13.12.13

Llwyddiannau Ysgol y Moelwyn

Pen Bandits y Bandio
Er nad yw pawb yn cytuno efo'r dull o fesur llwyddiant ysgolion uwchradd yng Nghymru, hoffai Llafar Bro  longyfarch Ysgol y Moelwyn -yn dîm rheoli, athrawon, staff a disgyblion- ar ddod i frig y tabl bandio diweddaraf.

Rydym ni bobl Bro Ffestiniog yn gwybod ers nifer o flynyddoedd ei bod hi'n ysgol ragorol, ac yn ymfalchio ym mhob llwyddiant a ddaw i'w rhan, ond o, roedd yn wych clywed, gwylio a darllen yn y newyddion am safle'r Ysgol fel yr orau trwy Gymru gyfan. A meddyliwch: cafodd bawb arall glywed, gweld a darllen am lwyddiant Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog, hefyd!

Diolch am ddod a newyddion da a rhinweddau ein milltir sgwar ni i sylw'r byd!


Dyma ddarnau o golofn reolaidd Ysgol y Moelwyn: gallwch ddarllen y newyddion yn llawn yn rhifyn Rhagfyr.

Gwthio'r cwch i'r dwr..


Bu rhai o’r disgyblion yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth caiacio yn ddiweddar. 
Gruff Dafydd a gipiodd y wobr gyntaf i fechgyn blynyddoedd 10 ac 11; daeth Erin Jones yn ail yn ei ras i enethod blynyddoedd 7, 8 a 9; a Hannah Williams yn 4ydd yn ei rhagras hi. 

Anfonaf Angel

Enillydd gwobr Cerddor y Moelwyn eleni oedd Tomos Griffiths o flwyddyn 7 am ganu Anfonaf Angel gan Robat Arwyn, efo Osian Burrough (canu) a Jordan Evans (harmonica) yn gydradd ail, a Shani Roberts (canu) ac Elin Roberts (telyn) yn gydradd drydydd.




Noson Wobrwyo


Braf oedd gweld y neuadd yn orlawn ddiwedd Tachwedd, gyda disgyblion, rhieni, cyn-ddisgyblion a chyfeillion yr ysgol. Mae’r noson yn gyfle i ddathlu llwyddiannau ein disgyblion. 
                                                  Dim ond rhai o enillwyr y noson.
Eleni oedd yr ail dro i ni gyflwyno Gwobr Miss Eds i Awdur y Flwyddyn hefyd. Bydd yr enillydd Cadi Dafydd yn cael cyfle i dderbyn hyfforddiant pellach fel awdures a dymunwn yn dda iddi.

Yn y blogiad nesa, cawn erthygl gan enillydd cyntaf Gwobr Miss Eds.


Roedd Llafar Bro yno ar y noson hefyd, ac roedd yn hyfryd nid yn unig i weld y bobl ifanc yn casglu eu tystysgrifau (a'u tocynnau siopa), yn canu a pherfformio, ond roedd yn wych gweld yr ysgol a'r llywodraethwyr a chyfeillion yr ysgol yn cydnabod ymdrech a llwyddiant y disgyblion.

Llongyfarchiadau gwresog i bawb.

3 comments:

  1. Diolch am Llafar Bro, a diolch i bawb sy'n ymwneud â'r papur bro - y gorau yng Nghymru!!

    ReplyDelete
    Replies
    1. Diolch am eich geiriau caredig; mae'n braf iawn cael ymateb gan ein darllenwyr.

      Delete
  2. Anonymous5/2/14 21:42

    Llongyfyrchiadau I ti Elin Bach am gael wobr am chwarae y Delyn....Da iawn ti cariad bach...Dalia ati....Swsus mawri I ti a Llinos gan Dadi xxx..........Mae Dadi yn methu y ddwy ohona chi yn ddifrifol xxx

    ReplyDelete

Diolch am eich negeseuon