22.4.16

Rhod y Rhigymwr -Rhagrith a Lludw

Rhan o erthygl Iwan Morgan, o rifyn Mawrth 2016.

Fel arfer, mae mis Mawrth yn un sy’n llenwi fy nyddiadur hefo galwadau i feirniadu yn eisteddfodau cylch a rhanbarthol yr Urdd, ond gan mod i wedi derbyn gwahoddiad i feirniadu’n y Genedlaethol yn y Fflint yn nechrau Mehefin, rydw i wedi cael sbario gosod a hyfforddi eleni.

Dyma gerdd amserol gan Dafydd Jones, Bryn Offeren. O glywed ar y cyfryngau’n feunyddiol am helyntion gwledydd y Dwyrain Canol a’r trueiniaid sy’n gorfod ffoi o’u cynefin oherwydd y fath erchylltra, mae’r delyneg gynnil hon yn ein hatgoffa o hynny:

Rhagrith
Azaz, Syria


Cyrff ar draeth, plant yn boddi,
Neb i’w cynnal, neb i’w noddi,
Mynnu elw, gwerthu arfau,
Diarhebu, cau llygadau.

Gwarth a thrais Abu Ghraib,
Brathu tafod, ofni enllib,
Gwaed diniwed plant Ffaluja,
Ddim o bwys, pell o adra.

Plygu pen ym mhinwydd Salem,
Cyfri’r casgliad cyn yr elem,
Adrodd hanes gwyrth Bethania,
Gwrthod sôn am drallod Gaza.

Diolch o galon, Dafydd, am ddwysbigo cydwybod pob un ohonom.

********

Bu i mi osod englyn i chi geisio dyfalu ei destun y mis dwytha:

Echdoe i gad o adar – bu’n drigfan
A llwyfan i’w llafar;
Ddoe yn ddu yn y ddaear
A heddiw’n hwyl i hen iâr.

Diolch i Elwyn o Wrecsam ac i Gwen o’r Wyddgrug am eu cynigion.

Mae Elwyn yn meddwl mai ‘yr hen dderwen ddu’ ydy’r testun, ac yn mynd nôl i ddyddiau ei blentyndod yn y Gwndwn, Talsarnau. Cofia glywed ‘côr y goedwig yn telori ar gangau’r goeden’, fel petai’n ‘clodfori’r wawr am oleuo’r dydd.’ Mewn nodyn hynod ddifyr, mae’n ein tywys  i ganol y 50au a’r 60au cynnar pan oedd ef a’i deulu’n diddanu mewn nosweithiau llawen hwyliog.

Mae Gwen yn nodi bod yr englyn yn disgrifio ‘tarddiad ffosil o goed, yna’r canrifoedd yn y ddaear (yn ei chrombil neu ar y brig). Wedi ei losgi, teflir y lludw allan ar y domen ... lle crafa’r iâr.’ Cynigia fel testun – ‘Glo’ neu ‘Mawn.’

Yn wir, mae’n hynod o agos. Noda ymhellach ei fod yn ‘englyn crefftus, cywrain, rhywiog ai fynegiant a choeth ei iaith’.

Ydy wir. Y diweddar Brifardd Dic Jones ydy’r awdur a ‘Lludw’ ydy’r testun.

--------------------------------------
Llun- gan Chistiaan Triebert -trwyddedir gan Wikimedia Commons


Y tro nesa: hanes Iwan yn trosi opera Donizetti – “L’Elisir D’Amore” i Gwmni Opra Cymru

Gallwch ddilyn y  gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon