20.10.25

Stolpia- Chwarel Maenofferen

Pennod arall o gyfres Steffan ab Owain

Tra ar daith yn mynd heibio Chwarel Maenofferen yn ddiweddar synnais wrth weld cyflwr truenus y bonc a’r felin. Yn wir, methwn a chredu bod y lle wedi dirywio cymaint ers 1980 pan oeddwn yn gweithio yno.

Roedd y chwarel hon yn enwog yn ei dydd, ac yn yr 1860au roedd William Fothergill Cooke, Aber Iâ (Portmeirion heddiw), sef cyd-ddyfeisydd y telegraff trydan, yn un o berchnogion y cwmni. Dyna sut y cafwyd yr enw ‘Lefel Cooke’ ar y twnnel tanddaearol a naddwyd gyda pheiriant tynelu George Hunter yn ystod cyfnod W.F.Cooke fel cyfarwyddwr. (Diolch i Dylan Jones am y llun).

Datblygwyd y chwarel yn ystod y degawdau dilynol a bu’n eithaf llewyrchus gyda chynnydd sylweddol yn y cynnyrch, sef o ryw 400 tunnell yn 1861 i gymaint a 8,600 tunnell yn 1882, ac erbyn hynny, cyflogid oddeutu 430 o ddynion yno. Pa fodd bynnag, erbyn 1980au roedd wedi gostwng i ryw dri dwsin a daeth cloddio am lechfaen i ben yno ar ddiwedd yr 1990au.

Yn dilyn, ceir enwau rhai o’r sefydliadau a chwmniau a ddefnyddiodd llechi Chwarel Maenofferen tros y blynyddoedd i doi eu hadeiladau: Ysbyty Neilltuo (Isolation Hospital) Stanhope, Durham; General Omnibus Co Garages, Llundain; Pwerdy Trydan, Abertawe; Infantry Barracks, Aldershot; Swyddfa Bost y Fyddin, Regent’s Park, Llundain; Royal Carpet Factory, Wilton, Salisbury; Storfeydd Grawn y Llywodraeth, Caerdydd, Abertawe, Barri ac Avonmouth; Aircraft Factories, Waddon, Croydon, Machine Gun Factory, Burton,- a sawl lle arall. 

Towyd llawer o adeiladau y cwmniau rheilffyrdd canlynol, hefyd- London, Brighton and South Coast Railway; Great Northern Railway; Great Eastern Railway. 

 

Allforiwyd rhai i bedwar ban byd hefyd, e.e. British Residency, Penang, Malaysia; Club Building, Constantinople; Rheilffordd Orllewinol F.C. Ouset, Yr Ariannin; Neuadd y Dref, Copenhagen, Denmarc, ac amryw o leoedd eraill.

 

Rai blynyddoedd yn ôl deuthum ar draws y llun hwn yn hysbysu llechi’r chwarel mewn arddangosfa (O bosib yn yr 1930au) ond ymhle y bu hi tybed? Ysgwn i a oes un ohonoch chi yn gwybod ?

- - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2025




17.10.25

Manion o'r Manod- traffig a chwyn

Teithio trafferthus

‘Dwi wedi cael llond bol o drafeilio’n ôl a ‘mlaen rhwng Manod a Blaenau. Sawl un ohonoch sy’n teimlo’r yn fath? Ei bod yn mynd o ddrwg i waeth efo ceir yn parcio ymhob man ac yn ei gwneud yn anodd i deithwyr eraill basio’u gilydd.

Pam fod dim un arwydd ar y ffordd, neu ar hyd yr ymylon yn rhybuddio gyrrwyr i arafu, er enghraifft ar dro Tabernacl a Bethania. Cymharwch hyn efo llefydd eraill ar hyd yr A470, fel Dolwyddelan lle mae’r geiriau ARAF/SLOW a bandiau cochion yn ymddangos ar y ffordd mewn tua deg lle! 

Problem arall ydi’r darn rhwng y Wynnes ac Eglwys Holl Saint Cymru, lle mae llinellau dwbl melyn er mwyn sicrhau llefydd pasio diogel, ond nad ydyn nhw’n amlwg i yrrwyr diarth. Oes posib cael arwydd i dynnu sylw at y llefydd pasio hyn tybed? Be’ ydi barn ein cynghorwyr?

Hefyd, ger hen gapel Disgwylfa a’r safle bws, rydw i wedi bod o fewn modfeddi i gael damwain ddwy waith wrth basio cerbydau eraill. Tydi rhai o’r ceir sy’n teithio i gyfeiriad y Blaenau’n ddim yn arafu i weld oes oes cerbyd yn dod o’r cyfeiriad arall, ac mae angen llinellau melyn sydd o leiaf hyd tri char yno i wneud y safle’n fwy diogel. Gofynnaf yn garedig i’r cynghorydd sir i edrych i mewn i’r posibilrwydd o wneud hyn gan fy mod i’n poeni’n ofnadwy fod damwain yn mynd i ddigwydd yno.

Drain ac ysgall, mall ai medd... 

Mi fues i am dro yn ddiweddar, ar ddiwrnod ofnadwy o braf, i Dyddyn Gwyn, a thorri ‘nghalon o weld fod hen reilffordd y Blaenau i’r Bala wedi diflannu yn llwyr. Yr hyn welwch chi heddiw ydi tyfiant rhemp wedi gorchuddio’r cledrau a llwybr y rheilffordd. 


Pam o pam fedrwn ni ddim troi gwely’r hen lein yn llwybr diogel i gerddwyr a beicwyr? Mi fyddai hynny o les arbennig i’r dref ac i’r trigolion, ac yn golygu na fyddai raid i feicwyr gystadlu efo’r trafferthion teithio yr ydw i’n son amdanynt uchod. Ac wrth gwrs mae gennym siop yn Stiniog erbyn hyn -Beics Blaenau- sy’n llogi ac adnewyddu beics. Gobeithio y cawn newyddion yn fuan ar ddyfodol y lein!

Hapus Dyrfa 

Pleser, ar y llaw arall, oedd cael mynd am dro i ben Bryn Glas ar noson braf, a gweld y bwrlwm ar gae pêl-droed Cae Clyd. Dyma’r dorf fwyaf i mi weld yno ers tro byd, i weld y darbi lleol yn erbyn Penrhyn. Pob lwc i’r Amaturiaid y tymor hwn; maen nhw i weld yn gwneud yn dda yn y gynghrair uwch hyd yma. DR

- - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2025


16.10.25

Senedd Stiniog

Ambell bwt o newyddion o siambr y Cyngor Tref, gan Dei Mur a Rory Francis. 
(Pwysleisir mae barn bersonol y ddau gynhorydd a geir yma)

Yn anffodus, parhau mae’r trafferthion o amgylch y cae chwarae aml-ddefnydd MUGA, yn y Parc. Bu'n rhaid galw’r Cynghorwyr am gyfarfodydd anarferol sawl gwaith dros y mis diwethaf. Plant yn wyllt o fewn y cae yn cicio peli dros y ffens ac yn taro cerbydau’r cymdogion, hefyd yno’n hwyr wedi oriau agor y Parc. Mae’r Cynghorwyr oll yn cytuno fod hyn yn annerbyniol. Cytuniwyd i godi’r ffens o amgylch y cae, 2m pob pen ble mae’r goliau ac 1.2m ar hyd yr ochrau. Daw hyn a’r uchdwr at rhwng 14 – 16 troedfedd ar yr ochrau preswyl a’r cae bowls, fel yr awgrymwyd inni wneud.

Dechrau Awst, cafwyd agoriad swyddogol Perllan Pant-yr-Ynn a braf oedd cael gweld y lle yn ei ogoniant. Mae’r coed yn altro a’r planhigion lliwgar yn werth eu gweld. Daeth ambell i deulu lleol draw yn y prynhawn i fwynhau’r lluniaeth ysgafn a ddarpariwyd gan Seren, (drwy gronfa gymunedol Heddlu Gogledd Cymru), ac i eistedd ar y meinciau yn mwynhau heddwch byd natur. Dim traffig i’w glywed, dim ond trydar yr adar mân a mwmian y gwenyn. Pleser pur.

Nes ymlaen yn y mis cynhaliwyd y diwrnod teuluol blynyddol, ‘Hwyl yn y Parc’. Cafwyd ei gynnal eleni yng Nghae Chwarae Tanygrisiau. Bydd darllenwyr selog y golofn yn gwybod fod y Cyngor wedi cytuno i wneud yr wŷl yn un symudol, gyda’r rhesymeg fod pob rhan o’r dalgylch yn elwa ohono yn ei thro. Rhaid cyfaddef, bu’r ymateb gan drigolion Tanygrisiau yn bositif iawn, gyda sawl un yn falch o weld yr wŷl yno. Cafwyd dau ddiwrnod prysur dros ben mewn heulwen bendigedig. Braf oedd gweld pawb yn mwynhau gyda digon i ddiddori’r plant a’r oedolion. Rhaid diolch yma’n enwedig i’r clercod ac i’r is-bwyllgor, sef y Cynghorwyr Marc Griffiths, Morwenna Pugh, Mark Thomas a Peter Jones am eu holl waith caled yn trefnu a rheoli’r digwyddiad. Dwi’n siwr eu bod yn hapus iawn o’i weld yn lwyddiant ysgubol.


Yn ystod un o gyfarfodydd Gorffennaf, yn dilyn cynnig gan y Cynghorydd Dafydd Dafis, cytunodd y Cyngor i hedfan baner Palesteina. Nid yw cynghorau plwyf / tref i fod i ochri mewn digwyddiadau gwleidyddol, er dwi bron yn sicir imi weld baner yr Wcrên yn hedfan yn Niffwys unwaith hefyd. Ta waeth, roedd yn fwy o bleidlais moesol na gwleidyddol. Mae’r faner wedi ei gostwng a’i chadw o’r neilltu erbyn hyn. Cafwyd pedwar cwyn, ac iach o beth dwi’n meddwl oedd cael pobol yn ei thrafod, ac mewn tref o faint Stiniog ni ellid disgrifio’r weithred fel un sy’n ‘hollti’r gymuned’. 

Y Ddraig Goch a baner Palesteina dan y Garreg Ddu ac awyr las Stiniog. Llun Paul W

Maent yn dweud mae’r ffordd orau i anfad gael ffordd ei hun ydi i bobol dda wneud dim; ac er mor bitw oedd y weithred hon o chwifio’r faner, dwi’n hynod falch, yn hynod browd o’m cyd-gynghorwyr am eu penderfyniad dewr i wneud hynny.  ‘A’u llygaid llawn llwgu’, oedd un o linellau gorau Ymryson y Beirdd o’r Babell Lên imi o ‘Steddfod ‘Recsam eleni ond tybed beth oedd eich bloedd chi pan ofynnwyd y cwestiwn, “A Oes Heddwch?”    DMJ

Derbyniwyd llythyr oddi wrth Gyngor Gwynedd yn cynnig gwneud gwaith i wella lloches bws Heol Foty, ger swyddfa Gisda, ar yr amod fod y Cyngor Tref yn barod i gymryd cyfrifoldeb am yswiriant a chynnal a chadw’r lloches ar ôl i’r gwaith gael ei gwblhau. Roedd o leiaf un Cynghorydd am wrthod, ar y sail y dylai Gwynedd gynnal y lloches bws. Ond gytunodd y mwyafrif, ar y sail mai dyna’r drefn gyda’r llochesi bws eraill a bod trigolion yn haeddu cael lloches bws o safon os ydyn nhw’n aros am fws yn y glaw.
Derbyniwyd adroddiad gan Bensaer yn rhestru’r gwaith fyddai, yn ei farn o, yn angenrheidiol i ddod ag adeilad Pafiliwn y Parc i gyflwr addas i’w osod fel caffi unwaith eto. Ond yr oedd y Cynghorwyr yn pryderu am rai o’r cynlluniau. Ni fydden nhw, er enghraifft, yn darparu dau ddrws rhwng y gegin â thoiled. Cytunwyd, ar gais y Cyng. Dafydd Dafis i gynnal cyfarfod arbennig i benderfynu pa waith yn union y dylid ei wneud. 

Cyflwynwyd cais cynllunio gan gan Breedon Trading Limited i ymestyn y caniatâd i weithio Chwarel yr Oakeley tan 2065. Mi wnaeth y Cyng Peter Jones ddadlau y dylid cefnogi hwn ar y sail cadw swyddi. Mi wnaeth y Cyng Dafydd Dafis ymateb fod 2065 yn bell i ffwrdd, fod yna bryder wedi bod am lwch o’r ‘crusher’ ac y dylid craffu’n ddyfnach ar y cais. Yn y pendraw, penderfynodd mwyafrif y Cynghorwyr gefnogi’r cais. 
RF    
- - - - - - - 

Addasiad o'r erthygl a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi yw'r uchod.

 

15.10.25

Dyddiadur Is-y-coed

Colofn Rhod y Rhigymwr, gan Iwan Morgan, o rifyn Medi 2025

Bydd Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025 yn aros yn y cof am yn hir. Ces dreulio bron i wythnos lawn yn troedio’r maes eang a mwynhau amrywiaeth o weithgareddau. 

Dydd Sadwrn, 2 Awst:
Fel hen fandar fu’n ceisio chwythu’r iwffoniwm ym Mand Corris ers talwm, cefais flas ar wylio cystadlaethau’r bandiau ar y teledu. 

Da iawn chi Seindorf yr Oakeley ar ddod yn ail yn eich dosbarth! 

Nos Sul, 3 Awst:
Er bod Aled ein mab hynaf yn perfformio ar lwyfan y maes gyda Daniel Lloyd a Mr Pinc, dewis mynd i’r Gymanfa Ganu wnes i a gadael i Alwena a Rhydian fynd i gefnogi. 

Hoffais ddull di-lol Ann Atkinson o gyflwyno a chafwyd emynau a thonau oedd yn plesio’n fawr.

 

Dydd Llun, 4 Awst:
Bu’n rhaid codi’n fore i fynd i’r Orsedd, ac er mai yn y Pafiliwn y cynhaliwyd y Seremoni Urddo, roedd naws arbennig iddi dan arweiniad cadarn yr Archdderwydd Mererid. 

Mynychu darlith gan yr Athro Eurig Salisbury ar y bardd o’r 17eg ganrif - Huw Morys, Eos Ceiriog.
Croesawyd Prifardd newydd i’r llwyfan yn Seremoni’r Coroni - Owain Rhys o’r Tyllgoed, Caerdydd. Ei gasgliad o gerddi – ‘Adfeilion’ ddaeth i’r brig mewn cystadleuaeth a ddenodd 28 o ymgeiswyr. ‘Casgliad yn cyflwyno darlun tyner o sefyllfa sy’n wynebu cymaint o deuluoedd heddiw’ ydy’r casgliad yma’n ôl un o’r beirniaid, Ifor ap Glyn. Canu am ei fam, sydd bellach yn gaeth dan rwymau dementia wnaeth y bardd. A’r ‘fam’ arbennig honno ydy Manon Rhys - enillydd Medal Ryddiaith Prifwyl Wrecsam 2011 a Choron Prifwyl Maldwyn a’r Gororau 2015.

Dydd Mawrth, 5 Awst:
Dewis dilyn yr Eisteddfod ar y teledu wnes i, a rhaid ydy canmol yr arlwy. Roedd Heledd Cynwal a Trystan Ellis-Morris, ynghyd â Nia Roberts - y tri mor brofiadol bellach - yn cyflawni eu gwaith yn broffesiynol. Rhaid canmol Tudur Owen yn fawr hefyd

Dydd Mercher, 6 Awst:
Methu cyrraedd rhagbrawf yr unawd cerdd dant dan 21 oed mewn pryd oherwydd y traffig, ond cawsom gyfle i wrando ar ddatganiad Elain Iorwerth (Trawsfynydd) ar y llwyfan ac ymhyfrydu’n ei llwyddiant yn cipio’r wobr gyntaf am gyflwyno ‘Yn Genedl Drachefn’ ar y gainc ‘Gwyrfai

Derbyn croeso yng nghynulliad y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn y prynhawn pryd y dyfarnwyd Gwobr Goffa Eilir i academydd dan 40 oed am gyfraniad nodedig i faes y gwyddorau ac addysgu’r gwyddorau drwy’r Gymraeg. 

Dydd Iau, 7 Awst:
Mynychu cyfarfod yn y Tŷ Gwerin i anrhydeddu Mair Carrington Roberts. Mwynhau gwrando ar bedwarawd yn cyflwyno geiriau a gyfansoddais i Mair pan dderbyniodd Fedal Goffa T. H. Parry-Williams ym Mhrifwyl y Fenni yn 2016. Dyma ddetholiad: 

Ar aelwyd ddiwylliedig
Ym mhentre’r Gwynfryn gynt,
‘Roedd seiniau cân i’w canfod
Yn gordiau ar y gwynt;
Amlygwyd lle i gainc a gair,
Ac etifeddu hyn wnaeth Mair.

Ei medrau fel athrawes
Oedd gadarn fel y graig,
I’r Alban ac i Loegr
Y cariodd ‘dân y Ddraig;’
A phan ddychwelodd i’w hen dre
Rhoes fri i’r ‘Pethe’ yn y lle.

Llwyddiannau cenedlaethol
Yn gyson ddaeth i’w rhan,
Gwnaeth graen ei beirniadaethau
Argraff mewn llawer man;
Manteisiodd y rhai hŷn a phlant
Ar faint ei dawn ym maes cerdd dant.

Fe’i hanrhydeddir heddiw
Ar lwyfan ein Prif Ŵyl,
A braint i ninnau ydyw
Cael uno yn yr hwyl, 
A chael cydnabod yr holl waith
Gyflawnodd Mair dros gyfnod maith.

 

Dydd Gwener, 8 Awst:
Eto, oherwydd traffig trwm, bu i ni fethu â chyrraedd rhagbrawf y triawdau/pedwarawdau cerdd dant agored mewn pryd, ond bu i ni lwyddo i glywed y rhai ddaeth yn fuddugol – Ceri, Ruth a Siriol. Y darn prawf eleni oedd geiriau a gyfansoddais yn ôl ym 1977 ar ôl gwylio’r rhaglen ‘Children’s Pictures of God’. Fe’i gosodwyd ar y gainc ‘Gelli Lenor’ gan Einir Wyn Jones - un o blant Cwm Teigl: 

Pan baentio’r gwanwyn wyrdd yn nail y coed
A’r blodau’n garped lliwgar dan fy nhroed,
Pan brancio’r ŵyn ar hyd y twyni iach
Daw i mi lun o Dduw fel plentyn bach.

Pan daflo’r haul ei gyfoeth dros y tir
Yn fantell aur o erwau’r wybren glir;
Pan welaf lawnder haf yn llysiau’r ardd
Caf lun o Dduw fel llencyn ifanc, hardd.

Pan ddelo’r gwyll i ‘sbeilio ‘sblander pnawn,
A chnau y cyll yn eu cwpanau’n llawn,
Pan grino dail y deri dan fy nhroed
Fe fydd fy Nuw bryd hynny’n ganol oed.

Ond pan ddêl eira fel conffeti gwyn
I wledd briodas deg y ddôl a’r bryn,
A’r iâ i roddi bollt ar gân y dŵr,
Bydd Duw â’i farf yn llaes fel rhyw hen ŵr.         

Trefnais i gyfarfod â’m cyfaill Simon Chandler [Seimon ap Lewis] yn y fan ymgynnull yng nghefn y llwyfan cyn y Cadeirio.

Roedd y profiad o gael bod yn bresennol yn yr Orsedd i’r seremoni honno eleni’n un hynod o emosiynol pan gododd y bardd buddugol, Tudur Hallam, Foelgastell, Sir Gaerfyrddin ar ei draed. Awdl neu gasgliad o gerddi mewn cynghanedd gyflawn – ‘Dinas’ osodwyd yn destun. Yng ngheiriau Peredur Lynch, un o’r beirniaid, ‘fe ganodd gân o ddyfnderoedd isaf ei fod, a llunio awdl na ddymunasai erioed ei llunio’. Mae un arall o’r beirniaid, Llŷr Gwyn Lewis yn canmol y bardd ‘am ei ddewrder, ei onestrwydd, ei genadwri inni o le mor arswydus ac unig a fydd yn gysur calon i rai sydd yn mynd drwy brofiadau tebyg i’r eiddo ef ei hun.’

Dydd Sadwrn, 9 Awst:
Daeth naw o gorau meibion i’n diddanu ar y prynhawn Sadwrn olaf – ac yn eu plith, Côr y Brythoniaid dan arweinyddiaeth John Eifion. Er na ddaeth llwyddiant y tro yma, credaf iddyn nhw lwyddo i gyflwyno rhaglen amrywiol a heriol. 

I gloi gweithgarwch wythnos orlawn, pleser fu cael eistedd yn y Pafiliwn i fwynhau’r Epilog gyda John’s Boys a chantorion ifanc disglair eraill. 

- - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2025




14.10.25

Cwmorthin yn Hollywood?

Wel, ddim yn union! Ond dwi mor falch fod y ffilm opera newydd gan OPRA Cymru wedi cael cyfle i ymddangos fel rhan o Ŵyl Ffilm Ryngwladol Caeredin ganol Awst. Efo pedwar o ddangosiadau dros dri diwrnod, roedd ‘na ddigon o sylw iddi hi, a digon o bobl wedi ei mwynhau’n fawr iawn. 

Ie wir, opera newydd sbon, wedi ei chreu gan Gareth Glyn o Sir Fôn, ac wedi ei hysbrydoli gan olygfeydd o’r nofel enwog Caradog Prichard, ‘Un Nos Ola Leuad’. 


Golygfa o'r ffilm yng Nghwmorthin

Roedd OPRA Cymru wedi cael cefnogaeth ariannol gan Gyngor y Celfyddydau Cymru i fynd ar daith efo’r opera, ond oherwydd Cofid-19, roedd yn rhaid i ni roi’r gorau i berfformio’n fyw, a cheisio gwneud ffilm yn ei lle. Efo cefnogaeth cwmni cynhyrchu Afanti Media, comisiynwyd y prosiect gan Channel 4 ac S4C, a’r cam cyntaf oedd sesiynau recordio yng Nghaerdydd efo cast anhygoel o dda a cherddorfa WNO (Opera Cenedlaethol Cymru) yn ystod haf 2021. Ond o fewn blwyddyn, roedd y camerâu’n rholio yn Dragon Studios tu allan i Gaerdydd.

Erbyn cychwyn mis Hydref 2022, roedden ni wedi cwblhau rhyw 90% o’r ffilmio, ond, am resymau technegol, roedd rhaid i ni gael bach o seibiant. Dyna pam wnaethon ni ail-gychwyn y llynedd yng Nghaerdydd i saethu’r golygfeydd dramatig iawn wrth yml ‘Llyn Du’: llyn sydd wedi cael ei greu’n arbennig mewn stiwdio… ond sy’n edrych yn anhygoel o realistig ar y sgrîn. 

Ond beth am Gwmorthin? Wel, roedden ni’n chwilio am le tebyg iawn i amgylchoedd Bethesda, ond hefyd rhywle fyddai’n gallu awgrymu lleoliad o ffantasi’r awdur gwreiddiol: math o leoliad mae o’n ddisgrifio yn wythfed bennod y nofel. Dyma lle mae ’na weledigaeth Beiblaidd o’r Person Hardd – yr awdur ei hun? – sy’n cael ei ysbrydoli i ysgrifennu’i nofel gan Frenhines yr Wyddfa. Ac yn ein dehongliad ni, dyma grud ei greadigrwydd; rhywle yn agos iawn ‘at ddrws y nefoedd’. Pa mor hyderus ro’n teimlo, felly, pan wnaethon nhw ddewis Cwmorthin fel lleoliad mwyaf addas i ffilmio hynny! Y lle sydd yn cynnwys holl hanes y chwareli, ond hefyd yn rhoi blas i’n dychymyg ni… o nefoedd eu hunain.

Mae’r ffilm yn cynnwys cymaint o elfennau sydd fel arfer ddim yn gysylltiedig ag opera o gwbl: y peth cyntaf, yn amlwg, ydy’r ffaith ei bod yn bodoli mewn du a gwyn, sydd yn adlewyrchu ffilmau’r 50au; ac oherwydd tirwedd sain mor realistig, mae’r cantorion yn ymddangos fel pobl go iawn; hefyd, mae’r actio’n anhygoel o gynnil, ac felly ‘dach chi’n anghofio ar ôl dipyn eu bod nhw’n canu, achos bod popeth mor naturiol. 

Rywsut, mae’r ffilm yn newid y ffordd dan ni’n meddwl am opera: ac mae cwmni OPRA Cymru’n falch iawn ein bod ni wedi chwarae rôl yn hynny. 

Roedd hi’n fraint a phleser troi fyny yng Nghaeredin ar gyfer premiere y byd efo cymaint o gast a chriw, ‘roedden nhw mor falch o’u rôl yn y prosiect: cantorion fel Leah-Marian Jones, Shân Cothi, Elin Pritchard, Huw Ynyr, Sion Goronwy, a Robyn Lyn; a’r cyfarwyddwr Chris Forster, y cynhyrchydd Kirsten Stoddart; cyfarwyddwr ffotograffiaeth Ben Chads, a dylunydd Stephen Graham.  

Bydd y ffilm yn cael ei dangos mewn sinemau yng Nghymru yng nghanol mis Tachwedd efo lansiad cydamserol ym Mangor a Chaerdydd… ac yn sicr yn CellB! 
Fydd Cwmorthin yn mynd i Hollywood, felly..? Wel, pwy a wyr?!
Patrick Young

- - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2025