Showing posts with label Bwrdd Lleol Ffestiniog. Show all posts
Showing posts with label Bwrdd Lleol Ffestiniog. Show all posts

13.6.17

Stolpia -Dŵr Llyn Manod

Rhan o ysgrif reolaidd Steffan ab Owain

Difyr oedd darllen adroddiad am gael Bwrdd Iechyd Lleol i’r ardal ym mhapur newydd Y Dydd (Mehefin 16, 1876) a’r gohebydd o’r un farn â llawer un arall mai dŵr Llyn Manod oedd y gorau yng nghymdogaeth Ffestiniog.

Llun gyda diolch o wefan Cymdeithas Enweiriawl y Cambrian

Dywed hefyd fod angen Bwrdd o’r fath cyn y gellid symud sawr afiach y tomennau (sbwriel), cabanau moch ac ysgarthion ffosydd heintus. Ychwanega y bydd hi’n ofynnol i’r aelod a benodwyd yn Demlwr Da, yn Rhyddfrydwr trwyadl ac yn meddu ar ddigon o annibyniaeth meddwl ac amgylchiadau i wneud ei ddyletswydd heb ofni gwg, yn ogystal a bod yn Gymro da o ran ei allu i siarad y ddwy iaith, yn ŵr cymwys i ymresymu ac i wrando ar reswm ar unrhyw fater.

Tybed pwy all ddweud wrthym  pwy a gafodd y swydd?
-----------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ebrill 2017. Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

14.11.16

Ffynnon Doctor, Ceunant Sych

Mae’r hen ffynnon yn dal yno wrth gwrs ond bellach yn gudd, yn ystod yr haf o leiaf, dan dyfiant, ond yn y gaeaf daw i’r golwg a gosodwyd llechen yno i nodi’r lle pan altrwyd y ffordd - er parch i bobl yr ardal sydd â chof plentyn am yr hen ffynnon.


Wrth gerdded i lawr o Stiniog i Ryd-sarn a thu hwnt roedd yn ddefod pan oeddwn yn blentyn i ddrachtio’r dŵr clir wrth fynd heibio … doedd pawb yn deud ei fod yn ddŵr iachusol a hwnnw’n tasgu o’r graig i fath o gwpan a luniwyd yn y graig dros amser gan y dŵr - ac roedd Doctor yn yr enw hefyd.

Yn aml mae’r ffynnon yn cael ei chrybwyll wrth basio fel yn hunangofiant John Elfed Jones (John Swch), Dyfroedd Dyfnion (2013)
‘Bryd hynny roedd tair sinema ym Mlaenau Ffestiniog - y Forum, y Park a’r Empire - a bûm yn gefnogwr ffyddlon i bob un. Cerdded i fyny'r pedair milltir o Ryd-sarn drwy’r Ceunant Sych i’r Blaenau. Hanner ffordd i fyny ger Cymerau mae Ffynnon Doctor, lle caem ddracht o ddŵr i’n helpu ar ein ffordd. Mae’r ffynnon yn dal yno mwy na thebyg, er sgwn i faint o bobl yr ardal ŵyr amdani heddiw?’ 
Ar ei ffordd i fyny i’r Blaenau byddai John Elfed yn bownd o gerdded heibio murddun y tollborth a elwid yn Tyrpeg Newydd (Turnpike Newydd) oedd yn sefyll ar y gyffordd gyda ffordd gul Dôl-wen a ffordd Ceunant Sych (ger Cymerau Uchaf). Erbyn heddiw mae’r gyffordd wedi newid yn llwyr a cheir yr hen ffordd Dôl-wen yn cael blaenoriaeth fel yr A496 a rhaid troi ar y gyffordd i fynd i'r Manod heddiw. Ar safle’r gyffordd hon heddiw y safai’r Tyrpeg Newydd ers llawer dydd. Codwyd y Tyrpeg Newydd yn 1842 a chodwyd un arall yn y Manod tua dechrau’r 1860au.

Roedd y ddwy wedi mynd erbyn Tachwedd 1886 trwy ymdrechion Bwrdd Lleol Ffestiniog i gael gwared â’r doll oedd mor amhoblogaidd. Byddai’r giatiau yn cael eu symud liw nos reit aml a’u taflu o’r neilltu gan na fedrai pobl Tanygrisiau, canol y dref na’r Manod gladdu eu meirw heb dalu toll. Cafwyd hyd i giât tollborth Manod tua 1970 yn iard y Wynnes Arms ac mae bellach yn Amgueddfa Ironbridge.

Sgwennodd y diweddar Barch. O.M.Lloyd gerdd i’r Tyrpeg Newydd:

Lle una ffyrdd y Manod a Dôl-wen
A brysio i lawr hyd allt y Ceunant Sych
Rhytha’r hen furddun Llwyd yn noeth ei ben
A diawdurdod yw yn nyddiau’i nych.
Talog wrth basio’r drws a thrwm ei droed
Ydy pob cerddwr bellach heb un doll
I’w chyndyn dalu, a thrwy nod y coed
Ni chynddeirioca’ ‘Beca wrth fawredd coll.
Daw rhywun ar ei ofyn yntau’n awr
Casglwr na fu erioed yn wag ei bwrs,
Fe ddeil y glaw a’r gwynt a’u dwylo mawr
A’r hendy’n araf ddod i ben ei gwrs;
O ddydd i ddydd a’n dlotach - fel pob peth
A’r briffordd Amser rhaid yw talu’r dreth

Ni wn pryd y dymchwelwyd murddun y Tyrpeg, ond dw i’n meddwl fod cof gennyf o’i weld pan oeddwn i'n blentyn ifanc iawn ynghanol y 1950au (ond hwyrach mai breuddwydio wnes i!) a diflannodd pan altrwyd y gyffordd lle safai. Tybed oes lluniau ohono? A tybed oes 'na stori neu atgofion am Ffynnon Doctor?
-------------------------------------------

Erthygl a llun gan Tecwyn Vaughan Jones, o rifyn Hydref 2016.