28.3.21

Stolpia -Rhew yn Ffos Cyfiawnder

Atgofion am Chwarel Llechwedd

Dyma barhau ag ychydig o atgofion am yr amser y bum yn gweithio fel ffitar yn Chwarel Llechwedd yn yr 1960au. Y mae gennyf gof o aeaf digon oer yn 1968-69 a bu'n rhaid cael math o declyn taflu fflamau fel rhan o offer y ffitin-siop er mwyn toddi'r rhew yn rhai o'r peipiau haearn a gyflenwai'r dŵr i'r cywasgyddion awyr. Os nad oedd posib cael y dŵr i redeg yn rhwydd i'r cywasgyddion ni fedrid eu rhoi ar waith, ac o ganlyniad, ni fyddai awyr ar gyfer gweithio'r injins tyllu a'r craeniau. 

Gosodid carpiau wedi eu mwydo mewn paraffin o amgylch rhai o'r peipiau a oedd wedi rhewi'n ddrwg, ac wedyn rhoddid y taflydd-fflamau arnynt i ddadmer y rhew ynddynt. Roedd y peipiau yn cynhesu yn dda ond roedd fy nhraed i'n fferru yn yr eira rhewllyd, a'r peth gwaethaf oedd, bu'n rhaid gwneud y gwaith hwn am ddyddiau nes i'r tywydd dyneru.

Gan ei bod yn ofynnol i'r pwerdy ym Mhant yr Afon gael dŵr i gynhyrchu trydan i droi yr holl beiriannau yn y melinau a'r gweithdai, goleuo yr adeiladau, ac ar adegau, troi y rotary convertor a fyddai ar Bonc yr Efail, roedd yn rhaid archwilio'r peipiau mawr a ddeuai i lawr o Lyn Fflags yn rhan uchaf y chwarel, i weld a oedd ambell un yn gollwng dŵr, oherwydd gallai y rheiny rewi hefyd, ac achosi peiriannau'r pwerdy i ffaelu a chreu trafferth fawr i ni'r ffitars, ac i Emrys, a wnai'r gwaith trydanol, hefyd.

Dyma beth a ddigwyddodd i beipiau mawr y chwarel yn ystod gaeaf caled 1947

Credaf mai'r gaeaf hwnnw y bu'n rhaid inni fynd i fyny i Lyn Fflags i racio'r ffosydd a oedd wedi rhewi'n gorn, a thorri'r rhew wrth geg y beipen mewnlif. Pan gyrhaeddasom i fyny yno roedd hi wedi dod yn storm eira ofnadwy ac roedd hi'n anodd iawn cael eich gwynt wrth wynebu'r gwynt a'r eira. Er nad oedd gennym ddillad ar gyfer tywydd arctig, roeddem wedi lapio ein hunain mewn cotiau cynnes, ac roedd gennyf gap gweu a sowester tros hwnnw ar fy mhen a sgarff am fy ngwddw. 

Os cofiaf yn iawn, y criw a oedd i fyny yno yng nghanol y tywydd mawr oedd Emrys fy mos, Robin George Griffiths (y gof), Barry Williams, prentis gof, Ellis Glynllifon, Glyn Roberts (Glyn Caps), a Wil Catleugh. Ar ôl nol y rhaciau, rhawiau a chaib, aeth rhan o'r criw i racio'r ffos a ddeuai o Lyn Barlwyd, ac aeth Emrys, Wil a finnau i geisio torri a llacio'r rhew yn Ffos Cyfiawnder, sef y ffos sy'n rhedeg o gyfeiriad pwerdy Chwarel Maenofferen i'r llyn. Enw da ar ffos, ynte? 

Roedd yn waith digon peryglus, gan ei bod yn llithrig dan draed, ac yn  anodd gweld fawr ddim yn y storm eira. Beth bynnag, bûm wrthi am dipyn wrth y gwaith, ond toc, dyma ni'n clywed bloedd a diawlio, a meddwl yn siŵr bod rhywun wedi llithro i mewn i'r ffos, neu'n waeth, i mewn i'r llyn. Trwy ryw drugaredd, nid hyn'na a oedd wedi digwydd, ond gwynt y storm eira a oedd wedi chwythu helmed Glyn oddi ar ei ben, ac ar hyd rhan go dda o'r llyn fel na fedrai ei chyrraedd. Roedd hi'n dda fod ganddo gap stabal hefyd ar ei ben, neu mi fyddai wedi fferru. Gyda llaw, roedd yr hen Glyn wedi bod yn canmol bod ei ben yn gynnes a sych dan y cap a'r helmed, ond gorfod gadael yr helmed i'r elfennau a fu diwedd y stori y diwrnod hwnnw.
-----------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 2021


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon