“Nyd oes wlad yn holl Gred o gymaint o dir a chymaint o saint ynddei ag oedd gynt ymhlith Cymbry.”
Daw’r frawddeg hynod hon o un o lyfrau godidocaf ein cenedl annwyl – Y Drych Cristionogawl – sef y llyfr Cymraeg cyntaf erioed i’w hargraffu ar dir Cymru, a hynny yn anghyfreithlon, mewn ogof ger Llandudno yn 1587.
Mae gan ardal Llafar Bro ei saint hefyd. Dyma ddisgrifiad byr o hanes bywyd anhygoel rhai ohonynt - gŵyr a gwragedd digon cyffredin a fu’n byw bywydau anghyffredin, yn aml mewn amgylchiadau eithafol iawn. Cyraeddasant sancteiddrwydd mawr yn yr ardal hon yr ydym yn byw ynddi heddiw, a hyn yng nghyfnod ffurfiant y genedl Gymreig, yn y bumed a’r chweched ganrif.
Trafodir yma hefyd yn fras ambell sant o’r dalgylch ehangach sy’n ymddangos ar yr eicon hynod ‘Saint Bro Ffestiniog’ a geir yn Eglwys Holl Saint Cymru yn y Manod.
Copi o eicon ‘Saint Bro Ffestiniog’ sydd yn Eglwys Uniongred Holl Saint Cymru yn y Manod |
Twrog Sant
Nawddsant Maentwrog, yr enwir y pentref ar ei ôl. Ei ddydd gŵyl yw 26 Mehefin. Credir ei fod yn fab i Ithel Hael o Lydaw, a daeth i Gymru gyda Chadfan Sant yn y chweched ganrif. Roedd Twrog yn ddisgybl i Beuno Sant, ac ef, mae’n debyg a sgrifennodd y llyfr hynod ‘Llyfr Beuno Sant’ a elwid hefyd wrth yr enw ‘Tiboeth.’ Beth oedd y llyfr hwn, ni wyddir yn iawn, ond roedd carreg ddu solet ynddo. Copi o’r Efengylau neu Lyfr Offeren ydoedd mae’n debyg, ac fe gafodd ei achub o eglwys Clynnog Fawr pan aeth y lle ar dân. Credir mai dyna sut cafodd y llyfr ei enw Tiboeth (hynny yw, di-boeth - llyfr a ddihangodd yn ddianaf o’r tân). Diflannodd y llyfr rywbryd yn yr unfed ganrif ar bymtheg, sy’n golygu y goroesodd am fil o flynyddoedd.
Cododd Twrog gell iddo’i hun gan ddefnyddio gwiail o dir corslyd dyffryn Ffestiniog. Yma bu’n byw bywyd o galedi, unigrwydd, gweddi, a thawelwch, yn ymladd â’i natur ei hun. Yn ôl yr hanes, taflodd faen enfawr o gopa’r Moelwyn Mawr ar ben allor paganaidd a’i chwalu’n chwilfriw. Hwn yw Maen Twrog – y garreg dywodfaen metr o uchder a saif ger wal yr eglwys, a rydd ei henw i’r pentref. Yn wir – mae ôl bysedd y sant i’w gweld arni hyd heddiw.
Cysylltir y garreg hon hefyd â bedd Pryderi o bedwaredd gainc y Mabinogi:
“Ac oherwydd nerth, grym a chryfder, a hyd a lledrith, Gwydion a drechodd a lladdwyd Pryderi, ac ym Maen Twrog uwchben y Felenrhyd y’i claddwyd ac yno mae ei fedd.”Yn niwloedd hanes, mae’r stori am Twrog Sant a’i garreg wedi ei gysylltu â hanes ‘Twrog Gawr’. Ond mae un peth yn sicr – mai cawr ysbrydol oedd Twrog Sant.
Y Santesau Madryn ac Anhun
Nawddsantesau Trawsfynydd. Tywysoges oedd Madryn, a’i morwyn oedd Anhun. Roedd Madryn yn wyres i Gwrtheyrn Gwrthenau, a wahoddodd yr Eingl Sacosoniad i Brydain. Oherwydd y weithred hon, trodd y brodorion Celtaidd ar y teulu, a gorfu iddynt ffoi o Sir Fynwy i Ben Llŷn, cyn gorfod ffoi o’r fan honno hefyd am eu bywydau. Byw fel ffoaduriaid fu eu hanes. Yna, wrth gyd-deithio un diwrnod, ar bererindod i Enlli o bosib, cysgodd y ddwy y nos yn Nhrawsfynydd. Y bore canlynol, canfuasant iddynt glywed yr un llais yn union yn llefaru wrthynt yn y nos – llais a ddywedodd wrthynt yn glir
“Adeiladwch eglwys yma.”
Gan gymryd hynny’n arwydd gan Dduw, dyna a wnaethant, gan fyw yno fywyd o ddiweirdeb. Aethant maes o law i Gernyw a sefydlu cymuned o leianod yn y fan honno.
Brothen Sant
Nawddsant Llanfrothen. Un o feibion niferus Helig ap Glanawg, y boddwyd ei dir gan y môr oddi ar arfordir Penmaenmawr. Dyma dir ‘Llys Helyg’. Wedi’r drychineb hon, a cholli popeth, daeth y tad a’r meibion hwythau yn fynaich.
Gwyddelan Sant
Nawddsant Dolwyddelan. Gwyddel a ddaeth i Gymru yn gennad Cristnogol yn y bumed ganrif. Ei wylmabsant yw Awst 16. Mae ei ffynnon sanctaidd y tu ôl i westy Castell Elen ac eid â phlant gwantan yno i gael iachâd. Dywedir fod cloch law o’i eiddo ar gadw yn y Gwydir yn Llanrwst.
Tecwyn Sant
Nawddsant Llandecwyn, a brawd i Twrog Sant – nawddsant Maentwrog. Roedd yn byw yn y chweched ganrif - a threuliodd gyfnod ar Ynys Enlli.
Cledwyn Sant a Tudclud Sant
Nawddsaint Penmachno. Brenin oedd Cledwyn, a mab hynaf Brychan Brycheiniog. Arferai hen eglwys fod ym Mhenmachno wedi ei chysegru i ‘Sant Enclydwyn’. Mae’n bosib iawn ei bod yn eglwys fynachaidd. Mae’r eglwys bresennol wedi ei chysegru i Tudclud Sant – un o saith mab yr enwog Seithennyn, y boddwyd Cantre’r Gwaelod drwy ei esgeulustod. Dethlir gwylmabsant Tudclud Sant ar Fai 30.
GLJ
- - - - - - - - - - -
Ymddangosodd yn rhifyn Ionawr 2022
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon