Wedi cael fy magu yn y Blaenau hyd nes gadael chweched dosbarth Ysgol Sir Ffestiniog, ym 1962, cefais yrfa wedyn fel Peiriannydd Siartredig, yn gweithio gyda’r diwydiant cynhyrchu trydan; ac erbyn hyn wedi byw dros hanner can mlynedd yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr.
Roedd fy nhad, Rhys Jones, yn un o ddeg o blant a anwyd i Ann a Lewis Jones a fu’n byw, yn eu dyddiau cynnar, yn Taliesyn Terrace, a hynny cyn bod Jones Street a Fron Fawr wedi cael eu hadeiladu. Mae’n debyg mai “Y Gors” oedd yr enw lleol am yr ardal fach honno. Roedd yn y teulu bump bachgen, sef: Lewis, Bob, Ned, Ifan a Rhys a phump o ferched - Nellie, Janet, Jane Ann, Leusa (a fu farw’n ifanc), a Gaynor.
Jonestryd a Taliesyn Teras, a Fron Fawr ar y chwith |
Yn y cyfnod hwnnw, chwareli’r Blaenau oedd yn cyflogi y rhan fwyaf o’r gweithwyr lleol. Ac eto, roedd dinas Lerpwl yn ddylanwad mawr ar y rheini a oedd eisiau gwaith y tu allan i’r chwarel. Roedd Bob, Ned, Evan a Jane Ann ymysg y rhai a aeth am gyfnod i weithio yn Lerpwl.
Mae’n amhosibl croniclo popeth am y teulu, ond mae straeon bach am rai o’r digwyddiadau a ddaeth i’w rhan.
Symudodd y teulu wedi cyfnod, o Taliesyn Terrace rhyw ganllath i’r tŷ pen yn Jones Street. Ond doedd fawr o lwc; ym 1900, fe fu farw y tad, ar ôl damwain, ac yn ystod wythnos ei angladd, ganwyd iddo ferch fach. Yn ôl y sôn, cafodd y babi, Gaynor, ei bedyddio adref ger arch ei thad. Mawr oedd cydymdeimlad y cymdogion a’r gymuned, ac ysgrifennodd y bardd lleol R. J. Roberts, Tanrallt, benillion am yr amgylchiadau yma; ac yn nes ymlaen ysgrifennodd benillion eto am ddygnwch Ann Jones yn magu’r teulu ar ei phen ei hun.
Yn ddiweddar iawn, cefais amser i edrych yn fwy manwl drwy rai o ddogfennau’r teulu, a oedd wedi dod i lawr i mi ar ôl amser fy nhad. Ym mhlith y papurau roedd barddoniaeth R. J. Roberts, ac hefyd dogfen neu ddwy tra diddorol, gyda stori fach ynghlwm iddynt.
Wedi marw Lewis Jones yn 1900, a gadael deg o blant, roedd pethau yn anodd iawn ar y teulu. Erbyn 1903 roedd y mab hynaf, Lewis, yn cyrraedd ei ben-blwydd yn dair ar ddeg oed, a phenderfynwyd y cai fynd i weithio i’r chwarel. I gwblhau y trefniadau, roedd angen cael hawl swyddogol iddo adael yr ysgol, ac fe ddaeth y caniatâd ar ffurf y papur swyddogol y mae ei lun isod, i’w ganiatáu i ddechrau gweithio.
Mewn ychydig flynyddoedd, aeth Evan a’i frodyr, Ned a Bob, i Lerpwl i geisio sicrhau gwaith. Tra roeddynt yn y ddinas, torrodd y rhyfel byd cyntaf, a newid trefn bywyd pawb. Ym 1915, penderfynodd Ifan (Evan) wirfoddoli i ymuno â’r fyddin. Hefyd, yn eu tro, cafodd Lewis, Ned a Bob eu galw i’r fyddin, ac felly roedd gan Ann Jones, y fam, bedwar o feibion yn filwyr.
Er hyn i gyd, daeth y bechgyn i gyd adref yn saff. Fe fu Ann Jones fyw i weld ei theulu i gyd wedi tyfu, gyda phlant eu hunain, a phawb â pharch mawr at eu mam a’u nain.
Alun R. Jones (gynt o 5 Bryn Bowydd Newydd)
-----------------------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 2021
Llun- Paul W
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon