Mae’r gwanwyn bellach yma, ac er bod y tywydd wedi bod yn gymysg iawn dros yr wythnosau diwethaf, mae hi’n braf gweld arwyddion o ddyddiau gwell i ddod yma yn Antur Stiniog.
Mae gwaith yn parhau ar adeiladau Bolton ac Ephraim, gyda chynnydd da yn cael ei wneud er gwaethaf yr heriau.
Fel y soniwyd o’r blaen, mae’r gwaith o ailadeiladu’r ffasâd yn broses ofalus iawn, ac rydym yn falch o allu dweud bod y prosiect yn symud ymlaen yn wych.
Mae’n galonogol gweld crefftwyr lleol yn rhan o’r gwaith yma, gan sicrhau bod cymeriad unigryw’r adeiladau yn cael ei warchod ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Arwydd ar safle'r gwaith.
Yn Siop Eifion Stores, mae’r gwelliannau diweddar yn cael croeso cynnes gan gwsmeriaid, ac mae’r cownter newydd yn sicr wedi dod yn ganolbwynt i’r siop. Mae’r ffenestri newydd bellach wedi’u gosod ac arwyddion newydd yn eu lle hefyd. Rydym yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth barhaus gan y gymuned leol, ac mae’n hyfryd gweld cymaint yn galw heibio i fwynhau’r gofod newydd.
Mae datblygiadau hefyd wedi digwydd i’r adeilad fyny yn y ganolfan feicio, gyda feranda newydd ar du blaen yr adeilad. Rydym wedi cael rhan o’r costau wedi’u talu drwy grant gan Lywodraeth Cymru.
Fel y gwelwch or llun mae tu blaen yr adeilad bellach wedi cael ei warchod rhag y glaw - er, wrth gwrs, prin iawn yw’r glaw yma ym Mro Ffestiniog! Bydd y feranda newydd yma ar gael i feicwyr a chwsmeriaid i lochesu rhag y tywydd, rhag ofn i ni gael ambell gawod annisgwyl.Sioned Davies-Williams
Swyddog Marchnata Antur Stiniog
- - - - - -
Addasiad o erthygl a ymddangosodd yn rhifyn Ebrill 2026
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon