1.11.23

Stolpia- Ysgoldy Glandwr

Hen Ddiwydiannau Rhiw a Glan-y-Pwll gan Steffan ab Owain

Nid Capel Soar, y soniwyd amdano eisoes, a oedd yr unig gapel neu ysgoldy crefyddol i gael ei weddnewid a’i droi yn ffatri yn yr ardaloedd hyn. Un arall a drowyd yn ffatri yn yr 1960au (mi gredaf) oedd Ysgoldy Glandwr (MC), sef adeilad a godwyd yn 1898. 

Pa fodd bynnag, cyn imi fynd ati hi i ddweud gair am y ffatri, hoffwn roi tipyn o gefndir yr Ysgol Sul a’r lleoedd y cynhelid hi cyn codi adeilad yr ysgoldy. Gyda llaw, roedd bwriad i godi adeilad pwrpasol rhwng rhesdai Glandwr a Glanyllyn yn yr 1870au, ond methwyd a chael caniatâd gan y tirfeddiannwr. 

Yn ei dyddiau cynnar, sef o’r flwyddyn 1871 ymlaen, cynhelid hi mewn lle a elwid yr Hen Lofft a safai gerllaw. Yna, ar ôl bod yno am oddeutu 11 mlynedd symudwyd i dŷ Hugh Thomas, Glandwr, sef un o athrawon yr Ysgol Sul. Erbyn hynny amrywiai ei nifer rhwng 58 a 96, ond gan nad oedd lle i bawb yno mynychai mwyafrif y to hŷn yr ysgol yng Nghapel y Rhiw. Y plant a fyddai’n ei fynychu fwyaf, a byddai Evan Jones, Ffridd Lwyd a Thomas Roberts, Tai’n Foel, a rhai o’r chwiorydd, yn cynorthwyo Hugh Thomas i’w dysgu i ddarllen, gwrando ar storiau’r beibl, bod yn ufudd, ayyb. 

Wedi marwolaeth Hugh Thomas yn 1891, symudwyd i Ffridd Lwyd, cartref Evan Jones, ond wedi rhyw 10 wythnos yno cafwyd lle yn y Capel Pren a safai ar yr ochr uchaf i resdai Glandwr. Bu’r ysgol yno am ryw 6 blynedd i gyd, ac ar ôl sicrhau llecyn o dir ar gost o £45 adeiladwyd ysgoldy newydd yn y fan y saif heddiw. Dechreuwyd ar y gwaith yn 1897, yna ei agor yn gyntaf ar 1 Mai, 1898, a’i gwblhau yn 1900 ar gost o £ 568. 2s 0. Un o’r rhesymau am y gwaith a’r gost ychwanegol oedd yr angen am ddosbarth ar wahân ar gyfer y plant bach. Cwynai’r oedolion ei bod yn anodd canolbwyntio yn eu dosbarthiadau oherwydd y sŵn a ddeuai oddi wrth cornel y plantos. Gyda llaw, erbyn y flwyddyn 1900 roedd cynnydd yn nifer y rhai a fynychai’r ysgoldy nes cyrraedd 137, a llawer iawn ohonynt yn blant. Yn ôl traddodiad yr oes, cafwyd te parti i ddathlu’r agoriad. 

Llun- Aelodau o Ysgoldy Glandwr ar gychwyn i Gymanfa y Methodistiaid rhywdro yn yr ? 1920au.
Gwelwn yn y llun bod adeilad ymhen isaf rhesdai Bryn Tirion, sef ar y dde eithaf. Yno, y byddai’r Capel Pren a fu mewn defnydd gan y Bedyddwyr ar un adeg. Diolch i Gareth T. Jones, Ysgrifennydd ein Cymdeithas Hanes am roi benthyg y llun inni.

Yn ôl Nia Williams, (Glaypwll Villa gynt) bu’r Ysgoldy mewn defnydd fel Ysgol Ddyddiol ar gyfer dosbarth y babanod ym mis Medi 1939 tra roedd Ysgol Glanypwll yn cael ei ailwampio. Bu’r plant yn cael eu dysgu yno tan mis Chwefror 1940. Credaf i finnau ei fynychu rhywdro yn yr 1950au tra roedd yn dal mewn defnydd fel ysgoldy gan y Methodistiaid Calfinaidd. Nid oes gennyf gof am yr hyn a oedd ymlaen yno, chwaith; efallai Ysgol Sul, neu noson o adloniant o fath.

Pwy sy’n cofio mynychu’r ysgol yno? Y tro nesaf, rwyf yn gobeithio dweud gair neu ddau am y ffatri doliau a fu yno.

Ysgoldy Glandwr heddiw. Llun Paul W

- - - - - - - - -

Ymddangosodd yn rhifyn Medi 2023


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon