...Neu fel mae Hywel Pitts yn canu yn ei gân Saesneg ardderchog ‘You’re in the eye of your place’!
Eglurodd y meistr geiriau ei fod wedi rhoi un o’i ganeuon Cymraeg trwy beiriant cyfieithu Gwgl i greu ei unig gân Saesneg. Y canlyniad ydi clincar o gyfansoddiad sy’n llawn o idiomau hurt bost fel:
‘On Jupiter day last week she was raining rain’;
‘I didn’t swallow a donkey’; ac
‘I had a disappointment on the best side’.
Fel honno, cafodd ei ganeuon smala a chlyfar ymateb da iawn gan y gynulleidfa oedd wedi dod i gaffi Antur Stiniog ar nos Wener olaf Hydref, ac mi gafwyd noson arbennig iawn o chwerthin a chyd-ganu efo’r dychanwr medrus.
Merch o’r Llan, Llio Maddocks, oedd yn rhoi sgwrs y tro hwn ac mi gawsom ni ddetholiad o’i cherddi; rhai yn deimladwy fel ‘Mi ddysgais gan fy nhad’, neu’n ymateb i bobl sy’n galw Stiniog yn llwyd (‘Cwrdd’ -hon yn llawn yn fan hyn, efo erthygl gan Llio o 2020). Eraill yn hynod fachog, fel ‘Can I just call you Clio’, sy’n ymateb i hogyn oedd yn rhy ddiog i wneud ymdrech i ynganu ei henw yn iawn, profiad cyffredin iawn i bawb sydd ag enw Cymraeg!
Dyma bwt i chi gael blas, ond mi fedrwch brynu pamffled o gerddi gan Llio -Stwff ma hogia ‘di deud wrtha fi- yn siop lyfrau’r Hen Bost er mwyn darllen mwy, neu ei dilyn (@llioelain) ar instagram.
It’s Llio. Mae o’n hawdd sdi.Diolch Llio am gyfraniad arbennig i noson wych. Mae bob tro’n braf iawn cael croesawu plant Stiniog yn ôl, ac roedd y gynulleidfa’n amlwg o’r farn fod ei sgwrs hi am ddylanwad ei milltir sgwâr wedi taro deuddeg.
Gad i mi dy ddysgu di.
LL. As in lle *** mae dy fanars?
I-O. As in sŵn y seiran fyddi di’n glwad
Ar ôl cael swadan.
YesCymru Bro Ffestiniog oedd wedi trefnu’r noson, y ddegfed o’r gyfres Caban, sy’n tynnu sylw at yr ymgyrch dros annibyniaeth i Gymru dan y bennawd Adloniant; Diwylliant; Chwyldro. Mi fydd y nesa ar nos Wener olaf Ionawr, efo Meinir Gwilym a Rhian cadwaladr yn diddanu. Welwn ni chi yno.
- - - - - - - - - -
Ymddangososdd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 2024
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon