10.4.16

O Lech i Lwyn -Cerdded y Mynyddoedd

Allan Tudor, Solihull, gyfrannodd erthygl i’r gyfres awyr-agored yn rhifyn Ionawr 1999.  

Fel llawer un arall, rwyf yn hoff o gerdded mynyddoedd Eryri, yn enwedig o gwmpas y Blaenau.  Nid wyf ddringwr, felly dewis llwybr i’r copa sydd yn weddol lyfn byddaf, ar wair yn hytrach na chraig.  Mae modd gwneud hyn ar nifer o fynyddoedd, megis y Moelwyn Mawr a Bach, Moel yr Hydd, Moel Siabod, a Moel Hebog. Gallai fod yn wnelo eu henwau rhywbeth â natur arwynebedd y tir arnynt.

O'r Moelwynion i'r Allt Fawr i'r Manod Bach. Llun Paul W
Go wahanol yw'r Glyder Fach, gyda’i choryn wedi ei gorchuddio gan domen helaeth o gerrig enfawr.  Fel pe bai rhyw gawr wedi eu gollwng yno.  Nid yw'n hawdd cyrraedd copa y Cnicht ar y llaw arall, heb ymbalfalu ar eich pedwar dros y canllath uchaf. 

Eto, mae Moel Ysgyfarnogod yn cael ei gyfrif gan gerddwyr priofiadol gyda’r mwyaf anodd ei esgyn, gan fod yr arwynebedd yn gymysgfa cymhleth o flociau o grit caled a grug trwchus.  Lle hawdd i fynd i drafferthion trwy fynd i hafnau rhwng y blociau a thorri coes. 

Er bod yr Allt Fawr yn weddol rwydd i’w cherdded o gyfeiriad y Crimea a Llyn Iwerddon, eto mae yr ochr ddeheuol ddigon peryg, gan fod y cloddio yn Chwarel yr Oakeley a Chwmorthin wedi gwanhau y graig ac achosi craciau dwfn a hir i ymddangos ar yr wyneb.  Gofal piau hi.

Mae pethau annisgwyl yn dod i’r golwg ar brydiau.  Cofiaf fynd i ben Moel yr Hydd, tua 1956.  Ar graig ar y copa yr oedd doli glwt wedi ei gosod.  Yr oedd wedi ei thrywanu a darn cul, miniog o lechen, fel cyllell.  Hen beth ddigon annifyr.  Tybed a oedd yna ryw arwyddocad arbennig i’r peth?  A oedd yn ymgais i roi swyn ar rywun tybed?

Mae copa y Moelwyn Bach yn le diddorol, wedi ei rannu yn glir yn ddau gyda newid sydyn yn natur y graig.  Mae’r darn uchaf, gogleddol, yn lechen o’r gyfres Glanrafon.  Hon sydd wedi ei chloddio yn y chwareli yn ymestyn o’r Parc drwy Groesor, Rhosydd, Wrysgan, Cwmorthin a’r Oakeley.  Ond mae’r ochr ddeheuol, sydd ychydig yn is, yn graig folcanig, lafa asid.  Mae hon yn galed iawn.  Ond mae’r tywydd dros yr oesau wedi effeithio ar wyneb y graig i wneud tyllau bychain crwn, fel pe bai y frech wen arni!  Hefyd, mae nifer o byllau o ddŵr wedi ffurfio rhwng y creigiau.  Mae’r cyferbyniad rhwng y ddau fath o graig yn drawiadol iawn.

Ar ymyl y clogwyn serth sydd yn wynebu i gyfeiriad Llan mae llechen fechan wedi gosod ar ei gwastad ar graig.  Mae o faint cerdyn post, ac arni mae y llythrennau ‘R a J’ wedi eu cerfio a’r dyddiad 1982.  Cofier nid ‘RAJ’ ond ‘R a J’.  Hefyd, mae saeth fechan arni yn anelu i gyfeiriad Llyn Morwynion, hynny yw ‘dwyrain-de-ddwyrain’.  Cofeb i rywun tybed?  Yn anffodus yn ddiweddar mae rhai wedi bod yn ei difwyno trwy grafu eu henwau arni.  Does dim yn cael llonydd, nac oes?

Ie, diddorol yw cerdded y mynyddoedd, does wybod be wel dyn nesaf. 
-------------------------------------------

Gallwch ddilyn y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon