23.7.26

Cadeiriau'r Ysgwrn

Yr haf hwn, mae'r Ysgwrn wedi croesawu cadair genedlaethol arall a grëwyd gan y saer a’r ffoadur o Wlad Belg - Eugene Van Fleteren yno. Dyfarnwyd y gadair i’r bardd a’r gweinidog John Thomas Job yn Eisteddfod Genedlaethol Castell-nedd 1918, a chaiff ei harddangos ym mharlwr Yr Ysgwrn tan yr hydref. Am y tro cyntaf erioed, bydd hi’n eistedd ochr yn ochr â Chadair Ddu enwog Hedd Wyn.

‘Fleur-de-lis’ oedd bardd cadeiriol Eisteddfod Genedlaethol Penbedw ym 1917. ‘Yr Arwr’ oedd testun yr awdl a gwyddom mai’r llanc ifanc 30 oed o Drawsfynydd - Ellis Humphrey Evans [Hedd Wyn] oedd hwnnw. Fe’i lladdwyd ar ddiwrnod cyntaf Brwydr Passchendaele ar 31 Gorffennaf 1917 - rai wythnosau cyn cyhoeddi ar lwyfan y Brifwyl mai fo oedd y Prifardd. Mae’r hanes yn gyfarwydd iawn i ni.

Awdl yn y mowld rhamantaidd oedd un Hedd Wyn. Nododd beirniaid y gystadleuaeth ei bod ‘o ran iaith a mydr a chynghanedd, yr orau’n y gystadleuaeth’ a’n bod ‘yng nghwmni gŵr o ddychymyg a menter’. Cyflawnwyd cryn gamp gan y bardd di-goleg o’r Traws. Pery hyn i ni ddychmygu beth fyddai ei hanes petai wedi cael byw.

Eu Nêr a Folant’ osodwyd yn destun yr awdl ym 1918 - blwyddyn ola’r Rhyfel Mawr. Dyma destun ‘a lithrodd yn ôl i’r hen, hen rigolau’ yn ôl yr Prifardd a’r ysgolhaig, Alan Llwyd. Awdl ddiwinyddol a thraethodol a ddisgwyliwyd felly. ‘Enaf’ oedd ffug-enw’r bardd a gadeiriwyd - sef, John Thomas Job – a anwyd yn Llandybie, Sir Gaerfyrddin. Roedd eisoes wedi ennill y gadair genedlaethol ddwywaith - yng Nghasnewydd (1897) a Llanelli (1903) a’r goron yn Lerpwl (1900). Cafwyd ynddi ‘ddisgrifiadau o Gymru’r Emynau: yr addoliad, yr Ysgol Sul a’r gymanfa ganu’.

Mae un llinell o awdl J.T Job yn un a ddefnyddiwyd laweroedd o weithiau i ddisgrifio’r emynyddes o Ddolwar Fach ym Mwynder Maldwyn - Ann Thomas (Griffiths). Hyd nes i mi fwrw golwg ar yr awdl yn ddiweddar, wyddwn i ddim mai yno yr ymddangosodd y llinell fawr honno – un a ddefnyddiais sawl tro fy hun wrth gyfeirio at Ann:

‘Hithau a enwaf weithian:
Y danbaid, fendigaid Ann ...’

[Gyda llaw, ‘Enaf’ oedd enw cyntaf mab J.T Job – Enaf Morrice Job 1918-94 a briododd Gwenhwyfar Ellis Wiliams 1923-2018 oedd yn gyfyrdres i fy nhad. Dyma rieni’r Parchedig Dafydd M. Job fu’n weinidog Eglwys Efengylaidd Bangor - Capel y Ffynnon - am dros 40 mlynedd]                                        IM
- - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2026

    
 

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon