7.3.21

Stolpia -Eistedd ar Ffrwydron

Ychydig Atgofion am Chwarel Llechwedd, gan Steffan ab Owain

Holwyd fi'n ddiweddar gan gyfaill am y cyfnod pan yr oeddwn yn gweithio yn Chwarel Llechwedd yn niwedd yr 1960au. Felly, dyma rannu ychydig o'm hatgofion am yr amser hwnnw pan y’m cyflogwyd fel ffitar cynorthwyol yno gyda'r diweddar Emrys Williams, Trem y Graig, a Derick Westerman Davies sy'n byw tua Llanrwst.

Er fy mod wedi cael profiad yn gweithio fel peiriannwr ifanc mewn ffatrïoedd nid oeddwn yn gyfarwydd â gwaith peiriannau chwarel ac o ganlyniad, bu'n rhaid dysgu am lawer o bethau newydd yn y swydd.

Un o'm gorchwylion oedd cychwyn y cywasgydd awyr (compressor) yn y boreau, a gyda llaw, 'awyr' oedd y gair a ddefnyddid gennym, ac nid aer, na gwynt. Yn ogystal, byddai'n rhaid sicrhau bod y peipiau awyr yn gweithio'n iawn ac nad oeddynt yn gollwng o gwbl. Ceid peipiau haearn a rhai rwber er mwyn cysylltu yr injins tyllu a'r craeniau gydag awyr, ac os y byddai ambell un wedi dechrau gollwng ar ôl damwain, neu draul, gosodid creffyn, neu glamp, dros y twll.

Inclên y Bôn. Llun o gasgliad yr awdur.

Cofiaf un tro imi gael fy ngalw i drwsio peipen i lawr yn y Bôn, sef un o'r rhannau lle gweithid y graig yng ngodre'r inclên â'r un enw. Wedi cyrraedd yno mi es ati hi i'w thrwsio yn weddol handi, ac fel yr oeddwn am ei throi yn ôl am yr inclên, dyma Emyr Jones (Saint) a John, mab Thomas H. Jones, y rheolwr y pryd hynny, yn dweud wrthyf am ddod i ymochel yn y caban cerrig gan eu bod yn saethu'r graig gerllaw, a dyna a wnes. Tra roeddwn yn eistedd yno i aros y glec, dyma fi yn eistedd ar focs pren, a dechrau rwlio sigarét i gael mygyn bach cyn mynd yn ôl i'r ffiting siop ar Bonc yr Efail, (No. 5) ac fel yr oeddwn am danio'r sigarét dyma Emyr yn tynnu fy sylw at fy sedd. 

"Wyt ti wedi edrych ar beth yr wyt ti yn eistedd arno?" meddai. 

"Naddo" oedd fy ateb. 

"Wel, ar gist bowdwr," meddai yntau. 

Brensiach, mi ddychrynais yn iawn, ond nid wyf yn sicr hyd heddiw os yr oedd ffrwydron yn y gist ar y pryd, ynteu ai tynnu fy nghoes yr oedd Emyr. Diolch i'r drefn, dim ond un glec a fu y bore hwnnw, sef yr un a ddaeth o'r graig!

Cofio rhyw dro arall fel y bu'n rhaid i mi helpu Emrys i drwsio un o'r rhodenni pigfain (spear rods)
yn y pwerdy ym Mhant yr Afon. Y diweddar Glyn Griffiths, Tŷ Capel, Ebeneser, a ofalai am y pwerdy yr adeg honno, ac ar ôl inni fod wrthi am sbelan yn ei gosod yn ôl yn ei lle daeth yn amser cinio, a galwodd Glyn arnom fod y tecell wedi berwi. Roedd Emrys a finnau wedi dod â'n tuniau bwyd efo ni i lawr o'r cwt letrig a oedd i fyny ar y bonc, ond roeddwn wedi anghofio dod a'm tun siwgwr. Felly, dyma fi'n gofyn tybed a fuaswn yn cael llwyad gan Glyn, gan nad wyf yn cael blas ar baned heb siwgwr ynddi, ond nid oedd ganddo beth. Yn wir, nid oedd ef nac Emrys yn ei gymryd yn eu te. Dyma Glyn yn awgrymu rhywbeth - tybed a oedd gennyf rywbeth melys yn fy nhun bwyd, ac atebais fy mod â bar siocled Kitkat ynddo. "Wel", meddai, "treia fwyta dy frechdanau heb yfed dy de, ac wedyn pan fyddi di'n dechrau cnoi dy siocled cymera dy de efo fo." Mi wnes innau hynny, ac wrth gwrs, roedd melysrwydd y siocled yn help mawr imi fwynhau fy mhaned. Heb os, mi ddysgais lawer o bethau yng nghwmni yr hen weithwyr, ac roedd hwn yn un ohonynt. 

Efallai y caf sôn am rai o'm profiadau eraill y tro nesaf.

------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2021

 

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon