Showing posts with label ffynhonau. Show all posts
Showing posts with label ffynhonau. Show all posts

23.11.17

Ffynnon Mihangel

Ymddangosodd yr erthygl hon gan Emrys Evans, yn Llygad y Ffynnon (Cylchgrawn Cymdeithas Ffynhonnau Cymru) rh.2 haf 1997.

Y ffynnon a arferid yn Ffestiniog oedd Ffynnon St. Michael, a adweinir eto fel ‘Y Ffynnon’. Yr oedd olion adeiladau crynion heb fod nepell oddi wrth y ffynnon hon hyd yn ddiweddar, oddeutu Llwyn Crai, y rhai a allent fod o’r cyfnod hwn (sef cyfnod cynnar yr ardal): os felly, buasai'r ffynnon hon mewn lle cyfleus ac agos atynt, yr hyn a allasai fod yn rheswm am eu dewisiad. Priodolid rhinwedd iachaol i ddyfroedd y ffynnon hon ... a hyd ddechrau'r ganrif bresennol arferai llaweroedd ymgasglu i’r fan gan ddisgwyl cael eu gwella o’r crydcymalau, y gymalwst a llawer o anhwylderau eraill.

Cynllun- Cymdeithas Ffynhonnau Cymru. Dolen isod. (Sylwer: nid oes mynediad cyhoeddus i'r safle)

Dyna'r hyn sydd gan Griffith John William i’w ddweud am Ffynnon Mihangel yn ei lyfr Hanes Plwyf Ffestiniog o’r Cyfnod Boreuaf a gyhoeddwyd yn 1882.

Y cyfeiriad cynharaf at y ffynnon y gwn i amdano yw un sydd ar fap a gaiff ei ddyddio yn ôl i’r flwyddyn 1795.  Ar hwnnw fe gyfeirir ati fel ‘Ffynnon Mihangel’. Ar fapiau diweddarach, ‘Y Ffynnon’ yn unig sydd ar ei chyfer.  Ar dir preifat y mae ‘Y Ffynnon’, y tu isaf i’r ffordd fawr bresennol rhwng Llan Ffestiniog a Blaenau Ffestiniog, oddeutu hanner ffordd rhwng y ddau le, ac mae ei dŵr yn llifo i afon fechan sy’n tarddu yn Llyn y Manod ac yn mynd heibio iddi.

Ar hyn o bryd does dim i’w weld yno ond cerrig blith-drafflith, sef gweddillion bwthyn bychan.  Ffynnonddŵr oedd enw’r bwthyn yma, a adeiladwyd ar y ffynnon.  Ni welir yr enw yng nghyfrifiad 1841 nac 1851, ond yng nghofrestr claddedigaethau’r plwyf ceir fod plentyn naw mis oed o’r enw Ann Jones, Ffynnonddŵr, wedi’i chladdu ar yr 17eg o Ragfyr, 1857.  Yng nghyfrifiad 1861 roedd William Jones a’i fam yn byw yno; ac yn 1881, Owen Roberts, ei wraig a’u dwy ferch a drigai yno.  Nid oes cofnod ar gyfer 1891 ac fe ymddengys fod y lle wedi mynd a’i ben iddo.

Gof oedd Owen Roberts, brawd y Dr Robert Roberts, neu Isallt fel y’i gelwid gan amlaf.  Ag yntau’n un o ‘Ddoctoriaid Congl y Wal’ fel yr oeddynt yn cael eu galw, gwyddai o’n dda am yr ardal.  Byddai’n barddoni cryn dipyn hefyd, ac mae ganddo gerdd ddisgrifiadol ‘Congl y Wal a Theigl’ sydd nid yn unig yn ddiddorol ynddi’i hun ond fe ychwanegodd Isallt nodiadau ati yn egluro ambell enw a chyfeiriad yn y gerdd.  Yn 1910 y’i cyhoeddwyd hi.  I bwrpas hyn o nodyn ar ‘Y Ffynnon’, y pennill sydd o ddiddordeb i ni yw’r un a ganlyn:

Y Ffynnon, tŷ hysbys, a’r Ffynnon Ddŵr glodus
Ddenai lu dan y parlys i’w llys i wellhau;
Yn ei dŵr yr ymdrochent, o’i rhin y cyfrannent,
Hael yfent a photient rhag ffitiau.

Yna, mae Isallt (bendith arno!) yn ychwanegu'r nodyn a ganlyn ar waelod y dudalen:

Deuent o bellteroedd am wellhad rhag ffitiau a chrydcymalau a hefyd parlys, meddai rhai.  Ni fu oes hir iddi - ni chynhwysai ei dŵr unrhyw sylwedd fferyllol.  Mae ei holion o fewn y murddun eto o ffurf chwe ochrog, a dau ris i fynd iddi, - ond wedi ei gorchuddio a sbwriel, pridd ayyb.

Dyma’r unig fan lle’r ydw i wedi gweld disgrifiad o’r Ffynnon, sef ‘o ffurf chwe ochrog, a dau ris i fynd iddi ..’ a chan mai brawd i Isallt oedd yn byw yma yn 1881, roedd o, mae’n bur debyg, yn gyfarwydd â thu mewn y bwthyn yma.

Ceir cyfeiriad at ‘Y Ffynnon’ yn y gyfrol Royal Commission on Ancient Monuments in Wales and Monmouth.  Ymwelwyd â’r safle ar yr 21ain o Fedi 1914, a’r nodiad arni yw fel a ganlyn:

This is  not so much a well as a spring of water which, rising beneath the floor of an old ruined house, flows copiously through an iron pipe from under the ruins.  It is still restored to by sufferers from rheumatism, fractured limbs and other maladies, but not to the same extent as in former days.  For this reason it has been suggested that it might have been the old sacred well of Ffestiniog, but it is not associated with any saint and is known only as ‘Y Ffynnon’.

Nid yw’r sylw, not associated with any saint  ar ddiwedd y nodyn uchod yn dal dŵr, fel petai, yn wyneb yr hyn sydd ar y map a ddyddiwyd 1795, na chwaith yr hyn sydd gan Griffith John Williams i’w ddweud yn ei Hanes Plwyf Ffestiniog.  Nid oes gan Francis Jones ddim byd gwahanol i’w ddweud yn ei lyfr The Holy Wells of Wales.

Mae rhai tai sydd wedi eu codi ger y ffynnon wedi cymryd eu henwau oddi wrthi - Y Ffynnon, Bron Ffynnon, Tŷ Newydd Ffynnon, ac mae tŷ a godwyd yn ddiweddar wedi’i alw’n Ffynnon Uchaf.

Yn ddiweddar, hynny yw, yn ystod y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf, bu’r Tad Deiniol, offeiriad yr Eglwys Uniongred Roegaidd ym Mlaenau Ffestiniog, yn ymddiddori yn y ffynnon.  Mae hi wedi’i chysegru ganddo a bu’n ceisio cael nawdd gan adran o’r Gymuned Ewropeaidd er mwyn clirio’r safle a’i dacluso, ac adfer adeiladwaith y ffynnon.  Yn anffodus, nid oes arian ar gael i wneud y math yma o waith, ac felly, mae’r ffynnon yn dal wedi’i chladdu dan gerrig a phridd a sbwriel.
-------------------------------

Atgynhyrchwyd (heb y llun) yn Llafar Bro, Hydref 2017.
Mae'r erthygl hefyd ar wefan Cymdeithas Ffynhonnau Cymru, lle ceir mwy o wybodaeth, a chynlluniau o Ffynnon Fihangel.


14.11.16

Ffynnon Doctor, Ceunant Sych

Mae’r hen ffynnon yn dal yno wrth gwrs ond bellach yn gudd, yn ystod yr haf o leiaf, dan dyfiant, ond yn y gaeaf daw i’r golwg a gosodwyd llechen yno i nodi’r lle pan altrwyd y ffordd - er parch i bobl yr ardal sydd â chof plentyn am yr hen ffynnon.


Wrth gerdded i lawr o Stiniog i Ryd-sarn a thu hwnt roedd yn ddefod pan oeddwn yn blentyn i ddrachtio’r dŵr clir wrth fynd heibio … doedd pawb yn deud ei fod yn ddŵr iachusol a hwnnw’n tasgu o’r graig i fath o gwpan a luniwyd yn y graig dros amser gan y dŵr - ac roedd Doctor yn yr enw hefyd.

Yn aml mae’r ffynnon yn cael ei chrybwyll wrth basio fel yn hunangofiant John Elfed Jones (John Swch), Dyfroedd Dyfnion (2013)
‘Bryd hynny roedd tair sinema ym Mlaenau Ffestiniog - y Forum, y Park a’r Empire - a bûm yn gefnogwr ffyddlon i bob un. Cerdded i fyny'r pedair milltir o Ryd-sarn drwy’r Ceunant Sych i’r Blaenau. Hanner ffordd i fyny ger Cymerau mae Ffynnon Doctor, lle caem ddracht o ddŵr i’n helpu ar ein ffordd. Mae’r ffynnon yn dal yno mwy na thebyg, er sgwn i faint o bobl yr ardal ŵyr amdani heddiw?’ 
Ar ei ffordd i fyny i’r Blaenau byddai John Elfed yn bownd o gerdded heibio murddun y tollborth a elwid yn Tyrpeg Newydd (Turnpike Newydd) oedd yn sefyll ar y gyffordd gyda ffordd gul Dôl-wen a ffordd Ceunant Sych (ger Cymerau Uchaf). Erbyn heddiw mae’r gyffordd wedi newid yn llwyr a cheir yr hen ffordd Dôl-wen yn cael blaenoriaeth fel yr A496 a rhaid troi ar y gyffordd i fynd i'r Manod heddiw. Ar safle’r gyffordd hon heddiw y safai’r Tyrpeg Newydd ers llawer dydd. Codwyd y Tyrpeg Newydd yn 1842 a chodwyd un arall yn y Manod tua dechrau’r 1860au.

Roedd y ddwy wedi mynd erbyn Tachwedd 1886 trwy ymdrechion Bwrdd Lleol Ffestiniog i gael gwared â’r doll oedd mor amhoblogaidd. Byddai’r giatiau yn cael eu symud liw nos reit aml a’u taflu o’r neilltu gan na fedrai pobl Tanygrisiau, canol y dref na’r Manod gladdu eu meirw heb dalu toll. Cafwyd hyd i giât tollborth Manod tua 1970 yn iard y Wynnes Arms ac mae bellach yn Amgueddfa Ironbridge.

Sgwennodd y diweddar Barch. O.M.Lloyd gerdd i’r Tyrpeg Newydd:

Lle una ffyrdd y Manod a Dôl-wen
A brysio i lawr hyd allt y Ceunant Sych
Rhytha’r hen furddun Llwyd yn noeth ei ben
A diawdurdod yw yn nyddiau’i nych.
Talog wrth basio’r drws a thrwm ei droed
Ydy pob cerddwr bellach heb un doll
I’w chyndyn dalu, a thrwy nod y coed
Ni chynddeirioca’ ‘Beca wrth fawredd coll.
Daw rhywun ar ei ofyn yntau’n awr
Casglwr na fu erioed yn wag ei bwrs,
Fe ddeil y glaw a’r gwynt a’u dwylo mawr
A’r hendy’n araf ddod i ben ei gwrs;
O ddydd i ddydd a’n dlotach - fel pob peth
A’r briffordd Amser rhaid yw talu’r dreth

Ni wn pryd y dymchwelwyd murddun y Tyrpeg, ond dw i’n meddwl fod cof gennyf o’i weld pan oeddwn i'n blentyn ifanc iawn ynghanol y 1950au (ond hwyrach mai breuddwydio wnes i!) a diflannodd pan altrwyd y gyffordd lle safai. Tybed oes lluniau ohono? A tybed oes 'na stori neu atgofion am Ffynnon Doctor?
-------------------------------------------

Erthygl a llun gan Tecwyn Vaughan Jones, o rifyn Hydref 2016.