29.6.14

Rhod y Rhigymwr- Morning Mêt!

Y golofn farddol, gan Iwan Morgan


Rhod y Rhigymwr: dyna enw’r golofn y bum yn ei rhedeg yn ‘Llais Ardudwy’ pan oeddwn yn byw yn nalgylch y papur hwnnw yn ystod y 1970au.

gwaith celf gan Lleucu G Williams
Ers i Rhian y Ddôl symud i fyw i’r Penrhyn, mae sawl un wedi bod yn holi tybed a fyddai rhywun yn bod yn gyfrifol am golofn farddol o fath yn Llafar Bro. Mae sawl un yn gweld eisiau ‘Y Llinell Goll’ yn ôl y dealla aelodau Pwyllgor ‘Llafar.’ Addewais i’r ysgrifennydd y byddwn yn ceisio llunio rhyw fath o golofn farddol fisol fydd yn cynnwys cerddi gan rai o’n darllenwyr, ychydig sylwadau diddorol am feirdd neu gerddi a chystadleuaeth bob yn hyn a hyn.

Be’n well i agor colofn gyntaf ‘Rhod y Rhigymwr’ na’r canlynol gan Dafydd Jones, Brynofferen? Mae’n edrych yn ôl ar ‘Stiniog ei blentyndod ac yn cofio’r hwyl a fu. Daeth llawer tro ar fyd ers y dyddiau llawen hynny.

'Morning Mêt!'

‘Dach chi’n un o bobol ‘Stiniog,
A ‘di byw yma ‘rioed?
Wedi chwarae’n ben Graig Ddefad
Chwara Indians lawr yn Coed?

‘Dach chi’n cofio’r holl gyngherdda
Fydda’n ‘rHall ers lawar dydd?
‘Dach chi’n cofio Siop yr Iard
Ac yn cofio Ifan Crydd?

A da chitha’n dal i gofio
Hwyl diniwad seti cefn
Yn Parc Sinema nos Sadwrn,
A’r rhai parchus yn deud drefn?

‘Dach chi’n medru cofio hefyd
Yr holl fobol ar y stryd
Ar nos Weenar y Tâl Mawr, -
Pobol ‘Stiniog yno’i gyd?

Tybad fedrwch chi fel finna
Gofio Taddie efo’i drol,
A chael cornet bach am ddima
A’i lyfu’n ara bach ddi-lol?

Ydy sŵn y sgidia hoelion,
Cyn ‘ddi wawrio, ar y stryd,
Sŵn cadernid a sŵn hydar,
Sŵn y sicrwydd oedd’n y byd?

Ydy hwnnw, sŵn y taro,
Sŵn y lleisiau’n tynnu coes,
Ydy petha rhyfadd felna’n
Rhan o gyffro bora oes?

Dechra meddwl felma ‘nes i
Bora ddoe wrth stesion Grêt,
Gweld rhwy ddyn a deud ‘S’mai!’
A hwnnw’n atab ‘Morning Mêt!’

*   *   *
Mae cyfeiriad eto yn y rhifyn hwn o ‘Llafar’ at Goron Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Ffestiniog 1898. Elfyn (R.O.Hughes), oedd yn byw yn y Barics, Llan Ffestiniog enillodd y gadair am ei awdl ‘Awen,’ ac mae’r stori am ei gyrchu mewn trol a cheffyl i’w derbyn yn adnabyddus.

R. Gwylfa Roberts, brodor o Benmaenmawr, oedd enillydd y goron am ei bryddest ‘Charles o’r Bala.’ Ymdriniwyd peth â chynnwys cerdd astrus Gwylfa gan olygydd rhifyn Mai. Fe enillodd ei ail goron genedlaethol yng Nghaerdydd flwyddyn yn ddiweddarach am bryddest - ‘Y Diddanydd Arall.’ Diau fod honno’r un mor astrus, ac yn nodweddiadol o arddull beirdd-bregethwyr y cyfnod. Roedd Gwylfa’n bregethwr ac awdur poblogaidd yn ei ddydd, a bu’n golygu cylchgronau’r ‘Diwygiwr’ a’r ‘Dysgedydd’ am gyfnod. Mae’n siŵr y clywch fwy amdano’n arddangosfa’r Gymdeithas Hanes.

*   *   *
Os oes gennych gerdd neu sylw perthnasol am faterion yn ymwneud â’r awen, mae croeso i chwi gysylltu â mi trwy Llafar Bro.

Gobeithiaf ddarparu tasgau ar eich cyfer yn ystod y misoedd i ddod.

            I.M.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon