Rhan o golofn Steffan ab Owain, o rifyn Ionawr 2025
Mis Ionawr Oer
Roedd sôn bod tywydd oer i ddod i ni'r mis hwn. Dim byd tebyg i aeaf caled 1895, sef yr ‘Heth Fawr’, fel
y’i gelwid gan yr hen bobl, nag un 1947.
Bu mis Ionawr 1892 yn bur ddrwg yn ein hardal a’r cyffiniau hefyd yn ôl Baner ac Amserau Cymru.
Cafwyd storm o eira a lluwchfeydd garw fel bod y trên o’r Bala a’r trên bach yn methu a dod yma. Bu’n rhaid atal y chwareli oherwydd y lluchfeydd a’r rhew a chan ei bod yn Sadwrn tâl bu’n rhaid i chwarelwyr o ardaloedd Porthmadog, Harlech, Talsarnau, Penrhyn a Maentwrog gerdded drwy’r eira i ddod i nôl eu cyflog.
Roedd rhai ohonynt yn cerdded ar ben y cloddiau a thrwy’r caeau yn ambell le. Defnyddiwyd ceffylau i ddod â’r post i Danybwlch a Maentwrog.
Collwyd llawer o ddefaid yn yr eira a’r rhew, rhai wedi mygu ac eraill wedi newynu. Yn ôl rhai, hwn oedd yr eira gwaethaf ers 37 mlynedd.
![]() |
Eira mawr hyd Stryd yr Eglwys tua 1936 |
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon