Erthygl gan Gwydion ap Wynn -Rheolwr Prosiect y Dref Werdd
Ar ôl llwyddiant Cynefin a Chymuned i Blant llynedd, mae’r Dref Werdd wedi mynd ati’n ôl i drefnu mwy o sesiynau ar gyfer plant Bro Ffestiniog yn 2017. Wrth aros gyda’r egwyddorion o ddysgu am gynefin, amgylchedd a hanes, fe aeth y criw i’r Ysgwrn i ddechrau’r cwrs newydd.
Fel y gwyddoch, mae datblygiadau sylweddol wedi bod ar y safle’n ddiweddar, dan oruchwyliaeth Sian Griffiths, o’r Parc Cenedlaethol, i fod yn barod erbyn y canmlwyddiant.
Aeth y criw i Drawsfynydd i blannu ffrwythau yng ngardd y Prifardd enwog ac i ddysgu am yr holl ddatblygiadau sydd wedi digwydd yno. Fe blannwyd coed afalau, cyrens duon, cyrens cochion a bylbiau cennin Pedr. Mae Cynefin a Chymuned yn awyddus i ddysgu’r bobl iau sut i blannu pethau ac wedyn am y cyfrifoldeb sydd ganddynt fel unigolion i warchod y planhigion ynghŷd â’r byd naturiol o’u cwmpas.
Mae’r Ysgwrn yn adlewyrchu sut y bu’r Cymry’n byw ar ddechrau’r ugeinfed ganrif ac yn galluogi i ymwelwyr gamu’n ôl mewn amser i edrych ar hanes llenyddiaeth, ac ar agweddau cymdeithasol ac amaethyddol. Wrth ymweld â hen gartref Hedd Wyn, cafodd yr ieuenctid ddysgu am fywyd eu cyndeidiau a deall beth maent wedi ei etifeddu fel Cymry Cymraeg.
Mae criw Cynefin a Chymuned yn ceisio am Wobr John Muir eleni, sefydliad sydd yn awyddus i’r genhedlaeth nesaf ymfalchïo mewn diwylliant lleol, a darganfod profiadau newydd. Mae’r criw ifanc nawr am fynychu sesiynau fydd yn rhoi iddyn nhw amrywiaeth o brofiadau gwahanol gan gynnwys sesiwn chwilota am fwyd, gwyllt-grefft, mynydda a llawer mwy.
Fe hoffai’r Dref Werdd ddiolch i bawb fynychodd ar y diwrnod ac edrychwn ymlaen i weld y safle’n ôl yn ei ogoniant.
-----------------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ebrill 2017.
28.6.17
25.6.17
Dau o Llan yn Siapan
Hanes Erin Maddocks ac Elfed Evans, a ymddangososdd yn wreiddiol yn rhifyn Ebrill 2017.
Penderfynais i a fy ngŵr Rich symyd i Japan am 6 mis i fyw a gweithio mewn pentref sgïo yno. Ar ôl misoedd o safio a thrip i'r llysgenhadaeth yn Llundain i gael ein Visas, gadawsom ein fflat i ddechrau ar ein taith i Niseko, pentref bychan yng ngogledd Japan.
Dyma’r ail dro i ni fynd ar daith tebyg. Yn ôl yn 2013, treuliodd y ddau ohonom 8 mis yn byw yn Banff yng Nghanada, ac roeddem ni’n awyddus i gael byw yng nghanol yr eira unwaith eto. Penderfynom y byddai'n ddiddorol gweithio ar dymor sgïo arall, ond mewn gwlad wahanol, a dyna sut y daethom i fyw yn Japan. Ro’n i wrth fy modd yn Banff, ond dwi'n ddiolchgar iawn bod Niseko ddim cweit mor oer; dim ond -15 yw’r tymheredd isaf yn hytrach na -40.
Mae ein bywyd o ddydd i ddydd yma yn ddigon syml; allan i eirafyrddio yn y boreau, powlen o ramen (cawl nwdls cynnes) i ginio, cyn mynd i weithio yn un o'r gwestai lleol gyda'r nos a phicio am beint neu ddau ar y ffordd adra. Mae Niseko yn le hyfryd tu hwnt a gallaf weld golygfa ffantastig o'r llosgfynydd Yotei drwy ffenest ein tŷ. Mae'r lle i gyd o dan lwyth o eira ar y funud ond mae’r gwanwyn ar ei ffordd, a bydd blodau pinc y coed ceirios yn dechrau blaguro.
Tra mae’r gwesty’n dawel, rwy’n ceisio defnyddio'r amser i ddysgu ychydig o frawddegau Siapaneaidd; mae'r merched lleol sy'n gweithio gyda mi yn athrawon gwych. Mae hi'n fyd bach iawn, gan fy mod wedi dod ar draws cwpwl o Gymry yma, yn bennaf Elfed Evans o Ffestiniog, neu Elvis Kebabs fel mae pawb yn ei adnabod yma. Mae'n braf gallu mynd draw i'w weld bob hyn a hyn am sgwrs a kebab!
Mi fyddwn ni'n gweithio yma tan ddiwedd y tymor, cyn symyd ymlaen i weld cymaint o weddill y wlad ag sy'n bosib, ac rwy’n edrych ymlaen at gael blas o ardaloedd eraill Japan. Cefais gyfle i ymweld â Tokyo ym mis Chwefror ac er ei fod yn le mor brysur, dwi erioed wedi teimlo mor saff mewn dinas mor fawr. Mae’r bobl yma yn hynod gyfeillgar a chroesawgar, ac yn barod i helpu unrhyw deithiwr bach sydd yn edrych braidd ar goll!
----------------------

Mae Elfed yn fab i Huw a Bethan Evans, Garreg Lwyd, Llan Ffestiniog ac wedi bod yn gweithredu busnes gwerthu gwahanol fwydydd cyflym o’i fan teithiol mewn gwahanol rannau o Siapan ers sawl blwyddyn bellach.
Mae’n dueddol o dreulio tymor yn y gwahanol rannau yma o Siapan a digwydd bod mai yn Niseko y mae wedi treulio’r tymor diwethaf yma.

22.6.17
Stolpia -Difyrwch Hen Ddyddiadur
Pennod arall o gyfres Steffan ab Owain, y tro hwn o rifyn Ebrill 1991.
Dyddiadur Hen Frodor o’r Llan:
1845
Ionawr 1: Neb yn pregethu yn Saron.
Ionawr 2-4: Eira mawr. Lluwch mawr, y lluwch mwyaf a welais yn fy oes.
Mai 2: Claddu John Leias, llosgodd yn y Gloddfa Ganol.
1857
Rhagfyr 17: Claddu geneth fach Andro Elisabeth o’r Ffynnon Ddŵr.
1860
Hydref 22: Yn Saron, bedyddio geneth fach Kiti, Tŷ Llyn y Morwynion.
1867
Mawrth 8: Marw Robert Jones, Tynyfedwen.
Mawrth 9: Marw ei wraig, eto.
Rhagfyr 19: Agor Capel Utica ar ôl ei ail-fildio.
Dyddiadur Gwraig o Danygrisiau:
1867
Medi 22: Agorwyd Capel newydd yn Cwmorthin. Llawenydd yw gweld fod yr Efengyl yn ennill tir yn ddistaw yn ein gwlad. Gwthia i gilfachau pellaf yr hen fynyddoedd yma.
1868
Mehefin 25: Cynhaliwyd Cymanfa Gerddorol Drws Ardudwy yng Nghastell Harlech. Yr oedd yno 16 o gorau cymysg. Y cyfarfod cyntaf yn dechrau am ddeg yn y bore, a chanwyd yr emyn ‘Mae’n llond y nefoedd, llond y byd.’
1870
Mai 30: Bu Miss Rees, ‘Cranogwen’, yn areithio yn Nhanygrisiau. Y testun oedd, ‘Yr ieuenctid a diwylliant eu meddwl’.
Dyddiadur Hen Weithiwr o Danygrisiau (Cyfieithiad):
1879
Ionawr 25: Prynu siwt newydd o ddillad gwerth £3.12s.0.
Mawrth 29: Cyngerdd yn y Neuadd gan Barti Llywelyn, Dolwyddelan
Mai 26: John Edno Roberts yn rhoi darlith ar Raeadr Niagra cyn ei ymadawiad i’r America.
Mehefin 10: Gofyn i Mr Downing am fenthyg sied y Rheilffordd i gynnal yr Eisteddfod.
Tachwedd 15: Gosod carreg sylfaen y Capel Saesneg. Yn bresennol yno roedd J. Roberts A.S., J.E. Geaves, a Dunlop.
Dyddiaduron Ioan Brothen:
Dechrau gweithio yn Rhosydd Mai 22, 1888 hyd Gorffennaf 1982.
Tywydd poeth o tua 20fed o Fawrth 1893 hyd ddiwedd Mehefin.
Pla o lindys hyd goed 1893 a 1894.
Medi 11, 1897 – ar ben yr Wyddfa.
Dyddiadur hen chwarelwr
Allan o un o ddyddiaduron diddorol Daniel Williams, Dolwyddelan y daw y rhai nesaf:
1903
Ionawr 8: Gwrthodwyd trwyddedu y dafarn - Glan y Gors heddiw.
Ionawr 26: Clywed bod saith o blant wedi marw o’r frech goch yn ‘Stiniog dydd Sadwrn diwethaf a phump heddiw.
Chwefror 21: Prynu gwasgod felfared gref am 2/11 a thebot am 6 a dimai
Gorffennaf 31: John, mab Ann Jones, wedi dyfod adref am dro o Batagonia
Medi 9: Llifogydd mawr wedi gwneud llanast ymhobman. Helynt rhwnt I.. a’i wraig. Mae am fyned i Merica a gadael yr hen globan.
Medi 21: Johnny bach wedi cael hogyn am y tro cyntaf.
Medi 30: Bod yn Lerpwl a gweled cerbydau yn rhedeg gydag electric. Ceffylau a’u tynnai pan oeddwn yno o’r blaen.
Hydref 7: Cerrig mawr wedi llithro i’r heol o glogwyn Bwlchygwynt
-----------------------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ebrill 1991, yna yn llyfr ‘Pigion Llafar 1975-1999’, ac yn fwyaf diweddar yn rhifyn Ebrill 2017 yn rhan o'r gyfres Trem yn Ôl.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y cwmwl geiriau ar y dde.

Labels:
Bwlch y Gwynt,
capel Saesneg,
Capel Utica,
Chwarel Rhosydd,
Cranogwen,
Cwmorthin,
cymanfa,
dyddiadur,
eira,
frech goch,
Ioan Brothen,
lindys,
llifogydd,
lluwch,
Pigion Llafar,
Stolpia,
Trem yn ôl,
tywydd
15.6.17
Stiniog a'r Rhyfel Mawr -Brwydr Gaza

Daeth y newyddion drwg drwy'r wasg o golledion mawr ymysg milwyr o 'Stiniog, yn ystod brwydr Gaza, yn y Dwyrain Canol ar yr 20fed o Ebrill 1916. Enwir y saith milwr a laddwyd yn adroddiad y North Wales Chronicle:
Sarjiant Richard Davies, Bron Barlwyd;Yn ychwanegol i'r uchod, yr oedd 19 arall o'r fro hon wedi eu clwyfo, ac mae'n debygol mai dyma'r nifer uchaf o golledion a ddaeth gerbron milwyr o'r dref hon mewn un frwydr yn unrhyw ran o'r Rhyfel Mawr.
Is-Gorporal J.E.Lloyd, watchmaker, Stryd Fawr;
Preifat R.Ellis, Bryn Twrog, Glanypwll;
Preifat H.O.Parry, Bryn Awel, Tanygrisiau;
Preifat John Thomas, 120 Ffordd Manod;
Preifat David Ellis, 96 Stryd Fawr; a
Preifat Bob Powell, Dwyryd House.
Yr oedd y newyddion drwg o golledion ar y ffrynt yn cyrraedd tudalennau'r wasg yn wythnosol, ac yn wir, yn cynyddu fel yr elai'r rhyfel ymlaen. Un o'r milwyr lleol a gollodd ei fywyd ar ddechrau mis Mai oedd Hugh Granville Williams, a gwympodd yn Ffrainc ar yr 8fed o Ebrill. Lluniodd y bardd Bryfdir gerdd er cof amdano:
Ymrestru wnaeth heb gyfrif
Y gwaith yn ormod tasg,
A chafodd fedd mewn dalar oer
Dan wenau loer y Pasg;
Ei gyfoed yn Ffestiniog
A ganant lawer cainc
O glod i'r bachgen, gwrol fryd
Sydd heddiw'n fud yn Ffrainc.
Trist iawn oedd darllen hanes rhieni milwr o’r ardal yn derbyn llythyrau gan eu mab, rhai dyddiau wedi iddynt dderbyn y newyddion drwg ei fod wedi ei ladd yn y brwydro. Mae geiriau’r Preifat Bob Powell, Dwyryd House yn y llythyrau Saesneg i’w fam a’i dad yn ddirdynnol. Ac yntau wedi ceisio cysuro’i rieni ei fod yn hollol saff, ac yn ffyddiog y byddai’n goroesi’r rhyfel, roedd y newyddion drwg o’i golli wedi cyrraedd o flaen y llythyrau hynny.
"Rhaid oedd imi gadw’r llythyr, i aros i’r mail fynd" meddai, gan gyfeirio at Jack Griffith, Ffordd Cwmbowydd, ei bartner cwsg, chwedl yntau. Cyfeiriodd hefyd at "Meirion, Library, yn y dug-out nesaf ataf. Mae’n hynod boblogaidd, ac yn ddoniol, a gelwir ef ‘Yr Hen Berson'."
Gyda’i ffydd yn ei Dduw yn dal yn gadarn, roedd yn hyderus iawn gyda’i eiriau dilynol:
"Mae newyddion da am y rhyfel wedi dod yn ddiweddar, ac yn rhoi ysbrydoliaeth inni wrth glywed hynny. Fedrai ddim disgrifio’r teimlad pa mor falch oeddwn o ddeall eich bod yn hyderus y caf fy achub. Ni fum yn amau hynny erioed, ac wedi rhoddi fy hun i ofal Duw ers tro, a byddaf yn gweddïo’n aml Gorchuddia ‘mhen di-amddiffyn/ Gyda chysgod Dy adain."
Dyddiad y llythyr hwnnw oedd yr 2ail o Fawrth, 1917. Ymhen pythefnos, roedd wedi anfon llythyr arall, ei olaf i’w deulu, dyddiedig 16 o Fawrth. Roedd cynnwys hwnnw hefyd yn llawn gobaith a hyder am gael dod trwy’r brwydro’n saff. Cynhwysir isod y rhan olaf o lythyr Bob Powell i’w rieni yn y Blaenau.
"Nid oes angen ichi boeni fy mod mewn unrhyw beryg’, oherwydd ein bod ugeiniau o filltiroedd o unrhyw frwydro. Mae’r Almaenwyr a’r Twrcïaid yn encilio. Mae hyn yn arwydd da fod diwedd y rhyfel yn agos."
Ychydig wyddai Bob ar y pryd mai diwedd ei fywyd ef oedd yn nesáu, ac nid diwedd y rhyfel. Ac wedi diolch am roddion a dderbyniwyd ganddo, a chofion at ei nain ac eraill, gorffennodd ei lythyr megis "Hoping you are keeping well and happy same as myself, Tons of love, Bob."
Bu farw y Preifat Bob Powell, Dwyryd House o anafiadau a dderbyniodd ar faes y gad yn Gaza, ar 28 Mawrth 1917.
------------------------------------
Ymddangososdd yn wreiddiol yn rhifyn Ebrill 2017. Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
Pabi gan Lleucu Gwenllian
13.6.17
Stolpia -Dŵr Llyn Manod
Rhan o ysgrif reolaidd Steffan ab Owain
Difyr oedd darllen adroddiad am gael Bwrdd Iechyd Lleol i’r ardal ym mhapur newydd Y Dydd (Mehefin 16, 1876) a’r gohebydd o’r un farn â llawer un arall mai dŵr Llyn Manod oedd y gorau yng nghymdogaeth Ffestiniog.
Dywed hefyd fod angen Bwrdd o’r fath cyn y gellid symud sawr afiach y tomennau (sbwriel), cabanau moch ac ysgarthion ffosydd heintus. Ychwanega y bydd hi’n ofynnol i’r aelod a benodwyd yn Demlwr Da, yn Rhyddfrydwr trwyadl ac yn meddu ar ddigon o annibyniaeth meddwl ac amgylchiadau i wneud ei ddyletswydd heb ofni gwg, yn ogystal a bod yn Gymro da o ran ei allu i siarad y ddwy iaith, yn ŵr cymwys i ymresymu ac i wrando ar reswm ar unrhyw fater.
Tybed pwy all ddweud wrthym pwy a gafodd y swydd?
-----------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ebrill 2017. Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

![]() |
Llun gyda diolch o wefan Cymdeithas Enweiriawl y Cambrian |

11.6.17
O'r Pwyllgor Amddiffyn
Bydd y Ganolfan newydd yn agor gyda hyn, meddan nhw, a hynny flwyddyn a mwy ers i Ysbyty Tywyn weld agor ward 16-gwely ac adran pelydr-X newydd sbon.
Ond peidiwch â phoeni!
Yn ôl swyddogion y Betsi, ac ambell un arall yn lleol, mae pethau gwych ychwanegol yn ein haros ninnau hefyd – sef llu o ystafelloedd ymgynghori a fydd yn wag ac yn segur am y rhan helaethaf o bob wythnos, a rhes o swyddfeydd ar y llawr cyntaf yn hawlio’r olygfa wych dros Gwmbowydd; golygfa a fwriadwyd gan y cynllunydd gwreiddiol, Clough Williams Ellis, ar gyfer cleifion yn gwella o’u hanafiadau a’u salwch.
Ydi, mae’r blaenoriaethau wedi newid llawer ers i’r Betsi ddod i rym!
Ers 2009, pan ddaeth y Betsi i rym, mae’r Pwyllgor Amddiffyn wedi gadael i ddarllenwyr Llafar Bro wybod, o fis i fis, am bob cam o’r frwydr yn erbyn cynlluniau’r Bwrdd Iechyd. Cawsoch glywed am ein cyfarfodydd nid yn unig efo Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ond hefyd y Cyngor Iechyd Cymunedol, Aelodau Cynulliad yng Nghaerdydd, Comisiynydd yr Henoed yng Nghymru, a sawl unigolyn arall.
Fel y medrwch ddychmygu, mae’r ohebiaeth a fu dros y blynyddoedd yn doreithiog iawn erbyn heddiw a gyda hyn bydd cyfle i bwy bynnag sy’n dymuno, bori’n ddigidol drwy’r cyfan yn archifdai a llyfrgelloedd y sir.
Yn y cyfamser, diolch eto i’r niferoedd ohonoch sydd wedi cefnogi’r ymgyrch dros y blynyddoedd ac sy’n parhau i wneud hynny hyd yn oed mor hwyr â hyn yn y dydd.
GVJ
------------------------------------
Addaswyd o erthygl a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 2017

3.6.17
Ffarwelio a Diolch
Wedi nifer o flynyddoedd ar y safle yng nghanol y dref, daeth diwedd ar wasanaeth Swyddfa’r Post. Yn ffodus, ni fydd y post yn diflannu’n gyfangwbl, fel y gwnaeth banciau’r ardal yn ddiweddar, oherwydd i siop Eurospar, ger y Parc gymryd y cyfrifoldeb am y gwasanaeth. Llawer o ddiolch i Gwynn Jones, y postfeistr a’i staff am eu gwasanaeth cwrtais a chymwynasgar dros y blynyddoedd.
Dechreuoedd Gwynn fel postmon 43 blynedd yn ôl, ac wedi 4 blynedd o droedio’r strydoedd, penderfynodd fynd 'tu ôl i’r cownter’ yng nghangen Swyddfa’r Post yn Llanrwst. Yn 1978, wedi chwe mis yn Llanrwst, daeth y cyfle i ddod i weithio i gangen y Blaenau, dan ofal y postfeistr ar y pryd, y diweddar Gwynfor Francis. Y clercod eraill ar y pryd oedd Wil, Llys Morfa, Megan Powell a Margaret Einion. Eraill a fu’n gweithio ar gownter y post hefyd oedd Keith Owen a Megan Jones. Yn ddiweddarach ymunodd Gillian â’r gwasanaeth, a da yw cael dweud y bydd hi yn cario ‘mlaen gyda’i dyletswyddau yn y post newydd. 22 mlynedd yn ôl, penderfynodd Gwynn a’i briod, Margaret gymryd y cyfrifoldeb o’i rhedeg. Bellach, penderfynodd y ddau ei bod yn amser ymddeol, a chael treulio mwy o amser gyda’r teulu.
Dymuna Gwynn a Margaret ddiolch i bawb am ei cefnogaeth dros y blynyddoedd. Dymunwn ninnau, fel ardalwyr ddiolch eto i’r ddau ohonoch am eich gwasanaeth gwerthfawr drosom. Dyma gyfle i ni ddweud diolch am y gwasanaeth ‘Dosbarth Cyntaf’ a dymuno ymddeoliad hapus, haeddiannol, a hir oes i’r ddau ohonoch! Ar yr un pryd, dymunwn lwyddiant i’r Swyddfa Bost ar ei safle newydd.
* * * * *
Ar ôl 26 mlynedd yn gwasanaethu fel fferyllydd yn siop D. Powys-Davies, fe ymddeolodd Andrew Martin. Graddiodd fel fferyllydd yng Nghaerlŷr. Roedd ei swydd gyntaf yn Banbury, cyn symud i Birmingham am bedair blynedd. Yna treuliodd chwe mlynedd ym Mangor, cyn dod i'r Blaenau yn 1991.
Hoffai ddiolch i holl staff y fferyllfa am eu gwaith caled a chydwybodol dros y blynyddoedd. Diolch hefyd i staff y Feddygfa ac i Bryn Blodau am eu cydweithrediad a'u cefnogaeth. Yn bwysicach na dim, diolch o galon i holl gwsmeriaid y Blaenau a'r cylch am eu ffyddlondeb. Dymuna’n ogystal bob llwyddiant a hapusrwydd yma yn y Blaenau i Steffan John a Gwenno, rheolwyr newydd y fferyllfa.
* * * * *
Wedi blynyddoedd maith yn cadw siop ‘Cambrian Boot’ (Siop Esi gynt), mae Mrs Beryl Jones wedi penderfynu ymddeol. Fe gychwynnodd helpu allan yn y siop efo ‘Anti Esi’ pan yn 12 oed, cyn dechrau’n llawn amser yno pan adawodd yr ysgol yn 15 oed.
Ar wahân i gyfnod o 10 mlynedd pan symudodd hi a’i gŵr i fyw i Awstralia (ble roedd ei chwaer yn byw), mae hi wedi bod ynghlwm â’r siop. Er, yn ddiddorol iawn, tra’n byw ym mhen arall y byd, be feddyliwch chi oedd gwaith Beryl? Gweithio mewn siop ‘sgidia wrth gwrs!
Pan ddychwelodd y teulu i Gymru yn 1985, penderfynodd Esi ei bod hi’n bryd ymddeol ac felly fe gymrodd Beryl drosodd.
Hoffai Beryl ddiolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cefnogi’r busnes dros y blynyddoedd gan ddweud “Mae wedi bod yn fwynhad ac yn bleser cael rhedeg busnes yn y Blaenau.” Ond y newydd da ydi y bydd y busnes yn parhau yn y teulu gyda’i merch-yng-nghyfraith, Delyth Jones Evans yn cymryd drosodd.
-----------------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol ar dudalen flaen rhifyn Ebrill 2017
Dymuna Gwynn a Margaret ddiolch i bawb am ei cefnogaeth dros y blynyddoedd. Dymunwn ninnau, fel ardalwyr ddiolch eto i’r ddau ohonoch am eich gwasanaeth gwerthfawr drosom. Dyma gyfle i ni ddweud diolch am y gwasanaeth ‘Dosbarth Cyntaf’ a dymuno ymddeoliad hapus, haeddiannol, a hir oes i’r ddau ohonoch! Ar yr un pryd, dymunwn lwyddiant i’r Swyddfa Bost ar ei safle newydd.
* * * * *
Ar ôl 26 mlynedd yn gwasanaethu fel fferyllydd yn siop D. Powys-Davies, fe ymddeolodd Andrew Martin. Graddiodd fel fferyllydd yng Nghaerlŷr. Roedd ei swydd gyntaf yn Banbury, cyn symud i Birmingham am bedair blynedd. Yna treuliodd chwe mlynedd ym Mangor, cyn dod i'r Blaenau yn 1991.
Llun- Dafydd Roberts |
* * * * *
Wedi blynyddoedd maith yn cadw siop ‘Cambrian Boot’ (Siop Esi gynt), mae Mrs Beryl Jones wedi penderfynu ymddeol. Fe gychwynnodd helpu allan yn y siop efo ‘Anti Esi’ pan yn 12 oed, cyn dechrau’n llawn amser yno pan adawodd yr ysgol yn 15 oed.
![]() |
Llun o dudalen FB Siop Esi |
Pan ddychwelodd y teulu i Gymru yn 1985, penderfynodd Esi ei bod hi’n bryd ymddeol ac felly fe gymrodd Beryl drosodd.
Hoffai Beryl ddiolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cefnogi’r busnes dros y blynyddoedd gan ddweud “Mae wedi bod yn fwynhad ac yn bleser cael rhedeg busnes yn y Blaenau.” Ond y newydd da ydi y bydd y busnes yn parhau yn y teulu gyda’i merch-yng-nghyfraith, Delyth Jones Evans yn cymryd drosodd.
-----------------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol ar dudalen flaen rhifyn Ebrill 2017
Subscribe to:
Posts (Atom)