19.2.23

Y Gymraeg yn ardal Llafar Bro

Canlyniadau Cyfrifiad 2021

Ym mis Rhagfyr 2022, rhyddhawyd y ffigyrau am y Gymraeg o’r cyfrifiad a gynhaliwyd yn 2021. Siom oedd gweld fod y nifer sy’n siarad Cymraeg yng Nghymru wedi syrthio eto, o 562 mil yn 2011 i 538 mil yn 2021. Dyna i chi golled o bron iawn i bedair mil ar hugain o siaradwyr mewn degawd. 

Cwympodd y ganran o 19 y cant i 17.2. Ond os oedd y cwymp yn destun siom, yn sicr nid oedd yn destun syndod. Mae’r diffyg buddsoddi yn ein broydd Cymraeg yn arbennig yn dal i orfodi pobl ifanc i adael eu hardaloedd am borfeydd brasach. At hyn, mae’r hyrwyddo mawr ar dwristiaeth yn dod â phobl yma yn eu heidiau, ac o ganlyniad, ail dai a thai gwyliau dirifedi yn eu sgil, sy’n gwthio prisiau cartrefi ymhellach o afael pobl leol. 

Ychwaneger at hyn y ‘ras am le’ a welwyd ar ôl y cyfnod clo, lle gwelwyd miloedd o dai yn y Gymru wledig yn cael eu prynu gan bobl o swbwrbia’r dinasoedd mawrion a oedd yn ysu am gael byw yn y wlad, ac a allent wneud hynny, nawr eu bod yn gweithio o gartref. 

Ac ar ben hynny, mae poblogaeth naturiol Cymru yn syrthio. Syrthiodd y nifer o bobl a anwyd yng Nghymru o 11,000 rhwng y ddau gyfrifiad diwethaf. Mae’r twf o 44,000 a welwyd ym mhoblogaeth Cymru dros y degawd diwethaf i gyd felly oherwydd mewnlifiad. Ac fel y cyfaddefa Llywodraeth Cymru: “Rydym yn gwybod o gyfrifiadau blaenorol bod pobl a gafodd eu geni y tu allan i Gymru yn llai tebygol o lawer o ddweud eu bod yn siarad Cymraeg na phobl a gafodd eu geni yng Nghymru.” 

Mae sawl rheswm am hyn wrth gwrs, gan gynnwys diffyg cyfleoedd ac anogaeth ac ysgogiad gwirioneddol i ddysgu’r iaith. 

Yma yn ardal Llafar Bro, gwelwyd cwymp yn y niferoedd sy’n medru’r iaith dros y ddau ddegawd diwethaf. 

Sylwer ar y seren fach (*) ar ôl ffigyrau 2021. Mae hyn oherwydd nad yw’r ffigyrau swyddogol ar gyfer cymunedau ar gael eto. Cyfrifwyd y ffigyrau hyn drwy wneud cryn dipyn o waith syms, a ni allaf ond gobeithio felly nad ydynt yn rhy bell o’u lle.

Serch y dirywiad, mae’r iaith yn dal ei thir yn o lew yma. O edrych ar yr hyn a elwir wrth yr enw trwsgl iawn ‘Ardal Cynnyrch Ehangach Haen Ganol’ Blaenau Ffestiniog a Thrawsfynydd – sef ardal Llafar Bro i gyd yn gyfleus iawn, gwelwn fod y ganran sy’n medru’r iaith yma yn 77.1%.

O fewn yr ardal hon, mae ardaloedd llai, ac mae rhai o’r rhain dros 80%. Mae Glanypwll a dwy ran o ganol tref y Blaenau, er enghraifft, yn yr wythdegau uchel o ran canran siaradwyr Cymraeg. Mae rhan o’r Manod dros 80% hefyd, a’r rhan helaethaf o Danygrisiau a phlwyf Trawsfynydd. Mae Rhyd-y-sarn a Llan ill dau dros y 70%. Nid yw’r sefyllfa gystal mewn rhai rhannau eraill o’r fro. Y ganran yng ngwaelod Tanygrisiau a Dolrhedyn yw 67%. Ac mae Gellilydan, Maentwrog a dalgylch Tan y Bwlch o dan y 70% hefyd.  

Ystyrir y trothwy o 70% yn allweddol ym myd ieithyddiaeth. 

Fe’i gwelir fel rhyw fath o glorian – pan fo canran siaradwyr iaith wannach mewn cymuned yn mynd o dan 70%, yna dyna pryd mae iaith y gymuned yn dechrau troi i’r iaith gryfaf. Mae 70% yn swnio’n uchel iawn i hyn ddigwydd. Ond ystyriwch hyn - os oes grŵp o ddeg wrth fwrdd bwyd dyweder, neu ar gyngor plwy, a bod tri yn ddi-Gymraeg, yna buan y try’r sgwrs i’r Saesneg. 

Mae sylweddoliad hefyd ym maes ieithyddiaeth mai ar lawr gwlad, yn yr ymwneud cymunedol rhwng pobl â’i gilydd, yr enillir neu y collir y frwydr dros ddyfodol iaith fel iaith gymunedol. 

Dyma ddeg peth bach y gall bob un ohonom eu gwneud y flwyddyn hon i helpu cynnal y Gymraeg yn ein bro:

1.    Dechrau a gorffen bob sgwrs yn Gymraeg
2.    Siarad Cymraeg efo pawb sy’n medru’r iaith
3.    Pwyso’r botwm ‘Cymraeg’ ar beiriannu twll yn y wal a pheiriannau hunan wasanaeth mewn archfarchnadoedd
4.    Prynu cynnyrch efo’r Gymraeg arno – fel llefrith, menyn, caws, wyau, iogwrt ac ati.
5.    Os oes grŵp ardal ar y cyfryngau cymdeithasol – ysgrifennu yn Gymraeg bob tro.
6.    Siarad Cymraeg efo dysgwyr, a’u canmol.
7.    Os oes gennych gwmni neu fusnes, rhoi enw Cymraeg arno, a defnyddio cymaint o’r Gymraeg â phosib – arwyddion, biliau, ateb y ffôn ac ati.
8.    Dewis gwasanaethau a chwmnïau sy’n defnyddio’r Gymraeg os yn bosib.
9.    Gofyn yn gwrtais am ddeunydd marchnata a gwasanaethau yn Gymraeg os nad oes rhai ar gael. 10.    Cefnogi mudiadau a chymdeithasau lleol.
Glyn Lasarus Jones
- - - - - - - - - - -- - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol ar dudalen flaen rhifyn Ionawr 2023




No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon