17.12.21

900 o resymau...

Dyma'r 900fed erthygl ar ein gwefan!

Ers Mai 2012, mi fuo ni'n trosglwyddo rhai o erthyglau diweddar y papur, ac erthyglau hŷn o'r archif, ar y wefan blogspot yma. Os ydych yn gyfarwydd â'r wefan, gobeithio eich bod wedi mwynhau'r amrywiaeth. Os ydych yn newydd, ewch ati i bori!

Ar gyfrifiadur mae'r wefan yn gweithio orau gan fod posib pori a chwilio mewn tair gwahanol ffordd: yn ôl dyddiad; yn ôl geiriau allweddol yn y 'Cwmwl Geiriau'; neu trwy deipio geiriau eich hun er mwyn chwilio trwy'r cwbl!  

Ar ffôn, gallwch weld y dewisiadau yma trwy glicio 'View web version' wrth droed yr erthygl, wedyn chwyddo'r testun fel liciwch chi efo bys a bawd.

Fel bob dim arall ynglŷn â Llafar Bro, gwaith gwirfoddol sy'n gyfrifol am y wefan. Gall bawb helpu eich papur bro trwy barhau i brynu copi papur bob mis, er mwyn cael yr erthyglau dros fis yn gynt, a'r holl newyddion, hanesion a chyfarchion sydd ddim yn cael eu gosod ar y we.

Mae 900 yn rif perthnasol am reswm arall hefyd. Dyna faint o gopiau papur yr ydym yn argraffu bellach. Wyddoch chi bod yn nes at fil a hanner o gopiau yn gwerthu ar un adeg? Byddai'n braf medru gwerthu mwy eto, felly cofiwch brynu eich copi eich hun yn hytrach na derbyn copi ar ôl eich modryb! Gallwch gefnogi menter Cymraeg yn y gymuned: dim ond punt y mis. Diolch yn fawr am eich cefnogaeth.

Wyddoch chi fod tanysgrifiad digidol ar gael bellach? A'i fod yn rhatach nag oedd yn wreiddiol!

Gallwch dderbyn copi pdf o'r rhifyn gyfa' trwy ebost ar y noson gyhoeddi bob mis, a hynny am ddim ond £11 y flwyddyn.

Be amdani? Wnaiff £11 ddim torri'r banc i'r rhan fwyaf ohonom, ond mae'n gwneud byd o wahaniaeth i ddyfodol ein papur bro!

Ewch i'n tudalen danysgrifio am fanylion.

Diolch bawb.

- - - - -

Y 10 erthygl mwyaf poblogaidd yn y gwanwyn.

13.12.21

Gwresogydd Tŷ Crwn Llys Dorfil

Ni ddaeth y cloddio o hyd i unrhyw dystiolaeth fod yna le tân yn y tŷ crwn yn Llys Dorfil.  Nid yw tân yn hanfodol i gynhesu tŷ crwn, ond mae’n rhaid cael gwres.  Yn y canol roedd pant crwn wedi ei suddo yn y llawr a'i leinio â chlai, a tybir mai hwn oedd safle'r gwresogydd. 

Ein rhagdybiaeth ni yw bod gwres wedi'i drosglwyddo o dân allanol trwy ddefnyddio cerrig berwi i'r pant crwn ar lawr y tŷ crwn. Byddai'r math hwn o wres yn ddigon i gadw'r oerni draw. Hefyd ni fyddai unrhyw fwg gwenwynig yno i amharu ar y bobol na’r anifeiliaid.   


Mae cerrig berwi yn gerrig sydd yn pwyso rhwng dau a thri phwys yr un.  Rydych chi'n eu rhoi yn uniongyrchol mewn tân nes eu bod yn chwilboeth.  Yna, eu tynnu allan a'u rhoi mewn cynhwysydd sy'n llawn o ddŵr. Mae'r garreg yn oeri yn sydyn ac mae'r dŵr yn cynhesu. Daliwch ati i wneud hyn ac mae gennych ddŵr cynnes i ymolchi neu ddŵr berwedig i goginio ynddo.  

Cynhaliodd Mr Wilfred L. Bullows dreial mewn twll bach wedi'i leinio â chroen dafad, a darganfu y gallai pedwar galwyn o ddŵr gael ei ferwi gyda cherrig berwi wedi'u cynhesu mewn tua deugain munud.   

Rwy'n cofio ar nosweithiau gaeafol oer, byddai fy nain yn rhoi bricsen yn y popty i gynhesu, ac yna ei lapio mewn tywel a'i osod yn fy ngwely, roedd hwn yn foethusrwydd dros ben.   

Yr oedd yr un peth yn cael ei wneud miloedd o flynyddoedd yn ôl yn Oes yr Haearn yn y tŷ crwn yn Llys Dorfil i gadw'n gynnes. Rhoddwyd y cerrig berwi  mewn pant wedi'i leinio â chlai yng nghanol y tŷ crwn, gyda chrwyn anifeiliaid drosto a oedd yn ffurfio troed i’r man cysgu.  

Roedd cylch mewnol o byst yn dal y to i fyny, a rhyngddynt roedd plethwaith a dwb.  Hon oedd y stafell fyw a chysgu, a rhwng yr ystafell fewnol a'r wal allanol yma y cadwyd yr anifeiliaid.  

Byddai'r math hwn o wres, heb orfod dygymod a'r mwg gwenwynig, yn caniatáu i'r bobol ddewis deunydd llawer mwy diddos na gwellt, fel plethwaith a chlai ar gyfer y to, a hefyd anogwyd glaswellt i dyfu arno. Nid oedd rhaid i do clai fod ar 45° fel to gwellt ond ar raddfa lai a oedd yn llawer hawddach i’w gynnal a'i gadw.  Sawl tŷ crwn arall a gynheswyd fel hyn tybed? 


Bill a Mary Jones, Cymdeithas Archeoleg Bro Ffestiniog

- - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 2021

Ar  ddechrau Hydref, bu Aled Hughes, Radio Cymru ar safle Llys Dorfil, yn holi Bill a Mary Jones, yn ogystal â Dafydd Roberts, a rhai o selogion eraill y cloddio.

Mae'r darn a ddarlledwyd ar raglen Aled, bellach ar gael ar wefan Sounds y BBC 'am fwy na blwyddyn'. 

Dyma ddolen.

 

Dafydd Roberts, Bill Jones, ac Aled Hughes, yn Llys Dorfil



9.12.21

Hydref Y Dref Werdd

Cadw'n Gynnes

Mae’r hydref wedi cyrraedd, a thebyg bod sawl un ohonom wedi ildio, a wedi rhoi matsen yn y tân, neu danio’r boelar bondigrybwyll am y tro cynta'. Na phryderwch! Mae’r Dref Werdd wedi bod wrthi dros yr haf yn meithrin cysylltiadau, yn mireinio’n cynlluniau ac yn dysgu mwy am yr heriau sy’n ein gwynebu wrth i ni ystyried y costau ynni cynyddol a’r angen dybryd sydd i ni leihau ein allyriadau carbon. 

Llwyddom i ddenu ambell bwysigyn yma dros yr haf i'w herio nhwytha i weithredu, ac i amlinellu’r sefyllfa ar lawr gwlad iddynt. Unwaith eto eleni byddem yn helpu rhai ohonoch hefo’r Warm Home Discount, sydd yn rhoi £140 o gredyd ar eich cyfrif trydan dros y gaeaf. Os ydych yn bryderus am eich costau, galwch heibio efo’ch bil trydan er mwyn i ni wirio os ydych yn gymwys i'w hawlio. 

Rydym hefyd yn cydweithio hefo’r Cyngor Sir a Llywodraeth Cymru i gyfeirio pobl at gynlluniau effeithlonrwydd ynni - Arbed ECO a Nyth. Mae rhain yn gynlluniau all roi cymorth drwy insiwleiddio eich tŷ neu newid eich cyfarpar i fod yn fwy effeithlon. Drwy wneud hyn, bydd lleihad yn eich costau ynni. 

Mae’n siŵr bod rhai ohonoch yn bryderus am yr holl gythrwbwl sydd yna ar hyn o bryd gyda phrisiau nwy a thrydan sy’n codi mor syfrdanol. Does dim diben pryderu a gwneud dim ynghylch y peth. Rydym yn erfyn arnoch i gyd i alw heibio am sgwrs.
Mae’n siŵr fod yna o leia un tric y medrwn rannu a chi a wnaiff wneud petha’n haws!
 Oriau Agor: Dydd Llun, Mercher a Gwener, 10.00 - 4.00 . 

Neu codwch y ffôn - 01766 830082 / 07435 290553 

Cynefin a Chymuned i Blant

Roeddem fel criw yn ddigalon i weld diwedd yr haf, oedd yn golygu diwedd i’n sesiynau wythnosol yn gwneud gwahanol weithgareddau yn y coed yn dilyn chwe wythnos llawn hwyl gyda’n gilydd. Ond, roedd yn werth disgwyl am sesiwn mis Medi ble cawsom fynd ar daith natur gyda Paul Williams a’n harweiniodd i lawr coed Cwmbowydd. 

Croen larfa gwas neidr
 

Bu i ni ddysgu llawer iawn o bethau am fyd y pryfed, cynefinoedd bywyd gwyllt a sut i adnabod coed a phlanhigion. Sesiwn gwerth chweil - diolch yn fawr iawn, Paul.

Eda’ Eco

Mae gofod Eda’ Eco wedi ei greu ar lawr cyntaf y Siop Werdd ers rhai misoedd bellach. Gofod sy’n cynnwys dau ffwrdd gyda’r holl offer a deunydd gwnïo y gallwch feddwl am! Ond digon distaw ydi hi i ddweud y gwir, felly rydym wedi penderfynu rhoi benthyg yr offer i aelodau’r gymuned gael creu/trwsio/ a’i wneud gartref gartref. 

Cysylltwch hefo ni os ydych eisiau benthyg yr offer - manylion isod. 

Cynllun Digidol

Cofiwch am y dyfeisiau digidol sydd ganddom i’w benthyg allan i’r gymuned. Os hoffech chi gael cyfle i ddysgu sut i yrru e-byst, cadw mewn cyswllt gyda theulu a ffrindiau, edrych ar hen luniau o’r ardal ar y we, gwneud ychydig o siopa neu unrhyw beth arall, gadewch i ni wybod - manylion cyswllt isod. 

Apêl am Wirfoddolwyr

Unwaith eto rydym yn gwneud apêl am wirfoddolwyr i helpu gyda chynllun cyfeillio dros y ffôn - SGWRS. Mae SGWRS yn brosiect i daclo unigrwydd a chreu cysylltiadau ac mae’r prosiect bellach yn flwydd oed! Yn ystod y flwyddyn mae dros 400 o oriau o sgwrsio wedi eu cofnodi gydag adborth cadarnhaol iawn gan bawb sy’n ymwneud â’r cynllun. Mae gwirfoddolwyr yn sgwrsio am hyd at awr yr wythnos gyda Ffrindiau. Gallwch hawlio hyd at £3 yr alwad mewn costau.  

Rydym hefyd yn galw am wirfoddolwyr i helpu’r rhai sy’n benthyg dyfais ddigidol ganddo ni ddod i ddeall sut i’w ddefnyddio. Os ydych chi’n deall dyfeisiau android ac yn hapus i roi ychydig o amser i helpu eraill ddeall, gadewch i ni wybod.

Os hoffech chi drafod unrhyw un o’r uchod, ffoniwch neu gyrrwch e-bost i Non:  07385 783340 / non@drefwerdd.cymru

- - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 2021


5.12.21

Trefniadau Llafar Bro

Cynhaliwyd y Cyfarfod Blynyddol eleni eto dros Zoom -ar ddiwrnod Glyndŵr, Medi 16eg, a chafwyd cyfarfod boddhaol ac adeiladol. Gobeithio yn wir y medrwn gyfarfod wyneb yn wyneb y flwyddyn nesa!

Cyhoeddodd Emyr ei fod yn ymddeol o’i swydd, fel prif Ddosbarthwr Llafar Bro, ddiwedd y flwyddyn hon. Mae wedi bod wrth y swydd hon am gyfnod hir, hir iawn … 41 o flynyddoedd ers iddo ddechrau ym mis Tachwedd 1980. Bu’n casglu'r papurau yn ddeddfol bob mis o’r wasg yn Llanrwst, ac yna ei ddosbarthu i’r holl siopau, a sicrhaodd fod pob dosbarthwr lleol yn cael ei ddogn o gopïau. 

Ar ran holl wirfoddolwyr Llafar a’r holl ddarllenwyr hoffwn ddiolch i Emyr am ei waith clodfawr am gyfnod mor hir yn gwasanaethu ein papur bro a’r gymuned yn ei chyfanrwydd. Diolch Emyr… bydd colled ar eich ôl. (Bydd yn dal i ddosbarthu’r papur yn fisol o fewn ei ardal arferol yn Llan).  


Yn ogystal bu i Vivian  ymddeol fel is-ysgrifennydd. Bu Vivian yn Ysgrifennydd Llafar Bro o fis Medi 1988 i fis Medi 2018 ac arhosodd ymlaen fel is-ysgrifennydd tan mis Medi eleni. Diolch o galon i Vivian am flynyddoedd o waith yn hyrwyddo a chefnogi y papur bro, ac er y bydd yn dal y fynychu cyfarfodydd, siŵr o fod, dymunwn ymddeoliad braf a hir iddo.

Cytunodd Paul i aros ymlaen fel Cadeirydd ac felly Shian fel Ysgrifennydd a Sandra fel Trysorydd. Cytunodd y chwe golygydd i barhau yn eu swyddi. Cytunodd Glyn i barhau fel Trefnydd Hysbysebion ac felly Brian a Maldwyn fel Dosbarthwyr Drwy’r Post. Cytunodd Heddus ac Eira i barhau fel Teipyddesau.

Trafodwyd prisiau yn y cyfarfod blynyddol. Mae chwyddiant yn dechrau poeni’r wlad eto ac mae nifer fawr o wasanaethau cymunedol wedi dioddef yn arw yn ystod y pandemig. Mae costau gosod ac argraffu y papur wedi codi ac fel nifer o bapurau newydd ledled y wlad mae’n rhaid i ninnau yma yn Llafar Bro godi pris y papur o 80c i £1 y mis o fis Ionawr ymlaen. 

Dw i’n siŵr i chi gytuno fod Llafar yn werth pob ceiniog ac mae wedi bod yn gwasanethu ein cymunedau ers 1975 ac yn gobeithio parhau am flynyddoedd lawer i ddod … efallai am byth! Mae’n dibynnu are eich cefnogaeth … nid yn unig i brynu y papur yn fisol ond hefyd anfon newyddion y fro i ni er mwyn i ni fedru gwir gynrychioli pob cornel o’r gymuned. Diolch i chi am eich cefnogaeth.

O ganlyniad bydd costau tanysgrifio yn codi fel a ganlyn:

£25 y flwyddyn yng Nghymru a gweddill Prydain;

£53 y flwyddyn yng ngweddill Ewrop. 

Ydy, dan ni’n cytuno fod costau postio yn ddychrynllyd wedi mynd! Ni fydd Llafar yn gwneud dim elw o’r taliadau post wrth gwrs ac mae’r prisiau yn adlewyrchu'r gwir gost.

Diolch i’r holl ddosbarthwyr hen a newydd … maent yn gwneud gwaith rhagorol ac os ydych am ymuno â nhw rhowch wybod i’r cadeirydd.

Byddwn yn dal i gyhoeddi 11 copi y flwyddyn, bob mis ond mis Awst, fel sy’n digwydd rŵan. Byddwn yn parhau gyda chopïau lliw deniadol wedi eu hargraffu yn broffesiynol ac thrwy hyn medrwn gystadlu yn hyderus gyda unrhyw bapur bro arall yn y genedl!

Prynwch Llafar Bro bob mis a buddsoddwch yn eich cymuned!

TVJ

- - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 2021

[Tanysgrifiad digidol £11 yn unig, gyda llaw]


1.12.21

Ysgoldy Bach Tanygrisiau

Yn un o’r lluniau a ddefnyddwyd gan y BBC i gyhoeddi fod ein tref wedi ennill statws safle treftadaeth byd UNESCO, gwelais do  – llechen wrth gwrs – y tŷ lle’m magwyd. Brynmaes yw’r tŷ, yn sefyll rhwng y ffordd a’r graig serth sydd yn cario’r lein bach ac olion Pencraig. Mae hanes hir i’r tŷ.  


Mor fuan a’r 1830au dechreuodd Samuel Holland, y perchennog chwarel, adeiladu yn Nhanygrisiau. Yn ôl CADW, erbyn 1845 roedd 42 o anheddau wedi eu codi, ynghyd â thri capel! Ond mae’r rhan fwyaf o’i adeiladau yn dyddio o’r 1860au – a dyma pryd yr adeiladwyd Brynmaes. 

Mae yn adeilad hollol wahanol i’r tai eraill a godwyd ar y pryd. A’r rheswm yw nad tŷ oedd ei bwrpas, ond ysgol. Mae wedi ei gofrestru yn y cyfrifiad 1871 fel Holland’s School, yno rhwng Maesygraean ar yr un ochr a Phenygarreg a Fron Haul ar y llall – safle berffaith i ysgol yng nghanol y pentref. 

Ysgol breifat oedd, yn cael ei chefnogi gan Mrs Anne Holland fyddai yn cymryd diddordeb mawr yn ymdrechion ei gŵr. Yr athrawes yn 1871 oedd Janet Hughes (57), ac yma oedd hi’n byw hefyd hefo’i gŵr John Hughes, clerc o chwarel Holland, a’u merch Jane oedd yn cadw tŷ iddynt.


Adeilad o ddau hanner hollol wahanol oedd hwn. Lle byw y teulu oedd yr hanner chwith: cegin fawr a chegin gefn fach, grisiau a dwy lofft. Yr ochr dde oedd yr ysgol. Wrth fynd i mewn drwy’r drws ffrynt, roedd lobi fach a grisiau eraill ohoni. Ar y dde oedd drws i un o’r ddwy ystafell ddosbarth, hefo lle tân ar y wal bellaf a ffenest fawr yn edrych dros y caeau, ymhell cyn amser Rehau. I fyny’r grisiau oedd yr ystafell ddosbarth fawr. Roedd tair ffenest yn hon, dwy fawr i’r ffrynt ac un fach i’r cefn – hon yr agos dros ben i’r graig tu ôl i’r tŷ. Lle tân yn yr ystafell hon hefyd wrth gwrs.

Nid dyma’r unig ysgol yn yr ardal. Soniwyd yn y Cambrian News yn 1874 am Ysgol Mrs Holland a hefyd am ysgoldy bach arall Samuel Holland yn Llwyngell, Rhiw, yn ogystal ag ysgol arall ddi-enw.

Erbyn 1881, nid Mrs Holland’s School oedd enw’r adeilad ond Ysgoldy Bach. Mae’r teulu Hughes wedi ymadael ac yn eu lle mae Benjamin Jones, ciwrat Eglwys Dewi Sant, a’i wraig a phedwar o blant.  Ar y pryd roedd yr hen Eglwys Tun yn bod yn y cae dros ffordd i res Fron Haul.

Ni fu Benjamin a’i deulu yn byw yn Ysgoldy Bach yn hir iawn. Erbyn 1891 y preswylydd oedd Robert Pugh, chwarelwr, a’i wraig a phump o blant. Bu’r teulu yn byw yno am gryn amser. Ar ôl marwolaeth Robert symudodd ei wraig a’i merched i Lerpwl yn 1914 i gadw tŷ i’w mab, o’r enw Robert fel ei dad.  Yn anffodus, cyhoeddwyd yn yr Herald Cymraeg ym mis Medi fod “Robert Pugh, gynt o Ysgoldy Bach Tanygrisiau, wedi boddi yn China, wrth ddilyn ei orchwyl fel saer ar fwrdd llong”. 

William ac Ann Roberts oedd y perchnogion nesaf, ac fe newidwyd enw’r adeilad o Ysgoldy Bach i Brynmaes, yn bur debyg i arbed dryswch hefo’r ysgol swyddogol a’i ysgoldy oedd yn Nhanygrisiau erbyn hyn. Serch hynny, Ysgoldy Bach oedd bobl leol yn ei alw am flynyddoedd i ddod.

Ymunodd John mab William ac Ann â’r fyddin a fe’i laddwyd mewn damwain yr yr Almaen, lle ‘roedd yn garcharor rhyfel.  Mae cof amdano ar garreg fedd yn y fynwent yn Llan:  

John, annwyl fab William ac Ann Roberts, Brynmaes Tanygrisiau, bu farw yn Germani, Medi 5ed 1917 yn 19 oed, ac a gladdwyd yn Cologne. 

Yn 1925 bu farw William ei dad ond bywiodd ei fam tan 1952. ‘Roedd yn 88 mlwydd oed pan farwodd.

Dw i ddim yn siwr tan pryd y bu Ann Williams fyw yn Brynmaes, ond yn 1951 ‘roedd y tŷ wedi bod yn wag ers tro pan ddaru fy rhieni, fy mrawd Iwan a finnau gyrraedd yno o Rhiw. Dyma’r lle y magwyd fi – a lle arbennig i dyfu i fyny oedd. Efallai bod ambell i ddarllenwr yn cofio gweld fy nhad a mam yn eistedd ar yr hen stelin lechen tu allan i’r tŷ?

Efallai hefyd bod gan rhywun wybodaeth neu atgofion o Brynmaes – baswn wrth fy modd yn clywed amdanynt.
Alwena Brynmaes
- - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2021