20.3.22

Blodau Gwyllt y Dref Werdd

Ar y cyd efo Cyngor Gwynedd a Cadw Cymru'n Daclus, mae’r Dref Werdd wedi gosod 160 metr sgwâr o dywyrch blodau gwyllt yn ysgolion y fro! 

 


Mae plant yr ysgolion wedi gwirioni yn ôl y sôn. Bydd y stribedi blodau gwyllt hyn yn creu cynefin pwysig i bryfed, peillwyr a bywyd gwyllt arall, ac yn helpu’r ysgolion gyda’u hymgyrchoedd eco-gyfeillgar. 

 



Hyfryd fydd gweld y blodau, a’r gwenyn, pan gynheso’r tywydd.
- - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 2022


16.3.22

Cynulliad Cymunedol GwyrddNi

Dyfodol ein cymunedau

Mae cyfle newydd a chyffrous i ni, bobl Bro Ffestiniog gael dweud ein dweud am ddyfodol ein cymunedau. Yn y deng mlynedd nesaf, un o’r heriau mwyaf fydd yn ein hwynebu ni ydi newid hinsawdd, a dyna pam bod GwyrddNi yma! 

Wrth gyd-weithio efo Cwmni Bro, rydan ni am i bobl yr ardal hon ddod at ei gilydd i drafod, dysgu a mynd ati i wneud pethau yn lleol i daclo newid hinsawdd.

Y ffordd rydym am wneud hynny ydi wrth gynnal Cynulliadau Cymunedol yn yr ardal dros y misoedd nesaf. Peidiwch â phoeni, does dim rhaid i chi wybod dim byd am newid hinsawdd i ymuno! 

Bydd cyfle i wrando ar siaradwyr o bob math, trafod y materion a gwneud penderfyniadau efo’n gilydd ar y ffordd ymlaen. Rydan ni isio cynnwys trawstoriad o’r gymuned, felly hen, ifanc, siaradwyr Cymraeg, siaradwyr Saesneg, yn rhieni, pobl ifanc, pensiwniars, dreifars bysus, ffermwyr, athrawon, gweithwyr siop, pobl sy’n poeni am newid hinsawdd, pobl sydd erioed wedi meddwl am newid hinsawdd... PAWB!

Ewch draw i www.gwyrddni.cymru am fwy o wybodaeth neu codwch y ffôn ar Nina Bentley, Hwylusydd Cymunedol yr ardal ar 07950 414401 neu ebostiwch nina@deg.cymru

- - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 2022


12.3.22

Cwmni Bro -hwb i bobl ifanc

Helo! 

Fi’ di Becci Phasey. Dros y 12 mis nesaf byddaf yn gweithio efo Cwmni Bro fel Gweithiwr Mentro Pobl Ifanc i hybu syniadau am fentergarwch cymdeithasol. 

 

Trwy ddarparu cyfleoedd a gweithdai fydd yn ysbrydoli ac yn datblygu syniadau, dw i’n gobeithio y gallwn ddangos i bobl ifanc y pŵer sydd ganddyn nhw i lunio eu dyfodol eu hunain o fewn eu cymuned. 

Mae cymuned wedi bod wrth wraidd fy ngwaith ers i mi raddio yn 2013 a ffurfio grŵp Theatr Gybolfa sy’n cynnal gweithdai i bobl ifanc Gellilydan ddysgu sgiliau ysgrifennu, actio a ffilmio a chreu sioeau i’r gymuned eu mwynhau. 

 

Bydd fy ngwaith efo Cwmni Bro yn gyfle arbennig i ehangu ar fy mhrofiad o waith cymunedol creadigol. Fel y gwelwch o’r llun, dw i hefyd yn gwneud coffi da – dim ots beth mae Ceri a Gwenlli yn ei ddweud!

- - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 2022



8.3.22

Senedd Stiniog- parciau a meinciau a mwy

Pytiau o'r Cyngor Tref, gan y Clerc


Dyma’r erthygl gyntaf i mi ei sgwennu i Llafar Bro ers i mi gael y swydd fel Clerc y Dref i Gyngor Tref Ffestiniog. Ac am ddwy flynedd mae hi wedi bod!! 

Yn y misoedd nesaf, gobeithir y gwelwch ychydig o brosiectau newydd o amgylch y fro. Rydym yn gobeithio canfod tenant newydd i’r Pafiliwn, sef y caffi yn Y Parc a gweld bywyd yn dychwelyd nôl i’r adeilad hwnnw.

Buom hefyd yn llwyddiannus yn derbyn dau grant gwahanol er mwyn gallu prynu offer caeau chwarae newydd. Y cyntaf fydd siglen wifr ym Mryn Coed er mwyn uwchraddio’r hen un . Yr ail fydd cylchdro a ffrâm antur newydd sbon yn Y Parc.

Rydym wrthi’n gweithio gyda phrosiect ‘Pontio’r Cenedlaethau’ drwy Gyngor Gwynedd, ac yn anelu i ddylunio ac ail-beintio 3 mainc o amgylch y fro er mwyn annog i bobl eistedd a sgwrsio. Cadwch olwg am 3 mainc ar eu newydd wedd, i’w gosod ym Manod, Sgwâr Oakeley a Sgwâr Rawson. Ar ben hynny, yn dilyn trasiedi diweddar, mae’r Cynghorwyr Tref wedi gofyn i mi drefnu cyfarfod gydag asiantaethau a phartneriaid perthnasol yn yr ardal ar y pwnc ‘Iechyd Meddwl i bobl ifanc’. Fydd o’n gyfle i ni glywed gan y gwasanaethau yn uniongyrchol, dysgu beth sydd ar gael i bobl ifanc yma yn Ffestiniog a bod yn rhan o’r jig-so i rannu a hyrwyddo gwybodaeth.

Bûm yn llwyddiannus hefyd yn denu ychydig o gymorth ariannol er mwyn trefnu digwyddiad dathlu Dydd Gŵyl Ddewi ar Fawrth y 1af. Y nod oedd ceisio annog pobl sydd heb adael eu cartrefi ers y pandemig i ddod allan i gymdeithasu ac i gychwyn ar y daith o roi hyder er mwyn dychwelyd i fywyd mwy ‘normal’.

A chofiwch ein bod yng nghanol y pandemig wedi symud swyddfa a gadael 5 Stryd Fawr, ac yn rhentu dwy ystafell yn y Ganolfan Gymdeithasol (drws nesaf i’r Ganolfan Hamdden). Er nad ydym wedi bod yn y swyddfa rhyw lawer dros y flwyddyn ddiwethaf wrth i ni weithio o adref, mae yna groeso i chi gysylltu â ni dros e-bost ar clerc@cyngortrefffestiniog.cymru neu ffonio’r swyddfa rhwng 9yb a 2.30yp o Ddydd Llun i Ddydd Gwener ar 01766 832398.

- - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 2022


4.3.22

Stolpia- trawstiau a mwsog

Atgofion am Chwarel Llechwedd... pennod arall yng nghyfres Steffan ab Owain

Rwyf wedi sôn ychydig am gwt compresor Ponc Ganol o’r blaen, ond nid wyf yn credu fy mod wedi crybwyll y stori hon. Cofiaf fel y bu’n rhaid newid rhan o’r cywasgydd awyr un tro, ond gan nad oedd y distyn uwchlaw y peiriant yn ddigon cryf i godi’r partiau trwm, penderfynwyd gosod trawst haearn o un talmaen i’r llall. 

Codwyd ystol i gyrraedd y lle a gwnaed dau dwll yn y wal ar ei gyfer gan y diweddar Barry Williams a finnau. Daethpwyd â’r gyrdar yno a chodwyd un pen i fyny ar silff a wnaed tros dro ger twll y talmaen gorllewinol a rhywfodd medrwyd ei gael i mewn yn weddol ddidrafferth. Pa fodd bynnag, roedd angen codi ei ben dwyreiniol i fyny at y twll, yn ogystal â’i wthio i mewn iddo, a chan nad oedd fawr o le i fwy nag un wneud y gwaith ar yr ystol, roedd yn golygu cael dyn cryf i gwblhau y gwaith. 

 

Robin Gof a Hefin Bryfdir (Llun Geoff Charles)
Y gŵr hwnnw oedd Robert George Griffiths (Robin Go’). Yn y cyfamser, roedd Barry a finnau i dynnu ar raff a oedd wedi ei daflu dros y distyn a’i glymu o amgylch y gyrdar er mwyn rhannu tipyn ar y pwysau. 

Gafaelodd Robin ymhen y gyrdar a’i godi, ac yna dringodd yr ystol yn bwyllog a phan gyrhaeddodd gyferbyn a’r twll yn y wal, a ninnau yn tynnu’n gorau glas ac yn hongian ar y rhaff, bellach, ceisiodd Robin godi ei ben dwyreiniol a’i wthio i mewn i’w le priodol, ond er yr holl fustachu, a’i wyneb yn fflamgoch, methodd yn lan a llwyddo y tro cyntaf gan fod cryn bwysau ar y gyrdar. Daeth i lawr yr ystol a dywedodd wrth Emrys, “mi dreiaf eto ar ôl cael fy ngwynt ataf,” a dyna a wnaeth, ac ymdrechodd yr eilwaith, ond methu eto. Ceisiodd am y trydydd tro, ac wedi cael nerth o rywle gallodd roi pen dwyreiniol y gyrdar yn ei le. Llwyddiant o’r diwedd.

Golygodd y job dipyn o strach inni, ac aeth rhan dda o’r prynhawn i’w chwblhau, a phan sylweddolodd Robin ar yr amser mi ddywedodd “rwyf angen mynd i fyny i gau fflodiat Llyn Bowydd rŵan,” a ffwrdd a fo ar ei daith hirbell.

Llyn Bowydd (blaen) a Llyn Newydd y tu ôl iddo (llun SabO) 
 

Stori’r migwyn – cofiaf Robin yn dweud wrthym un tro pan oedd ar ei ffordd un bore i agor y llifddor yn Llyn Bowydd iddo ddod ar draws Boreugwyn (Brigwyn) yn hel migwyn (sef mwsog cors) nid ymhell o Lyn Fflags. 

Roedd Brigwyn a’i ben i lawr yn rhoi peth o’r migwyn mewn sach, a dyma Robin yn ei gyfarch – “Bore da Migwyn, hel brigwyn, ia ?” Sylweddolodd Robin, ar ôl ychydig gamrau, beth a oedd wedi ei ddweud wrtho, a dyma fo’n cywiro ei hun – “daria, fel arall yr oeddwn yn meddwl ei ddweud!”

- - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2022
Gallwch ddilyn cyfres Stolpia trwy glicio ar y ddolen isod (rhaid clicio Web View os yn darllen ar ffôn)