Parhau cyfres Gwynne Williams gydag uchafbwyntiau o'i ddyddiadur
31 Fawrth 1976 Pwyllgor Brys -Trefniadau Cinio |Blynyddol Gloddfa Ganol:
Bwffe £3 / Grwp “ Cotton Field; Gwr Gwadd: R Gerallt Davies, Asgellwr Cymru
Cydnabyddiaeth – Chwarae I Gwynedd 1976 Graham Thomas ac Elfed Williams Traws
Ysg - Merfyn C Williams Trysorydd -Trosiad £ 869.48 / Elw £281.43
Ethol 1976 / 1977 Llywydd RH Roberts / Cadeirydd Dr A Boyns / Is Gad a Trysorydd Glyn E Jones Ysg Merfyn / Ysg Gemau Trefor Humphreys / Ysg Aelodaeth Bryn C Roberts / Capten Huw Joshua / Is Gapten Nigel Bloor / Hyfforddwr Huw Joshua
Eraill Ron C Morgan ( Ty Ysgol Llan ) /Tim Goodwin / Keith Harrison / Gwynne / Ieuan Evans
Adroddwyd fod cynlluniau yn y Pafiliwn ym Mhont y Pant a gofynwyd i’r Pwyllgor wneud ymholiadau am gae yn Nhanygrisiau.
Canlyniadau 1975 / 1976 -
Ch 27 E 11 C 13 Cyf 3
Chwaraewr y Flwyddyn 1975 / 1976 oedd Nigel Bloor a'r Chwaraewr Mwyaf Addawol: Graham Thomas. Clwbddyn: Gwynne Williams
Mehefin 1976 Cael caniatad i ddefnyddio cae Ysgol y Moelwyn
Gorffennaf 1976 Trafod cael cae ar ôl gorffen symud tomen Glandon
Bwrlwm y Blaenau efo Plwmsan a Wynff ( Elw £ 290 )
Awst 1976 Pwyllgor John Chorley yn barod i’r Clwb gario ymlaen i adnewyddu'r Pafiliwn
Diolch i Brian Taylor Y Gwydr am ddarparu bwyd ar gyfer timau ymwelwyr trwy'r tymor
Medi 1976 Dewiswyd Nigel Bloor i chwarae i Glybiau Iau Gogledd Cymru
Gwynedd v Clwyd: Chwaraeodd Elfed Williams, Graham Thomas, a Nigel Bloor
Tâl cysylltu golau i Pafiliwn Pont y Pant £131 / Darparu Nwy tua £120
18 Fedi 1976 Gêm gyntaf ar gae Dolawel
Bro 15 v Llanidloes 10 ( Cais Nigel 2 / Bol ) Huw 3
Hydref 1976 Pwyllgor Arian gan Pwyllgor Merched £180
Cais i Gyngor Meirionnydd am gaeau ac am yr Hen Ysgol i'w gwneud yn Glwb
Tachwedd 1976 Pwyllgor Merched: Cad Shirley / Is Gad Glesni Joshua / Ysg Audrey ac Ann Jones / Trys Morfydd Roberts a Beryl Coleman
Debaturon Chwech 6 am £ 1,200 / Dylad y Clwb i’r Banc £ 750
Gwerthu 3 am 50 mlynedd / 2 am 5 mlynadd / 1 yn y Clwb
Syniad arall pobl gyda pres yn benthiyca arian i’r Clwb am flwyddyn , Clwb yn eu prynu wedyn
5 Tachwedd- Parti Rygbi Gloddfa Ganol (elw £ 82.81)
6 Tachwedd- Bro 0 v Dolgellau 39 Ceri Bloor a Michael Eric Jones (Sisco) yn cael cerdyn Coch! Adroddiad y dyfarnwr- bod anrhefn llwyr; y clwb am apelio
27 Tachwedd Yn ôl ym Mhont y Pant -Cae Dolawel rhy beryglus
Bro 0 Dolgellau 6
Rhagfyr 1976 Pwyllgor yn y Cwm
Trafod Hen Ysgol Tanygrisiau efo Mri Harris Wallace a Linnell gyda’r gobaith ei phrynu (y Cyngor NEU y Clwb ) Penderfyniad gan y Cyngor
13 Rhagfyr -Cyfarfod rhwng swyddogion y Clwb Rygbi a'r Clwb Criced i gyd drafod beth oedd yn digwydd gyda'r Hen Ysgol a chae'r Ddôl.
26 Rhagfyr -Bro 38 v Alltudion 0
Ionawr 1977 Mae Cyngor Dosbarth Meirionnydd yn fodlon prynu’r Hen Ysgol am £6000; Pensaer i wneud cynlluniau o du mewn yr adeilad– am ddim; Taflenni Newyddion ; i fynd allan bob mis
Chwefror 1977 Cyfarfod Pwyllgor Cyntaf yn Hen Ysgol Tanygrisiau (y Tŷ Clwb newydd)
Mawrth 1977 Amcan gyfrif bydd angen £10,000 am wneud y caeau: £6mil gan y Cyngor, a £2fil yr un gan y clybiau Rygbi a Chriced
Angen £ 4, 250 i addasu yr Hen Ysgol: £2000 yr un rygbi/criced
Cafwyd les i'r clybiau Criced a Rygbi am 21 mlynadd
17 Fawrth -Noson Hel Pres; Noson Ffilmiau -Elw £ 5.40
21 Fawrth -Noson Codi Arian; Noson Dartiau yn y Cwm -Elw £ 28. 40
29 Fawrth -Max Boyce a Gareth Edwards – DDIM yn dod i’r cinio blynyddol, ond Carwyn James a Dewi Griffiths BBC yn dod!
Cylch lythyr yn llwyddiant / Raffl Gwerthu £135 Costau £ 62.50 ELW £ 72.50
Llun o lyfr dathlu 21 mlynedd y clwb 1973-1994. Dewi Griffiths BBC efo'r ffan lechi a Carwyn James efo rhai o'r criw lleol |
Record!
Doniau Bro Ffestiniog. Record y Clwb efo Talentau Lleol £ 2.99 yr un
[Recordiwyd yn Ysgol y Moelwyn a'i ryddhau gan Sain ar label Tryfan, efo 17 o ganeuon]
Ebrill 1977 Taith Gerdded Noddedig gan ferched y Clwb- 10 milltir a gwnaed £ 500
15 Ebrill -Cael ein ffilmio Nos Wener yn ymarfer ym Mhont y Pant – rhaglen deledu BBC “Sports Line-Up” gyda Carwyn James a Dewi Griffiths, rhaglen yn dangos llwyddiant Clwb Caerdydd oedd yn dathlu 100 oed a dyfodiad Clwb newydd Bro - a daeth y ddau i ginio Blynyddol y Clwb yn Gloddfa Ganol. Elw'r noson £120 + Raffl £20 + Osciwn am botel wisgi £50
Tymor 1976/1977
Chwaraewr y Flwyddyn: Nigel Bloor
Chwaraewr Mwyaf Addawol: Elfed Roberts (Fefs)
Clwbddyn: Glyn Eden Jones
- - - - - - - - - - - - -
Ymddangosodd yr uchod, yn rhan o erthygl fwy, yn rhifyn Rhagfyr 2022
Mwy i ddilyn!
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon