Rhan o Golofn Olygyddol rhifyn Medi 2024
Wrth eistedd o flaen sgrin wag yn meddwl sut i lenwi’r golofn olygyddol, daeth Steffan Griffiths, dyn tywydd S4C ar y teledu i ddweud fod haf 2024 wedi bod 21% yn sychach na’r arfer. Bu bron i mi dagu ar fy mhanad! A chithau hefyd efallai. Sychach o dd!@ψl..!
Aeth ymlaen i egluro mae cyfartaledd oedd y rhif hwnnw, efo ‘ambell i le fel Dinbych yn tipyn sychach, ac ambell le...’ -mi godais fy nghlustiau ac aros amdani: ond chwarae teg iddo, bu’n ddigon cwrtais i enwi Crymych yn hytrach na Stiniog fel enghraifft o rywle oedd yn wlypach na’r arfer!
Fo oedd yr unig un o gyflwynwyr tywydd Cymru a gododd i’r her gan Llafar Bro i roi Blaenau Ffestiniog ar eu map tywydd, ‘nôl yn 2021. Hen foi iawn!
Mae wedi bod yn haf digon digalon o ran tywydd tydi; haf eleni oedd yr oeraf yng Nghymru ers 2015 yn ôl Steffan hefyd. Dim ond gobeithio y cawn ni wythnos neu ddwy o haul cyn iddi ddechrau dywyllu. Neu ddyddiau sych o leiaf! Cadwn y ffydd.
Wel, roedd hynna’n ddeg munud bach diddorol, ond lle oeddwn i dwad..? O ia, rhoi rhifyn Medi Llafar Bro i’w wely! Pan mae deadline yn gwasgu, rydw i’n arbenigwr ar dindroi a segura; mae pen set yn ffordd o fyw sy’n gwbl naturiol i mi. Gwneud rhyw fân-bethau di-ddim yn hytrach na’r job o waith dan sylw, a gorfod cwblhau’r orchwyl dan bwysau wedyn. A dyna’n union dwi’n wneud rwan!
Calendr y Cymdeithasau -prynwch y rhifyn i'w gael yn llawn! |
Argian, mae yna bethau difyr ar eich cyfer yn y rhifyn yma. Gwaith hawdd a braf ydi golygu papur sy’n llawn i’r ymylon o erthyglau arbennig. Anoddach ydi gorfod derbyn fod gwerthiant Llafar Bro yn gostwng, a thalcen caled ydi denu’r to ifanc i’w ddarllen. Roedd yn galonogol felly i gael ymateb mor arbennig gan gymdogion yng ngwaelod Ffordd Wynne a Ffordd y Barwn pan rois i gnoc ar eu drysau nhw’n ddiweddar i holi os hoffen nhw dderbyn eu papur bro trwy’r drws yn fisol.
Dyma sut oedd Llafar Bro yn cael ei ddosbarthu am flynyddoedd; gwirfoddolwyr yn mynd o ddrws i ddrws bob mis. O’r 19 tŷ lle ddaeth rhywun i’r drws dim ond un ddywedodd ‘na, dim diolch’. Diolch o galon i bawb am eu brwdfrydedd. Os nad oeddech adra pan alwais i ac eisiau imi ddanfon acw bob mis, cysylltwch! Mi fydd yn amhosib i mi ymestyn yr ardal fedra’i wneud, ond os hoffai unrhyw un arall gymryd stryd neu ddwy i gnocio drysau a gwneud yr un peth, mi fydden ni’n ddiolchgar iawn am eich cymorth. Siaradwch efo Rhian ein dosbarthwr neu unrhyw un o griw hwyliog Llafar Bro.
Bob blwyddyn, dwi’n cael y fraint o hel a chrynhoi Calendr y Cymdeithasau ar gyfer rhifyn Medi, ac mae’n fy siomi o’r ochr orau bob tro. Mae dros 20 o weithgareddau cymunedol yn ail hanner mis Medi yn unig, ac mae’n sicr fy mod wedi methu pethau na welais wybodaeth amdanynt, fel y clwb camera a’r clwb cerdded er enghraifft. Rydw i’n ail-adrodd fy hun, ond oes yna unrhyw le arall ar wyneb y ddaear efo cymaint o weithgareddau Cymraeg eu hiaith? Go brin!
Paul W
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon