22.2.25

Senedd ’Stiniog -Apêl am Gynghorwyr

Diolch i’r Cyng. Rory Francis am gychwyn yr alwad am gynghorwyr newydd yn rhifyn Rhagfyr o Senedd ’Stiniog. Parhau mae’r apêl. Beth well nag adduned blwyddyn newydd i roi’r hwb bach ’na mae rhywun ei angen i wneud rhywbeth o’r newydd, neu i ail-afael mewn rhywbeth yr oedd yn arfer ei fwynhau?  Ydych chi’n un o’r bobl ’ma sy’n cwyno’n dragywydd, “Tydi hyn ddim yn iawn…”, neu, “Pam ddim ei wneud fel arall?”.  

Neu, efallai, y byddech jyst yn dymuno rhoi ryw gyfraniad bach er lles eich cymuned? Efallai mai sêt yn y Senedd ydi’r ateb ichi.  Dyma restr o’r Cynghorwyr sy’n eistedd ar eich Cyngor Tref ar hyn o bryd:

Ward Bowydd a Rhiw (5 Sedd)
Rory Francis, Morwenna Pugh (Is-Gadeirydd), Troy McLean, Peter Alan Jones, David Meirion Jones.
Ward Tanygrisiau (1 Sedd)
Dafydd Dafis.
Ward Conglywal (2 Sedd)
Mark Thomas, GWAG.
Ward Diffwys-Maenofferen (5 Sedd)
Gareth Glyn Davies, Dewi Prysor Williams, Geoffery Watson Jones, GWAG, GWAG.
Ward Cynfal-Teigl (3 Sedd)
GWAG, Marc Lloyd Griffiths (Cadeirydd), GWAG.
O graffu uchod, fe welwch fod pum sedd wag allan o un-ar-bymtheg! 30% mwy na heb.  Rhywbeth mae rhywun wedi’i glywed ers blynyddoedd bellach, yw bod pobl ddŵad yn cymryd seddi ar gynghorau ac yn raddol newid iaith a natur y cymunedau hynny.  

Os nad yw bobl leol yn fodlon llenwi’r seddi, dyma fydd yn siŵr o ddigwydd ym Mlaenau hefyd. Drwy ddifaterwch ddaw hyn. Apathi ydi’r gelyn. Fe sylweddolwch, o adnabod y Cynghorwyr uchod, nad oes rhaid byw yn y ward yr ydych yn ei chynrychioli chwaith ac mai dim ond un ferch sydd ar y Cyngor! 

Os am fwy o fanylion am sut i ymuno, cysylltwch ag un o’r Clercod ar 01766 832398 neu piciwch mewn i’w gweld yn eu swyddfa yn y Ganolfan Gymdeithasol.

Yn y Cyfarfod Arferol, penderfynwyd cefnogi râs Sbrint Stiniog eto eleni, yn dilyn llwyddiant y llynedd, drwy dalu costau presenoldeb y St. Johns, a phenderfynwyd, hefyd, gefnogi ymgyrch Cyfle i Bawb 2025, Yr Urdd, drwy dalu i bedwar o unigolion lleol fynd ar wyliau gyda’r mudiad. Achosion teilwng, dwi’n siŵr y cytunwch.

Derbyniwyd Adroddiad gan ein llysgennad a fu ym Mhatagonia y llynedd, sef Gethin Roberts. Braf oedd clywed ei fod wedi mwynhau yno a bod yr Ysgoloriaeth wedi gwir ledu ei orwelion.  Cafodd sawl antur fythgofiadwy. Rydym yn dathlu deng mlwyddiant eleni ers inni drefeillio gyda Rawson, a bwriedir cynnig ysgoloriaeth eto eleni; a'r 10fed o Ionawr (oedd y) dyddiad cau! Gallwch gael y manylion ar gyfer gwneud cais gan y Clercod.

Cyfarfod Mwynderau. Derbyniwyd gwybodaeth gan Swyddog Cyswllt Cyngor Gwynedd (Priffyrdd) am waith fydd yn cael ei wneud yn yr ardal dros y mis yma gyda sawl llwybr yn cael sylw. Mae’r Swyddog Cynnal a Chadw hefyd efo digon ar ei blât wrth addasu’r Cwt Canŵs, a da oedd cael gwybod bod ein caeau chwarae wedi dod drwy’r ystormydd diweddar heb fawr o ddifrod.

Yn 2025, gobeithiwn symud ymlaen gyda’r cynllun o osod MUGA [ardal chwarae aml-ddefnydd] yn y Parc, clirio, ac, efallai, osod Parc Sglefrio newydd ger Cae Peips gan fod yr hen un wedi mynd yn rhy beryglus, ond mae ’na lot o waith i’w wneud cyn hynny.  Cyfnod prysur o’n blaenau. 

Gallwch gael yr holl newyddion diweddaraf am waith eich Cyngor yma, fel arfer, yn y Llafar, neu, os yn well gennych, drwy… ddod yn Gynghorydd, a chael y newydd yn syth o lygad y ffynnon! Pam lai?
Hwyl am y tro, fy marn i’n unig.
DMJ
- - - - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2025





No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon