Arferai pobl ‘Stiniog ddweud bod cael eira cyn Ffair Llan yn beth anarferol iawn, ond gyda’r Newid Hinsawdd, y mae popeth yn newid ac fe fu yn rhaid i’r Gymdeithas Hanes ohirio eu cyfarfod fis Tachwedd am wythnos oherwydd tywydd garw.
Ta waeth am hynny, pan gynhaliwyd y cyfarfod, wythnos yn hwyr, fe gafwyd noson i’w chofio. Y siaradwr oedd Hefin Jones-Roberts a thestun ei sgwrs oedd “Tipyn o hwyl ac o hanes” a dyna yn union a gafwyd.
Dechreuodd efo hanes ei blentyndod yn Stryd y Pant (neu Glanafon Terrace) yn Nhanygrisiau. Adroddodd am y tlodi oedd yn bodoli yn y ’30au a pha mor galed y gweithiai y gwragedd i gadw tŷ ar gyfer teuluoedd mawr. Aeth ymlaen wedyn i drafod arferion pysgota – neu potsio, y dynion, gyda straeon difyr am gymeriadau lliwgar. Pêl droed oedd yn mynd â diddordeb llawer o ddynion eraill a chlywsom eto straeon am b’nawniau Sadwrn prysur ar Gae Ddôl.
Soniodd lawer am ddylanwad yr heddwas lleol ar ei gymuned. Diddorol oedd clywed am y nosweithiau gwyllt a gafwyd yn y dawnsfeydd a’r tafarndai a sut yr oedd y Sarjant yn gallu eu sortio yn ddi-lol.
Gyda Hefin ei hun wedi gwasanaethu ein cymuned mor ffyddlon am yr holl flynyddol, nid yw’n syndod bod ganddo lawer iawn o straeon am y gwasanaeth iechyd yn lleol. Clywsom am helyntion yr ambiwlans a’r meddygon lleol a’r gwasanaeth gwych a gafwyd dan amgylchiadau anodd.
Fe wnaeth pawb fwynhau y noson yn arw iawn.
Cofiwch bod Rhamant Bro allan rwan, ac ar gael mewn sawl lle, er enghraifft Siop Lyfrau'r Hen Bost, Co-op, Siop y Gloddfa, Londis, Tŷ Coffi Antur Stiniog, Siop Pen-bryn Llan, a siopau Eifionydd a Pikes ym Mhorthmadog. Dim ond £4 am wledd o erthyglau a lluniau.
- - - - - - - -
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2025
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon