedd gofyn i bawb ddychmygu’r tirlun cyn i John Whitehead Greaves lesio’r tir yn 1846. Dyma ni’n ôl yn Lechwedd ar y Cyd, hen dir comin gyda’i hawliau pori ac ambell grugiar. Anghofiwch unrhyw ffordd- does dim i'w nodi ond dau adeilad - Corlan a Thŷ Unnos.

Plas Waenydd sydd ar safle’r gorlan heddiw- corlan a addaswyd yn Dŷ Crwn i gartrefu’r teulu Greaves cyn iddynt adeiladu’r plas. Ymlaen â ni at y Tŷ Unnos. Dyma loches  JWGreaves am 3 blynedd tra bu’n ffrwydro tyllau yma ac acw cyn darganfod y wythien lechi a fyddai’n trawsnewid y tirwedd am byth. Heddiw mae’r tŷ unnos yng nghanol miri’r holl ymwelwyr, ond pan adeiladwyd, roedd o’n hollol anghysbell. Pwy fyddai wedi sylwi os gymerodd hi fwy nag un noson i gasglu cerrig y mynydd (winc,winc)?  Gan iddo gael ei eni a marw yn y tŷ hwn, cawsom hefyd stori David Francis, Y Telynor Dall a gafodd ei anafu yn y swyddfa gyflogau gerllaw.

Roedd Meg Thorman yn aros amdanom yn llannerch y Dref Werdd.  Yno cawsom gyflwyniad eithriadol o ddiddorol. Cawsom edmygu'r holl waith adfywio i alluogi bywyd gwyllt i ffynnu lle bu dim heblaw rhododendron a mieri. Rhaid oedd gwneud addewid i ddod a’r criw yn ôl yma cyn dod a chrwydro o amgylch y safle i ben. Cysylltwch gyda’r Dref Werdd i chwithau gael crwydro’r safle a chael hafan yn y cwt bendigedig.

Wrth ymlwybro’r Llwybr Llesiant newydd, cyrrhaeddasom Bant yr Afon. Roeddem wedi rhyw ddilyn Afon Barlwyd o’r rheadr gudd, heibio llanerch y Dref Werdd at y gwaith hydro arleosol sydd yn parhau i reoli llif y dŵr i greu ynni. Yma hefyd  rhaid oedd dychmygu y tirlun a fu ar lannau Barlwyd– yn cynnwys mynachlog, cartrefi cynnar y chwarelwyr a steshion Dinas, y gyntaf yn y dref -wedi’u claddu  heddiw dan y domen lechi 

A dyma ni erbyn hyn wedi cyrraedd y gwlybdiroedd wed’u sychu -Cwm y Pryfaid- mae’r cliw yn yr enw. Wrth  gyffordd yr A470 yn Rhiw newidwyd y pwyslais i ddiwylliant ein bro trwy dynnu sylw at safle Llys y Delyn, y cwt bychan lle bu David Francis yn hyfforddi telynorion (‘Neuadd fawr rhwng cyfyng furiau’ chwedl Waldo.) Cyfeirio’n fras at Gapel Salem, Côr y Moelwyn ac Ysbyty Louisa Oakley, cyn brysio i gyfarfod Dafydd Roberts ger Capel Rhiw. Diolch iddo am ei gyflwyniad ar waith David Nash. Braint yw gwrando ar rhywun sydd wedi bod mor allweddol o ran cartrefu y gwaith celf byd enwog. Nid oedd yn ymarferol rhoi sylw i waith Clare Langdown yng Nghapel Rhiw. Mae’n  bechod bod yr unig ddarn o’i gwaith a gomisiynwyd I'w arddangos yn lleol wedi’i symud o’r golwg.

Erbyn inni ymlwybro i ganol y dref trwy’r steshion a mynd heibio gwaith celf Howard Bowcott a Lleucu Gwenllian yn Sgwar Diffwys, roedd hi’n amser lobsgows yng Nghaffi’r Gorlan. Heb son am y lobsgows a’r cacennau blasus, rhoddodd croeso Eleri a Gwen wên ar wyneb pawb. Wedi’r ymdrech i gorlannu’r criw o le i le, roeddem wedi cychwyn a gorffen mewn Corlan.

Y trysor olaf cyn troi am adra oedd y diweddaraf -murlun godidog Sam Buckley a Kaz Bentham (llun uchod), ac arno [fersiwn o] eiriau Gwyn Thomas a ddyfynwyd ar gychwyn y daith. Roeddwn mor falch o rannu trysorau ein bro, ond y balchder pennaf oedd yn ein cymwynaswyr lleol a fu mor barod i gyfrannu a gwneud hon yn daith gofiadwy. Melys moes mwy. Mae’r criw isho dod nôl. Da di byw mewn lle diddorol.

- - - - - - - - -
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 2025