Un diwrnod cefais wahoddiad, gan ysgol fy ŵyr a’m hwyres, i siarad am fy mhrofiadau a’m teimladau yn blentyn yn ystod yr ail ryfel byd. Gan fy mod mor ifanc nid oeddwn yn gwybod y ffeithiau ac felly es ati i gael gweld llyfrau log ysgol neu ddwy.
Diolch i’r prifathrawon, cefais fynd i’r ysgol i gopïo peth o'r ffeithiau a gweld y penderfyniadau wnaed yr adeg hynny. Dyma rai o eitemau o lyfr log Ysgol Merched Maenofferen gan ddechrau ym Medi 1939. Diddorol sylwi mai yn Saesneg y cofnodwyd y cwbl heblaw am ychydig o eiriau yn Gymraeg ar ddydd Gŵyl Ddewi.
Yn wyneb y ffaith fod yr holl broblemau yn effeithio’r plant a’r athrawon, y mae’n rhyfeddol fod yr ysgol yn medru rhoi cystal addysg i’r genethod. Roedd y tywydd garw, a’r holl anhwylderau yn gwneud addysg yn anodd ond oherwydd gwaith da’r athrawon, y mae’n rhyfeddol fod cymaint o’r genethod wedi cael y marciau uchaf drwy sir Feirionnydd. Roedd y ferch a’r marciau uchaf yn y scholarship yn cael gwobr o ‘gini’ sef £1.1.0 -a merch o Ysgol Maenofferen oedd honno’n aml.
Dyma ychydig o ffeithiau a gofnodwyd o’r log:
3/09/39 Yr ysgol yn cau am wythnos pan ddaeth cyhoeddiad o Lundain i ddweud bod rhyfel ar ddechrau. Yr wythnos ddilynol ail agorwyd yr ysgol gyda naw merch ddiarth wedi eu cofrestru yn Ysgol Maenofferen - y naw wedi dod yma fel evacuees. Am y ddau fis dilynol ychydig a gofnodir ond bod amryw o blant ac athrawon yn dioddef o ddolur gwddw, tonsilitis, cwinsi a difftheria gan ddilyn i’r flwyddyn newydd - mwy o ddifftheria a'r clefyd coch.
19/01/40 Cafwyd eira trwchus dros nos ac yr oedd yn oer iawn. Y chwareli wedi cau a phresenoldeb y plant yn yr ysgol i lawr i 56%.
26/01/40 Tywydd oer a gwynt o’r dwyrain.
21/02/40 Epidemic o beswch a ffliw - plant ac athrawon. Gyrrwyd tair athrawes adra, a chafwyd gorchymyn i gau'r ysgol am wythnos (gan yr Awdurdod Iechyd).
04/03/40 Yr ysgol yn ail agor a’r nyrs yn dod i edrych os oedd yna blant eisiau ychwaneg o fwyd maethlon ("under nourished children").
14/05/40 Roedd y diwrnod hwn i fod yn ddiwrnod o wyliau, ond daeth gorchymyn oherwydd haint “rubella” (y frech goch).
26/09/40 Yr athrawon yn cael esiampl o’r cinio fyddai’r plant yn gael yn Festri Brynbowydd. (Roedd plant y tair Ysgol sef Merched, Bechgyn a Babanod yn cael cinio canol dydd yn Festri Capel Brynbowydd.) Roedd y babanod a merched Std 1 yn mynd i lawr i Frynbowydd am 11.10 a.m. ynghyd a Bechgyn Std 1. Yna am 11.40 a.m. aeth gweddill y genethod (61 ohonynt) (a gweddill y bechgyn mae’n siŵr). Cynnwys y cinio oedd “stew” a phwdin. Y pris oedd 3 ceiniog yr un bob dydd.
4/10/40 Cafodd 85 o enethod ginio drwy’r wythnos ond yr oedd y tywydd yn anarferol o wlyb a stormus. Roedd y merched yn wlyb domen yn cerdded yn ôl ac ymlaen i Frynbowydd, yn enwedig y rhai bach. Yna, am 1.20 p.m. clywsant y siren yn canu. (Roedd y ‘siren’ yn canu pan oedd unrhyw berygl i’w ganfod.) Roedd 155 o enethod yn bresennol. Pan ganai’r siren:
The bigger girls were scattered to different houses according to plan, while the other half took shelter in the 3 shelters provided by Education Authority in the playground.
(Fedra i ddim cael gwybod beth oedd y ‘plan’ ond fe gofiaf am un lloches yn iard y Genethod.) Ar ôl clywed yr all clear cafodd y genethod i gyd fynd adref gan fod rhan fwyaf ohonynt yn wlyb domen ar ôl mynd yn ôl a blaen yn y glaw.
24/10/40 Canodd y siren eto am 1.15 p.m. Caewyd yr ysgol a rhannwyd y plant i wahanol dai a’r 3 lloches oedd yn y coed. Chwarter awr yn hwyrach canwyd yr all clear a daeth pawb yn ôl i’r ysgol, ail ddechreuwyd y gwersi. (Rwy’n cofio mynd i lawr i’r maes chwarae tarmac i weld un shelter pan oeddwn yn y babanod. Roedd wedi ei wneud o fagiau tywod heb ddrws, a phan aethom ni i edrych arno roedd yr arogl yn eich taro chi. Roedd y defaid wedi cael modd i fyw yn cael lloches ac wedi baeddu ymhobman! Penderfynais yr adeg hynny y buaswn yn cymryd fy siawns tu allan yn rhywle na mygu yn y shelter!
18/11/40 Galwodd nyrs gyda bocs cymorth cyntaf at ddefnydd yr ysgol. Roedd un athrawes wedi cael tystysgrif mewn cymorth cyntaf a gadawyd y bocs yn ei gofal.
25/11/40 Cafwyd rholion o net (anti splinter). Rhoddwyd rhai ar y ffenestri a drysau Mr Williams oedd yn gofalu am hyn a’r athrawon a’r merched yn ei gynorthwyo.
20/11/40 Daeth gorchymyn o Ddolgellau i ddweud na ddylai tanau yn yr ysgol gael eu cynnau cyn 8.30 a.m. o dan y Blackout Regulations. Ysgolion i ddechrau am 9.45 a.m. tan hanner dydd a’r prynhawn o 1 o’r gloch tan 3.15 p.m.
13/12/40 Presenoldeb yn isel o achos epidemic o glwy’ pennau drwy’r ysgol ac amryw yn cwyno efo’r pâs.
07/01/41 Tywydd difrifol. Dim dŵr yn adeilad yr ysgol. Dŵr wedi rhewi yn y toiledau.
16/01/41 Doctor yma yn rhoi triniaeth i rwystro difftheria. Amryw o’r genethod wedi cael pigiad i wrthsefyll difftheria.
--------------------------------------
Detholiad yw'r uchod, o ran 1 y gyfres, a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 2017.
Llun Paul W
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon