Bnawn dydd Iau, Tachwedd 30ain, caed gweld agor y Ganolfan Iechyd o’r diwedd, a hynny bron bum mlynedd union ers i’r Bwrdd Iechyd, yn Ionawr 2013, bleidleisio i gau yr Ysbyty Coffa. Daeth y Gweinidog Iechyd Vaughn Gething i fyny’n unswydd o Gaerdydd i gynnal y seremoni ac roedd yr Aelod Cynulliad, Dafydd Elis Thomas, hefyd felly’n bresennol wrth gwrs, yn ogystal â Gary Doherty a Dr Peter Higson, Prif Weithredwr a Chadeirydd y Betsi.
Ar fyr rybudd, roedd criw o tua deugain wedi ymgasglu tu allan i’r adeilad, mewn protest dawel i bwysleisio unwaith eto, ar y rhai sydd mewn grym, bod ardal Stiniog yn haeddu’r un ystyriaeth a’r un gwasanaethau ag sy’n cael eu cynnig mewn lleoedd eraill ym Meirionnydd, megis Dolgellau a Thywyn, sef trefi sydd â phoblogaeth lawer llai na Stiniog.
Tra bod prif swyddogion y Betsi wedi treulio munudau lawer yn sgwrsio efo’r protestwyr, rhyw sleifio i mewn efo’r wal, gan wenu’n wamal, a wnaeth y Gweinidog a’n haelod ni yn y Cynulliad. Doedd ganddyn nhw, yn amlwg, ddim diddordeb yn ein pryderon ni fel ardal.
Ys dywed y Sais, ‘So what’s new?’
................................
Bu’r Pwyllgor Deisebau yng Nghaerdydd, sydd â chynrychiolydd o bob un o’r bedair blaid wleidyddol yn y Senedd, unwaith eto’n trafod pleidlais yr ardal hon i gael ward i gleifion, uned mân anafiadau a.y.y.b. yn ôl yma eto.
Mae’r bleidlais honno, a arwyddwyd gennych chi bobol yr ardal, wedi bod yn cael ei chadw’n agored gan y pwyllgor hwnnw ers dwy flynedd a hanner bellach, a hynny oherwydd nad ydyn nhw byth yn fodlon efo atebion y Bwrdd Iechyd i gwestiynau ac i bryderon y Pwyllgor Amddiffyn. Yn wahanol i bob un o’u cyfarfodydd eraill, doedd y cyfarfod diwethaf ddim yn agored i’r cyhoedd ond cawn le i gredu eu bod nhw, bellach, yn gefnogol i gael arolwg annibynnol i’r broses amheus a thwyllodrus o gau ein hysbyty yn ôl yn 2013.
..................................
Fel y soniwyd eisoes yn y golofn hon, bu’r Pwyllgor Amddiffyn yn galw hefyd ar Gyngor Gwynedd i gynnal arolwg annibynnol, ac mae’r Pwyllgor Craffu Gofal yng Nghaernarfon bellach yn pwyso ar Gabinet Plaid Cymru (sef y blaid sydd mewn grym yn y sir) i gytuno i wneud hynny. Hyd yma, fodd bynnag, digon anfoddog a negyddol fu’r ymateb o’r cyfeiriad hwnnw, er gwaetha’r cyfrifoldeb sydd ar eu hysgwyddau o dan Ddeddfau Llesiant (Well-being Acts) 2014 a 2015.
‘Fel Cyngor,’ meddan nhw, ‘ac fel partner pwysig i’r Bwrdd Iechyd, rhaid ymddiried bod y gwaith asesu gwreiddiol wedi cael ei wneud mewn modd cytbwys, trwyadl a theg.’
Golchi ei ddwylo wnaeth Peilat hefyd, gyfeillion, ond mae ei warth wedi goroesi’r canrifoedd serch hynny.
....................................
Yn ôl ei arfer, roedd y Pencerdd Price wedi bod yn brysur yn paratoi at y brotest trwy lunio cerdd i’w chanu ar alaw ein hanthem genedlaethol. Gwaetha’r modd, roedd y gwahoddedigion i gyd yn glustfyddar i’n hymdrech gerddorol ni. Rhy brysur, mae’n siŵr, yn gloddesta ac yn mwynhau lletygarwch y Betsi, pwy bynnag oedd yn talu am beth felly!
Felly, be am i chi, ddarllenwyr hynod gerddorol Llafar Bro, fynd-ati i’w chanu hi gydag arddeliad cyn mynd i glwydo heno? Neu, gwell fyth, be am i’r teulu cyfan ffurfio côr? (Awgrym tafod-mewn-boch, mae’n wir, ond pwy ŵyr na fydd rhai ohonoch chi am dderbyn y sialens!) -
Mae’r hen ’Sbyty Goffa yn annwyl i ni,
Trwy aberth ein dewrion y cawsom ni hi;
Ei gofal, ei gallu, ei chariad oedd fawr –
Pam, Betsi, ein gadael i lawr?
Gwlâu, gwlâu,....................................
Ein hangen ni yw gwlâu.
I’r claf gael parch, i’w glwyfau brau
O bydded i’n hymgyrch barhau.
Boed i 2018 fod yn Flwyddyn Llawn Iechyd i bob un ohonoch.
GVJ
--------------------------------
Erthygl o bron union dair blynedd yn ôl, pobl Stiniog yn gyrru neges glir i'r Bwrdd Iechyd: Taro'r Post i'r Parad Gl'wad
Gallwch weld hanes yr ymgyrch efo'r dolenni* isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
(*Ddim i'w gweld ar fersiwn ffôn -dewiswch 'View Web Version' ar y gwaelod)
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon