Mae 2022 wedi bod yn flwyddyn hynod o brysur gyda sawl prosiect newydd wedi ei sefydlu i gefnogi pobl y gymuned, yn enwedig yn sgîl yr argyfwng costau byw.
Warden Ynni Cymunedol
Yn swyddfa’r Dref Werdd mae Tanya, ein Warden Ynni Cymunedol. Mae Tanya wedi cael ei chyflogi ers mis Awst 2022. Dyma rhai o ddyletswyddau Tanya:
• rhoi cyngor a chefnogaeth i drigolion er mwyn lleihau eu defnydd ynniYn ddiweddar mae Tanya wedi cymhwyso fel Aseswr Ynni Domestig Lefel 3. Mae ei swydd hefyd yn parhau ac mae hi nawr yn cynghori trigolion Gwynedd ar effeithiolrwydd cael synwyryddion Carbon Monocsid a hefyd iddynt fod yn ymwybodol o’r peryglon.
• helpu gyda biliau, dyledion a gwneud ceisiadau
• cyfeirio pobl i gael gratiau ECO4 neu Nyth
• rhoi mesuriadau arbed ynni fel bylbiau LED a rhoi deunyddiau atal drafftiau i drigolion
Canolfan Galw Mewn
Cofiwch biciad mewn i’n Canolfan Galw Mewn yn 5 Stryd Fawr i weld Rhian neu Marged ar Ddyddiau Llun, Mercher neu Gwener rhwng 10yb a 4yp i gael gwybodaeth a chefnogaeth ar bob math o faterion llesiant. Bydd apwyntiadau ar gael gyda gweithiwr Cyngor Ar Bopeth bob yn ail Ddydd Mercher, rhwng 10yb a 12yp – mae gwneud apwyntiad yn hanfodol. Cysylltwch ar 01766 830082.
HWB: Cefnogi Cymuned
Bu 2022 yn flwyddyn digon prysur yn yr HWB gyda phrosiectau ‘Dod yn ôl at dy Goed’, ‘Cynefin Chymuned i Blant' a ‘Sgwrs’ yn parhau’n llwyddiannus.
Trefnwyd taith dywys i fyny’r Moelwyn Mawr, sesiynau cerddoriaeth, celf a Tai Chi, teithiau natur, meddylgarwch a dysgu am fadarch gwyllt. Cawsom ymweld â’r Ysgwrn a Gweilch Glaslyn, sesiynau dan do yn gwnïo nadroedd atal-drafftiau a chwarae gemau bwrdd, a chawsom ddigonedd o baneidiau yn y coed!
Mae’r cynllun am ddim, ar agor i unrhyw un, ac yn rhoi cyfle i bobl gymdeithasu, bod yn actif a dysgu sgiliau newydd. Bydd llawer mwy o weithgareddau yn cael eu trefnu eleni. Os oes gennych chi ddiddordeb ymuno, cysylltwch â Non ar 07385 783340 neu non@drefwerdd.cymru
Sesiwn grefftau y Dref Werdd |
Hyd yn hyn rydym wedi bod ar daith hanes i Domen y Mur gydag Elfed Wyn ap Elwyn, taith natur Calan Gaeaf yng nghwmni Catrin Roberts a Gai Toms, taith hanes Cwmorthin gyda Pred Hughes, ac wedi bod i lanhau traeth Cricieth a dysgu am fywyd gwyllt yr arfordir gydag Eurig Joniver.
Mae’r criw yn mwynhau’n arw. Diolch i’r arweinwyr am eu cyfraniad i addysg y bobl ifanc.
Mae gwirfoddolwyr prysur ein cynllun cyfeillio dros y ffôn, Sgwrs, yn parhau i gefnogi eu ffrindiau ffôn. I ddangos ein diolch iddynt, ac i ddathlu dwy flynedd o’r prosiect, trefnwyd te prynhawn iddynt yn Neuadd Goffa Penrhyndeudraeth ym mis Tachwedd. Roedd yn braf i’r rhai oedd yn sgwrsio â’i gilydd allu cyfarfod wyneb i wyneb am y tro cyntaf ar ôl bod yn sgwrsio ar y ffôn am gyfnod hir. Diolch iddyn nhw, maen nhw’n gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau’r rhai maent yn eu helpu. Os oes gennych chi ddiddordeb bod yn rhan o’r cynllun, cysylltwch.
Gardd Fywyd Gwyllt Hafan Deg
Gwyddom oll fod natur ar drai, a bywyd gwyllt dan fygythiad. Gan weithio ochr yn ochr â chymuned Bro Ffestiniog, mae’r Dref Werdd wedi ymrwymo i greu, adfer a gwella byd natur ‘ar eich stepen drws’.
Felly, yn dilyn llwyddiant yr Ardd Lysiau Gymunedol yn Hafan Deg, mae prosiect cyffrous newydd ar y gweill sef Gardd Fywyd Gwyllt Gymunedol yn Nhanygrisiau.
Mewn partneriaeth ag Adra a Cadw Cymru’n Daclus, byddwn yn troi darn o dir nad yw’n cael ei ddefnyddio yn hafan i fywyd gwyllt i bawb ei fwynhau. Bydd perllan, wedi'i phlannu â choed ffrwythau treftadaeth Gymreig, coedlan ffrwythau a chnau gwyllt (collen, criafolen, draenen ayyb), gwrychoedd, dôl blodau gwyllt, a 'gardd gors' i annog pob math o fywyd gwyllt. Bydd gwelyau uchel i greu 'gardd synhwyraidd' yn cynnwys perlysiau, ffrwythau meddal, blodau, a bwydydd bwytadwy fel garlleg gwyllt.
Bydd angen gwneud LLAWER o waith! Ond bydd yr ardd hon yn perthyn i’r gymuned gyfan, ac edrychwn ymlaen at groesawu pawb sydd eisiau dod i helpu a dod â’r ardd hon yn fyw!
Am fwy o fanylion, ebostiwch meg@drefwerdd.cymru
Dros fisoedd yr haf bu’r criw amgylcheddol yn brysur yn datblygu pwll bywyd gwyllt ger ein coedlan ddim ymhell o’r dref. Mae pyllau yn hanfodol er mwyn cynnal bywyd gwyllt ac roeddem wedi meddwl y byddai’n rhaid disgwyl am gyfnod cyn gweld llawer yno ond o fewn ychydig fisoedd, rydym wedi gweld llyffant, yn ogystal ag amryw o bryfetach dyfrol. Edrychwn ymlaen at weld bywyd gwyllt yn ffynnu yn y pwll eleni.
Mae Megan Elin, ein Cynorthwyydd Amgylcheddol, wedi cychwyn prosiect ‘Casglu a Chysylltu’, sef ymgyrch i gynnal gweithgareddau casglu sbwriel gan gymdeithasu ag eraill. Mae ambell i sesiwn wedi ei chynnal yn nhraeth Morfa Bychan gyda 12 bag sbwriel wedi eu hel. Os oes gennych ymholiadau am y prosiect yma, cysylltwch â Megan Elin ar meganelin@drefwerdd.cymru
- - - - - - - - - - - -
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2023
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon