24.6.14

Corn Gwlad

Rhannau o golofn 'Newyddion Seindorf yr Oakeley' o rifyn Mehefin

CYNGERDD COFFA EILIR
Yn gynharach eleni cynhaliwyd cyngerdd arbennig iawn yn Ysgol y Moelwyn i gofio’n annwyl am Eilir Morgan a fu farw’n frawychus o sydyn trwy ddamwain ychydig dros flwyddyn yn ôl.

Breuddwyd a dymuniad John Glyn Jones ac aelodau Seindorf yr Oakeley oedd y cyngerdd hwn er mwyn rhoi cyfle i ddathlu bywyd Eilir ac i ddiolch am ei gyfraniad i’w gymdeithas trwy ei ddoniau cerddorol a’i ddiddordeb yn y pethe.

Cafwyd perfformiadau gwych gan Seindorf yr Oakeley, Dylan Rowlands, Dewi Griffiths a Hogie’r Berfeddwlad a chyflwynwyd y cwbl gan John Glyn. Dyma artistiaid yr oedd Eilir wedi ymwneud â hwy mewn gwahanol gyfnodau yn ystod ei fywyd.


Ymunodd â’r band yn 11 oed a datblygu i fod yn aelod gwerthfawr a chyfaill agos i lawer o’r aelodau dros y blynyddoedd. Cafodd brofiadau lu gyda’r band trwy ennill yn yr Eisteddfod Genedlaethol a phencampwriaeth Cymru ar fwy nag un achlysur yn ogystal â pherfformio yn yr Albert Hall yn Llundain yn y flwyddyn 2000.

Bu Eilir yn aelod o ‘Hogie’r Berfeddwlad’ am bron i wyth mlynedd ac yn ystod y cyfnod yma, cafwyd llwyddiant yn yr Eisteddfod Genedlaethol a’r Ŵyl Ban Geltaidd yn Iwerddon ar fwy nag un achlysur.

Cyhoeddwyd ar ddiwedd y noson mai dymuniad y Seindorf oedd cynnig yr elw i’r Eisteddfod Genedlaethol er budd sefydlu naill ai gwobr neu ddarlith flynyddol yn yr Adran Wyddoniaeth er cof am Eilir. Gan mai Doethur dan nawdd cynllun ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a darlithydd yn Ysgol Gwyddorau’r Eigion Prifysgol Bangor ydoedd Eilir, teimlad aelodau’r Seindorf oedd y byddai cynnig gwobr goffa i’r Adran Wyddoniaeth yn hynod o addas.

Da yw cyhoeddi bellach y bydd swm o £1000 yn cael ei gyflwyno i Mr Elfed Roberts, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod yn Llanelli eleni. Diolch i bawb am eich cefnogaeth a’ch haelioni.
------------------------------------------------

Dathlu pen-blwydd Seindorf yr Oakeley yn 150 oed yn yr Ynys Werdd

‘Hir yw pob ymaros’ ac ar ddydd Sadwrn, Mai 3ydd am 6 o’r gloch y bore roedd aelodau Seindorf yr Oakeley yn cychwyn ar eu taith hir ddisgwyliedig i Tullamore, Swydd Offaly, Iwerddon. Roedd y bws yn llawn offerynnau glân, aelodau cysglyd a chefnogwyr brwd.

Trefnwyd y daith fel rhan o ddathliadau pen-blwydd y band yn 150 oed eleni, a phan ddaeth y gwahoddiad a’r cyfle i gludo ein doniau i’r Ynys Werdd pwy allai wrthod y cyfle?

Cafwyd cyngerdd gwefreiddiol ar y nos Sadwrn, gyda’r gynulleidfa yn gwerthfawrogi pob nodyn (a jôcs yr arweinydd!) ac yn synnu at y fath dalent ac at sgiliau cerddorol y band. Roedd eu canmoliaeth a’u hedmygedd o aelodau ifanc y Seindorf yn galondid ac yn destun balchder i bawb.

Un o uchafbwyntiau’r cyngerdd oedd datganiad gan dri aelod ifanc o’r band sef Gethin, Guto ac Ynyr yn canu alawon Cymreig fel triawd. Roedd pawb wedi rhyfeddu at eu dawn a’r merched ifanc yn y gynulleidfa wedi gwirioni! Tynnwyd lluniau ohonynt ar ddiwedd y cyngerdd ar lawer ffôn symudol gan eu ffans newydd.

Ar ddiwedd y cyngerdd, cafwyd cymeradwyaeth wresog a’r gynulleidfa i gyd ar eu traed yn gwerthfawrogi yr hyn a gyflwynwyd ar y llwyfan. Noson i’w chofio yn wir!



Aelodau ifanc y seindorf gyda'r ffyn Bando (hyrli, neu hurling) a gyflwynwyd iddyn nhw ar ol gwylio gem, ac i gofio’r ymweliad ag Offaly, gan Dr Brendan a Linda Lee.


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon