Y consensws yw fod gan y tŷ tŵr yn Llys Dorfil do llechi. Darganfuwyd darnau o lechi wrth gloddio yno, rhai gydag ymyl befel wedi eu trin â chyllell naddu, mae hyn yn awgrymu to llechi, ond heb ddim cadarnhad.
Yna ar ein chweched tymor o gloddio, eleni, darganfuwyd mwy o brawf ar ffurf llechen to wedi ei naddu a thwll hoelen ynddi, yn hytrach na’r twll peg pren disgwyliedig. Y dull cynharaf a ddefnyddiwyd ar gyfer to llechi oedd pegiau pren wedi'u sgwario'n fras, 30 – 40mm o hyd a tua 10mm o drwch, ac wedi'u naddu yn bwynt ar un pen. Roedd y rhain yn cael eu gwasgu i mewn nes eu bod wedi'u cydio gan ymylon miniog y tyllau peg.
Darn o lechen Llys Dorfil a thwll hoelan ynddi (y blaen ar y chwith, a’r cefn ar y dde) |
Defnyddiwyd llechi yng ngogledd Cymru cyn dyfodiad y Rhufeiniaid; gwelsant beth oedd y bobl leol yn ei ddefnyddio i doi, a gwella’r dull. Roedd y darn o lechen to a ganfuwyd yn llwyd canolig 5-N5 yn y Siart Lliw Creigiau (ailargraffwyd – 1980), ac yn 8.5mm o drwch.
Ymddengys fod y twll, wedi ei yrru o ben blaen y lechen gydag olion rhwd arno, gyda hoelen haearn wedi ei yrru i’r estyll, ac nid hongian arno.
Roedd y lechen hon yn awgrymu ei bod yn eiddo i berchennog cyfoethog, ac nid o dŷ cominwr, lle roedd pegiau pren yn cael eu defnyddio, yn hytrach na hoelion haearn. Mae'r dystiolaeth hon o do llechi gyda hoelion haearn yn cryfhau ein damcaniaeth bod Llys Dorfil yn dŷ caerog yn hytrach nag yn dŷ cyffredin.
Llechi to Rhufeinig o Llidiard Ysbyty, Tremadog
Darganfuwyd y llechi hyn gyntaf ym 1908 gan Edward Breese, archeolegydd a chyfreithiwr lleol. Ail ddarganfwyd llechi to y baddondy Rhufeinig yn Llidiard Ysbyty (Ysbyty Alltwen,Tremadog) rhwng 2010/11 wrth wneud ffordd osgoi Porthmadog A487 o Benrhyndeudraeth i Benmorfa.
Llechi to Rhufeinig o Llidiard Ysbyty, Tremadog |
Roedd y llechi to Rhufeinig a ddarganfuwyd yn Llidiart Ysbyty, o faint safonol (‘Pes’ oedden nhw’n galw troedfedd safonol). Gyrrwyd y twll hoelen o ben blaen y lechen, gan adael ceudod yn y cefn. Mae'r dull hwn yn hollol groes i do llechi mwsog, lle gyrrwyd y twll o gefn y lechen ai hongian ar estyll gan beg pren. Roedd y dull olaf hwn yn caniatâu i'r ceudod fod ar ochor flaen y lechen, a olygai y gellid gosod y peg pren yn y ceudod, a chaniatâu i'r lechen gael man gwastad i orwedd. Roedd mwsog wedi'i bacio o dan y llechi i atal drafft rhag chwythu llwch ac eira i'r gofod yn y to. Felly daw’r enw, cerrig neu llechi mwsog.
Bill a Mary Jones
- - - -
GWYBODAETH YDI’R TRYSOR PWYSICAF!
Dyna ddywed Bil Jones, sy’n arwain y cloddio archeolegol ar safle Llys Dorfil yng Nghwmbowydd, pan soniodd rhywun mor braf fysa darganfod trysor ar y safle!
Ymddangosodd y ddwy erthygl uchod yn rhifyn Gorffennaf-Awst 2024
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon