Rhan o golofn reolaidd Iwan Morgan, o rifyn Rhagfyr 2024
Fe fydda i wrth fy modd yn cael cyfeillion caredig yn ymateb i gynnwys fy ngholofn. Yn Rhod Medi, cyfeiriais at lwyddiant y Prifardd Carwyn Eckley ym Mhrifwyl Rhondda Cynon Taf, a sôn am yr ymwneud gefais gyda’i dad-cu, Martin, yn ôl yn y 1970au pan oedd yn olygydd Llais Ardudwy. Derbyniais neges hyfryd gan Margaret, gweddw Martin. Cynhwysai’r neges yr englyn y bum yn chwilio amdano - yr un o waith hen dad-cu Carwyn, y Parch. D. Lewis Eckley:
YR HEN BLADUR
Darfu’r dur, ni thyr flaguryn, - mae’n gul,
Mae’n gam, daeth i’r terfyn;
Bladur glaf, gwawd blodau’r glyn,
Gwledd i rwd ar glawdd rhedyn.
Pe bawn wedi chwilio drwy gyfrolau barddoniaeth fy silffoedd llyfrau’n fanylach, byddwn wedi dod ar ei draws yng nghyfrol ddefnyddiol Dafydd Islwyn - ‘100 o Englynion’ [Cyhoeddiadau Barddas 2009].
Cwestiwn a ofynnwyd i mi’n ddiweddar wrth drafod y modd y bydda i’n ceisio gweithio englynion tra’n mynd i gerdded oedd “Sut bod yr awen yn dod mor rhwydd i ti? Mae’n rhaid dy fod ti’n fardd,” meddai’r cyfaill.
Fyddwn i ddim yn dweud hynny.
Cofiaf eiriau’r Athro Peredur Lynch wrth ymateb i gwestiwn tebyg yn y gyfrol ‘Ynglŷn â Chrefft Englyna’ ym 1981:
“Nid oes angen bardd i wneud englyn cywir ... mater o amynedd ydyw, ac ar ben hynny mater o ymarfer ... mae angen rhyw nerth neu bŵer i drawsnewid yr englyn peiriannol yn farddoniaeth, newid y talp o oerni yn rhywbeth byw, hardd. ‘Awen’ sydd eisiau ... Ar ôl cyrraedd y stad yma sylweddolir bod englyn yn rhywbeth anhraethol fwy na mater o sodro geiriau mewn rhyw drefn arbennig.”
Englynion byrfyfyr fydd fy rhai i’n amlach na pheidio, a theimlaf mai sodro geiriau mewn trefn fydda i. Y gamp ydy cael englyn i redeg yn rhwydd ac i fod yn ddealladwy i’r darllenydd.
Dyma ddau ddaeth i mi’n bur sydyn yn ddiweddar:
19/11/2024 - Eira cynta’r gaeaf. Erbyn y prynhawn, troes yn sych a braf i mi fynd i gerdded. Mae’r englyn byrfyfyr yn rhestru fy arsylliadau ...
Haenau eira hyd y mynydd a chynfas oer ar rosydd
Mae haenau hyd y mynydd - o eira,
Cynfas oer ar rosydd;
Haul gwan yn goleuo gwŷdd
A dŵr llyn yn dra llonydd.
A thra’r oedd ‘Storm Bert’ yn ei hanterth, daeth hwn:
STORM ‘BERT’ ... bore Sadwrn - 23/11/202
Ag oerwynt ‘Bert’ yn gyrru - ni allaf
Bellach geisio cysgu,
Yn ias hwn, cynhesrwydd sy’
I’w gael dan ddŵfe’r gwely.
Haul gwan yn olau drwy goeden; a'r gelynen sydd hanner ffordd rhwng yr Atomfa ac Argae Newydd Maentwrog |
Dyma gerdd fu’n troelli’n fy mhen, ar fesur yr hir a thoddaid:
I’R GELYNEN - y cerddaf heibio iddi ar fy nheithiau dyddiol.
[Noder mai ar y goeden fenywaidd y gwelir aeronGoeden y celyn a’i gwaed yn ceulo
Yn beli bach rhudd, - brech i’w gorchuddio,
Yn oer ei brigau wedi’r barugo
A’i dail gwyrdd pigfain, caled yn sgleinio;
Ac wrth i hwyl ei Ŵyl O - ddod yn nes
Ar aelwyd gynnes caiff wres a chroeso.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon