Cyfres achlysurol yn edrych ‘nôl ar rai o gymeriadau a sefydliadau hanesyddol ein bro. Gan W.Arvon Roberts.
Am dridiau ym mis Awst 1891, o’r 25ain i’r 27ain, cynhaliwyd yr eisteddfod uchod ym Mlaenau Ffestiniog, a hynny mewn pabell a gostiodd £250. Pabell o waith E.E .Evans, Betws y Coed a’i chodi yn Sgwâr y Farchnad. Yr oedd yn un yn dal dŵr, wedi’i ardduno’n wych ac arwyddeiriau i gyd yn Gymraeg, a digon o le ynddi i 6000.
Saith mlynedd yn ddiweddarach cynhaliwyd y Brifwyl Genedlaethol yn yr un lle, y tro cyntaf iddi ymweld â Meirionydd. Cafodd degau o filoedd egwyl hyfryd o’r chwareli i fwynhau eu hunain ym 1898, ac yn yr Eisteddfod Talieithol, llwyr ataliwyd y chwareli yn ystod gweithgareddau’r Ŵyl.
Am 5 o’r gloch, dydd Mawrth, yn hen Ysgoldy Dolgarreg Ddu, death cynulliad lluosog i wrando ar T.E. Ellis AS, yn areithio ar ‘Addysg yng Nghymru’, a’r Prifathro T.F.Roberts, Aberystwyth, ar ‘Deddf Addysg Rhydd’. Am 6.30pm yn Ystafelloedd yr Assembly, cynhaliwyd cyngerdd dan lywyddiaeth A.M.Dunlop. Cymerwyd rhan gan Miss Maggie Davies, Miss Eleanor Rees, Miss Maggie Williams; a’r Meistri Ben Davies, Ffrangcon Davies, W. Davies a Wilfred Jones. Y cyfeilwyr oedd D.D. Parry a J. Osborne Williams; Telynwyr – Eos y Berth ac Ap Eos y Berth a D. Francis; ynghyd a Côr y Moelwyn Glee Society a Seindorf Arian yr Oakley.
Erbyn dydd Mercher yr oedd y tywydd wedi gwella mewn cymharaieth â’r diwrnod gwlyb blaenorol; eto, yr oedd yn wyntog a’r cymylau uwchben yn fygythiol. Am 9.30 cynhaliwyd Gorsedd ar lawnt Bowydd, o dan arweiniad Gwilym Alltwen, yn absenoldeb Clwydfardd. Cyfansoddodd Alltwen englyn i’r achlysur:
O!’r hen Orsedd fawreddog – yma’r wyt
Yn mawrhau Ffestiniog;
Uwch meini llech, a maenllog- y Brython
A gario swynion ein gwersi enwog
Am 10.30 cafwyd tyrfa gweddol luosog yn y babell. Arewinwyd gan Cynonfardd (y Parch Thomas Edwards, 1848-1927) a ddaeth trosodd o Bensylfania i’r Ŵyl, gyda T.E.Ellis, Aelod Seneddol dros Feirionydd ar y pryd yn llywyddu.
Y buddugwyr oedd – cerflun derw gafr gyda’r arwyddair ‘Gwlad rydd a mynydd i mi’, gwobr 2 gini, T.Humphreys, Caernarfon; Hir a Thoddaidd y gorau o 42 ymgeisiwr , ‘Glanffrwd’ Elliseus Williams neu Eifion Wyn Porthmadog; Canu Penillion, ‘Ehedydd Môn’, gwobr o gini; cyfeithiad o ‘Merch Cae Melwr’, y gorau o 37, a gwobr o gini – Mr.Evans, brawd y newyddiadurwr, Beriah Gwynfe Evans; Cywydd ‘Y Gwaredwr’ neb yn deliwng; Cyfansoddi Pedwarawd D.D.Parry - 3 gini; Cyfansoddi Unwad, J.Thomas, Mochdre - 3 gini; Traethawd, ‘Awgrymiadau Ymarferol ar sut i gyfansoddi telynegion’ neb yn deliwng; Cân Ddisgrifiadol. ‘Y Ffair Gyflogi’, H.R.Abbey Williams Betws y Coed, a R. Williams (‘Marlwyd’) yn gyfartal – 2 gini.
Rhoddwyd gwobr o £15 a chornet arian gwerth 10 gini i’r seindorf orau a bu cystadlaeath rhwng seindyrf Llanberis a Llan Ffestiniog. Yn dilyn beirniadaeth Emyn Evans a John North, Huddersfield, y buddugwyr oedd Seindorf Llan Ffestiniog.
Yr oedd dau gôr yn cystadlu am y brif gystadleuaeth, Côr Undebol Caerleon 75 aelod, arweinydd J. Robinson, Côr Llanfyllin, 82 o aelodau, arweinydd T.Price. Y gân oedd ‘Canwn ganiad newydd’ o ‘Emmanuel’ Dr Joseph Parry. Côr Caerleon enillodd y wobr o £75. Traethawd ‘Yr eneth, y ferch a’r fam’, gwobr o 4 gini, buddugol Miss Annie Richard, Ysgol y Manod, allan o saith ymgeisydd. Deuddeg englyn, ‘Newyn’, H.Gwynedd Hughes yr orau, 3 gini.
Hollti llechi i rai dros 18 oed, gwobr 25 swllt, yn gydradd fuddugol W.Jones, Stryd Dorfil ac A.Henderson, Talysarn; ac i’r rhai dan 18 oed, W.Jones, Teras Picton, Blaenau, gwobr 15 swllt. Cafwyd cyngerdd rhagorol yn yr hwyr.
Yn yr Orsedd ar ddydd Iau, diwrnod olaf yr Eisteddfod, cafodd nifer eu hurddo yn feirdd ac yn ofyddion. Traddodwyd anerchiad ar yr orsedd yn ei hynafiaeth gan Thomas Tudno Jones (‘Tudno’), ac offrymwyd gweddi gan yr Esgob Daniel Lewis Lloyd, Bangor, i ddiweddu. Yna aed yr orymdaith fawr i gyferiaid y babell, gyda Seindorf Llan Ffestiniog yn arwain ar y blaen, lle roedd yr Esgob a Tudno yn llywyddu ac yn arwain.
Dyfarwnwyd hanner gini o wobr i Robert Roberts, Harlech, am y ffon ddraenen orau. Saith llath o frethyn cartref, buddugol Shadrach Jones, Tanygrisiau,
Ymgeisiodd 100 ar yr Englyn ‘Trais’, Gwilym Alltwen aeth a’r wobr o un gini. Traethawd ‘Mabolgampau’, yn gyd-fuddugol, ac yn ennill gini yr un, John Griffith, Llanfyllin, a D.R. Jones, Blaenau. Traethawd: ‘Dylanwad y Saeson ar y Cymry yn eu llenyddiaeth’, buddugol, gwobr 10 gini a thlws aur, John Roberts, Stryd Wesla, Blaenau Ffestiniog. Myfyrdraeth: ‘A marwolaeth ni bydd mwyach’, 4 gini, Tafolog a Tegfelyn yn gydradd. Datganu yr anthem: ‘Ynot Ti, O Arglwydd’, buddugol Côr Ffestiniog dan arweiniad H.Jones (‘Garmonfab’), gwobr £10.
Gwau sanau: Mrs Ann Jones, Soar, Talsarnau. Beirniadaeth ar y plu pysgota: enillydd Owen Williams, Stryd Leeds, Blaenau Ffestiniog, gwobr £1 a swllt. Cystadleuaeth arlunio digymorth: 1af – Idwal Owen Griffith, 2il John Owen, Llys Dorfil. Cystadleuaeth ‘Photographic Views of North Wales’, gorau, Mr Coatleigh, Amwythig.
Yn y munudau a ddilynodd disgynodd y glaw mor drwm fel y bu’n rhaid atal un cystadleuaeth a chanu ‘Hen Wlad fy Nhadau’. Awdl Bryddest y Gadair: ‘Abel’, gwobr o £20 a Chadair Dderw, buddugol o 21, Watkin Hezekiah Williams (‘Watcyn Wyn’).
Cynllun cwpan llechen o gwpwrdd tri darn, Richard E.Davies, Sgwâr y Parc, Blaenau, 2 gini. Cystadleuaeth canu ‘Martyrs of the Arena’ - ymgeisiodd pedwar côr – Llanidloes (arweinydd T.Phillips) 45 aelod; Newsham Park, Lerpwl (arweinydd G. W. Thomas) 39 aelod; Bethesda (arweinydd J.R.Jones) 46 aeold; a Blaenau Ffestiniog (arweinydd Cadwaladr Roberts), 36 aelod, rhannwyd y wobr o £15 rhwng y ddau olaf.
Bu’r cynulliadau yn lluosog ar hyd y dydd, a chafwyd cyngerdd unwaith eto yn yr hwyr yn cynnwys datganiad ardderchog o ‘Ystorom Tiberias’ (Stephens) gan y Côr dan arweiniad Cadwaladr Roberts. Swm y derbyniadau gan gynnwys y tanysgrifiadau oedd £1,164, oedd yn gadael £300 o elw.
---------------------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 2017.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.(Rhaid defnyddio 'web view' ar ffonau symudol).
Llun -Paul W
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon