Hanes Clwb Rygbi Bro Ffestiniog o ddyddiadur Gwynne Williams
Mehefin 1985
Pwyllgor- Prynu peiriant torri gwair /Gwasgaru TOP SOIL (£30 x 4 llwyth ) Paentio’r Clwb – John a Dilwyn a Marcus a Bryn yn gyfrifol. Caniatad Cynllunio i godi cysgod ar ochr y cae.
Gorffennaf
6ed Barbaciw yn y Clwb; 17eg Helfa Drysor; 24ain- Pwyllgor: Swyddog Cyhoeddusrwydd -Cradog Edwards/ Bwrdd Anrhydeddau– trefnu cynnwys a lleoliad
Awst
16eg Ocsiwn yn y Clwb >Elw £374; 3ydd Gwthio Gwely o’r Blaenau i Penrhyn, hel £317 Disgo £100; 7 Bob Ochr Harlech; 21 Awst Taith Tramor Iwerddon
Medi
12fed Ardal M v Gwent (Cwpan Howells): Bro 20- UWIST 14. Ymddiswyddodd Deilwyn Jones o’r Pwyllgor - Brian Jones i mewn. Gwynedd V Clwyd (Sgwad: John Jones, Dick, Tony Coleman, Alun, Gwilym, Dafydd, Ken a Mike). Yn nhîm Gwynedd: Mike, Gwilym ac Alun. Aelodaeth Dros 100. Tri-deg pedwar o chwaraewyr.
Hydref
30ain Pwyllgor- Gary Hughes, Gwilym Wyn , Rob Atherton a Dick James- Dan 23 Dolgellau;
Tachwedd
Bro 54 v Benllech 0 (crysau newydd )
Rhagfyr
3ydd -Cais am Drwydded. 11eg Pwyllgor -Burgler alarm yn gweithio /Cynnal a Chadw y llifoleuadau -- Peter Scott /Dr Boyns yn trefnu mynd i Aberystwyth ar gwrs Bwrdd Datblygu ynghlŷn a’r caeau/ Cyflwr y caeau yn peri gofid / Aelodaeth -chwaraewyr 45/ Trip Majorca- £125 PAWB wedi talu, 31 yn mynd. Trwydded 5 mlynedd ; 21ain Cinio Dolig (Y Rhiw Goch ) (£6.50)
Ionawr 1986
22ain- Pwyllgor- Eric Edwards (Pensaer ) –cynlluniau ar gyfer ail wneud llawr uwchben y Clwb/ Cylchlythyr wedi dod allan gan Merfyn / Trafferthion gyda llifoleuadau / Aeth 3 ar gwrs CAEAU -Dr Boynes , Dafydd Jarrett a Dylan Roberts / Rhaid sand slittio’r caeau. Capten 2ail dîm Kevin Thomas yn cael trafferth gyda’i ben glin – Michael yn cymeryd drosodd/ Raymond Tester ar y Pwyllgor Tŷ; Gwthio gwely i Ysbyty Bron y Garth at Ward y Plant Ysbyty Gwynedd £607.
Chwefror
Taith Tramor (Majorca ):
Palma 0 v Bro 12 (Ceisiau: Gwilym Wyn Williams / Mike S) (Trosi Idris Price / Alun Jones )
Costa de Calvia 16 v Bro 25 (Ceisiau Keith Williams /Alun Jones /Sprouts /Mike Smith / Cais cosb. Alun Jones cicio)
26ain-Pwyllgor- Ymholiad gan URGC -tîm yn cychwyn yn Traws? Cynlluniau am y Clwb a’r caeau – edrych am arian gan BDC, Cyngor, a Chwaraeon. Eric Edwards wedi gwneud braslun o beth fyddai y Clwb yn edrych fel / Pyst wedi dod o Pont y Pant gan Dave Hoskins;
Mawrth
8fed- Gogledd Cymru v Cylch Aberafan. (Alun Jones /Gwil James / Mike Smith ); Richard James Is-gapten Dolgellau (Mewn Cystadleuaeth yn Wrecsam); Pontypŵl 21 v Rhanbarth M Gogledd Cymru 12. Gêm Derfynol Cwpan Howells, chwaraewyr Mike (Capten) / Gwilym / Alun / John Jones;
26ain- Pwyllgor- Cydymdeimlo â theulu John E Evans a’n gadawodd ni mor sydyn; Enwi’r darian clwbddyn yn ‘Tarian Goffa John E Evans’. Cost Sand Slitting- Tua £5,000 dros 60 mis.
Ebrill
23ain- Pwyllgor: Rhaid archebu tywod a gro; y pibellau i wneud ffens o gwmpas y cae wedi cyrraedd (O Cwcs Penrhyn )/ Grand National: Elw - £98
Mai
5ed- Saith Bob Ochr yr Urdd Meirion (ar Y Ddôl); 10fed- Ras Taircoes Canolfan - gorffen yn y Clwb. 16eg Cinio Blynyddol (Rhiwgoch ). Cyflwyno Tarian John E Evans i Glwbddyn y Flwyddyn; 18fed- Ras Mynydd Reebok; 20fed Cyfarfod Blynyddol (Presennol 27). 24ain- Gwthio gwely i godi arian i Ysbyty Gwynedd £607; 28ain- Pwyllgor: cael cwpan gan CEGB ar gyfer cystadleuaeth dan y llifoleuadau; cyfethol Gwynne, Elfed, Jon, Ken, Caradog, Marcus a Gwilym James. Y sand slitting wedi dechrau / Cae’r ail dîm wedi ei dorri gan Raymond.
Canlyniadau
Tîm 1af : Chwarae 31 Colli 9 Ennill 21 Cyfartal 1 O blaid 547 / Erbyn 267
2ail dîm: Ch16 C8 E 8 O blaid 156 / Erbyn 301
Methu am gais i fod yn Aelodau llawn o Undeb Rygbi Cymru
Ethol: Llyw D E Thomas / Cad Dr Boyns / Ysg Dylan / Gemau Michael/ Wasg Bryn /Cae Raymond / Trys Osian / Tŷ Glyn / Aelod Raymond / Hyff a Capt 1af Mike / 2ail Capt Bryn. Eraill -Richard James / John Jones / Derwyn Willams / Brian Jones / Raymond Tester
Chwaraewr y Flwyddyn: Gwilym James
Chwaraewyr Mwyaf addawol: John Jones a Geraint Roberts
Clwbddyn: Glyn Crampton
- - - - - - - - -
Ymddangosodd yn rhifyn Medi 2023
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon