Wedi ei ariannu gan Gyngor Tref Ffestiniog, mae’r Ysgoloriaeth yn rhoi cyfle i berson ifanc, rhwng 16 a 30 mlwydd oed o Fro Ffestiniog ymweld â thref Rawson yn Nhalaith Chubut, Patagonia yn yr Ariannin, sy’n efeilldref i Ffestiniog.
Bwriad yr Ysgoloriaeth ydy cryfhau’r berthynas rhwng Stiniog a thref Rawson. Aeth nifer o bobl o Ffestiniog i Batagonia ar long y Mimosa ym 1865 i ymsefydlu yno, gan greu cymuned o siaradwyr Cymraeg sydd, wrth gwrs, yn dal i fodoli heddiw.
Yn y seremoni, nododd Cadeirydd Panel y Beirniaid, Tecwyn Vaughan Jones, mai dyma’r degfed tro i Gyngor Tref Ffestiniog ddyfarnu’r Ysgoloriaeth a’i bod hi bellach yn werth £2,000 ... sy’n swm anrhydeddus iawn. Llongyfarchodd y Cadeirydd y Cyngor Tref am eu gweledigaeth a’u buddsoddiad yn nyfodol y berthynas hon rhwng y ddwy dref.
Dywedodd bod ysgoloriaeth unigryw fel hon ymysg cynghorau cymuned a thref Cymru yn rhywbeth ardderchog i’w arddel. Roedd tri pherson ifanc teilwng wedi ymgeisio eleni – sy’n hynod galonogol.
Eglurodd Cadeirydd y Panel iddo yntau a’i gyd-feirniaid, Ceinwen Humphreys, Anwen Jones a Nans Rowlands, wneud penderfyniad ar sail y ceisiadau ysgrifenedig yn unig, heb wybod enwau’r ymgeiswyr. Nododd fod cais yr ymgeisydd buddugol, Lowri Francis Jones, yn ‘grynodeb da a grymus mewn iaith goeth, ac mae’n gosod ei bwriad yn eglur ac yn dangos sut y bydd ei bwriad yn cael ei wireddu’.
Mae’r ymgeisydd yn sôn ei bod yn athrawes Gymraeg a buasai diwylliant a iaith y Cymry ym Mhatagonia yn bwysig iawn i’w chynlluniau petai’n ennill. Mae hefyd yn gobeithio y byddai ei phrofiad yn ymestyn ei gallu i ddysgu ei disgyblion am Batagonia. Sonia bod cerddoriaeth a’r iaith Gymraeg wedi bod yn rhan annatod o’i bywyd bob dydd. Mae hi wedi canu a pherfformio mewn eisteddfodau a chyngherddau ynghyd â pherfformio eitemau o gerdd dant a chaneuon gwerin.
Ymhyfryda Lowri ei bod yn ddisgynnydd i’r Telynor Dall o Feirion – David Francis, Llys y Delyn, Rhiwbryfdir a agorodd ddrws ei gaban i nifer o egin-ddatgeiniad cerdd dant i drafod y gelfyddyd, i ganu ac i ddysgu gosod gair ar gainc yn nechrau’r ganrif ddiwethaf. Mae Lowri yn canu’r piano hefyd. Mae eisoes wedi cael cyfle i sôn am hanes y Cymry ym Mhatagonia gyda’i disgyblion ysgol. Fel un sydd hefyd yn ffarmwraig, dangosa ddiddordeb mawr mewn canfod pa fath o amaethyddiaeth sy’n nodweddu’r cymunedau gwledig o gwmpas Rawson.
Ychwanegodd Tecwyn Vaughan Jones fod y ddau gais arall a dderbyniwyd hefyd wedi gwneud argraff ar y beirniaid a’u bod yn mawr obeithio y byddan nhw’n ystyried cystadlu am yr ysgoloriaeth eto yn y dyfodol.
Dros y ddeng mlynedd ddiwethaf, mae naw person ifanc o Ffestiniog wedi ymweld â Rawson ar ôl ennill Ysgoloriaeth Patagonia, sef Mia Jones, Elin Roberts (ddwywaith), Lleucu Gwenllian, Mark Wyn Evans, Hanna Gwyn, Gari Wyn Jones, Terry Tuffrey, Gethin Roberts a Cadi Dafydd.
Dyma ddolen at hanes rhai o'r teithiau
Felly, bydd Lowri yn teithio i’r Ariannin nes ymlaen eleni. Mae Cyngor Tref Ffestiniog yn dymuno pob lwc iddi hi draw ym Mhatagonia ac yn edrych ymlaen at glywed am ei phrofiadau yno.
Diolch hefyd i’r pedwar beirniad am eu gwaith cydwybodol yn pwyso a mesur y gwahanol geisiadau.
- - - - - - -
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2026


No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon