Daeth newyddion da am ddyfodol nifer o swyddi yn y diwydiant llechi lleol ym mis Mehefin, wrth i gais cynllunio i weithio’r graig yn Chwarel y Bwlch gael cymeradwyaeth i barhau am 24 o flynyddoedd.
Ond yn y dyddiau hyn o warchod, parchu, ac adfer enwau lleoedd gwreiddiol, mae’n parhau yn ddryswch i Llafar Bro pam bod cwmni Welsh Slate yn galw Chwarel y Bwlch yn ‘Cwt y Bugail’. Chwarel arall tua milltir i’r gogledd ydi Cwt y Bugail; un sydd wedi cau ers degawdau.
Chwarel Bwlch (Manod) uwchben y fawd; Cwt-y-bugail wrth y saeth! |
Mi yrrodd eich papur bro neges at y cwmni, ac at bennaeth cysylltiadau cyhoeddus cwmni Breedon, mam-gwmni Welsh Slate, yn eu llongyfarch ar sicrhau caniatâd i barhau gweithio’r chwarel ond yn holi am yr enw. Os gawn ni ateb*, mi rannwn ni’r manylion efo chi.
I fod yn deg, rydym yn deall gan chwarelwr profiadol mae cyn berchnogion ddechreuodd arddel yr enw Cwt y Bugail ar Bwlch. Ydi hyn i gyd o bwys? Wedi’r cwbl, gallwch ddadlau fod rhan o’r gwaith yn digwydd ar safle Chwarel Graig-ddu, ac enwau eraill Chwarel Bwlch oedd Bwlch y Slaters a Chwarel y Manod...
Be ydych chi’n feddwl? Gyrrwch air!
- - - - - - -
Ymddangosodd yn rhifyn Gorffennaf/Awst 2024
*Diweddariad, diwedd Medi: Fyddech chi ddim yn synnu i glywed na ddaeth unrhyw ymateb na chydnabyddiaeth o'n ymholiad ni, ond mae'n siom bod cwmni lleol yn anwybyddu cais resymol gan ein papur bro...
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon